Angen corff i wella mynediad i'r Gymraeg i leiafrifoedd

20/02/2017

Categori: Iaith, Newyddion

Dylai rhedeg prosiectau i wella mynediad lleiafrifoedd ethnig ac ieithyddol eraill at y Gymraeg fod yn flaenoriaeth i gorff newydd sy'n cael ei sefydlu i hyrwyddo'r iaith, yn ôl mudiad iaith.

Mewn papur am strwythur y corff hyrwyddo newydd y mae Llywodraeth Cymru wedi addo ei sefydlu, mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud y dylai sicrhau bod cynyddu mynediad at yr iaith ymysg pobl o gefndiroedd lleiafrifol fod yn flaenoriaeth. Mae'r syniadau ym mhapur Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnwys:

 

  • Rhoi cyfrifoldeb i'r corff hyrwyddo newydd redeg prosiectau i wella mynediad at y Gymraeg ymysg lleiafrifoedd ethnig ac ieithyddol erail.
  • Sefydlu prosiectau newydd i gynyddu mynediad at y Gymraeg ymysg cymunedau difreintiedig
  • Sefydlu cynllun gwersi Cymraeg rhad ac am ddim i grwpiau fel mudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, o'r enw "Cymraeg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill" 

 

Dywedodd Carl Morris, aelod o Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ‘Fel rhywun o dras Tsieniaidd, dwi'n meddwl bod y diffyg sylw sy'n cael ei roi i hybu'r Gymraeg ymysg lleiafrifoedd yn annheg a ddweud y gwir. Mae nifer o ymdrechion pwysig gan wirfoddolwyr ar lawr gwlad, ond dylai fe fod yn rhan bwysig o waith hyrwyddo'r Gymraeg yn genedlaethol hefyd. Ac er bod rhai cyrff yn gwneud gwaith clodwiw, dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi sefydlu cynllun cenedlaethol i gefnogi'r arfer da hwnnw.

"Mae angen, mewn ardaloedd yn Nwyrain y wlad yn enwedig, sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg yn wirioneddol gymunedol - mae angen rhagor o ysgolion Cymraeg mewn ardaloedd difreintiedig. Mae'n wych bod Ysgol Hamadryad yn agor yng Nghaerdydd, ond mae hynny'n enghraifft prin iawn ac yn dilyn blynyddoedd o frwydro gan y gymuned leol."

 

Dim ond gwersi Saesneg

 

Ar hyn o bryd, dim ond gwersi Saesneg sy'n cael eu cynnig yn rhad ac am ddim i fudwyr, ffoaduriad a cheiswyr lloches drwy gynllun o'r enw "English for Speakers of Other Languages", neu ESOL. Felly, mae'r mudiad hefyd yn galw am gynllun "Cymraeg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill" a fyddai'n cynnig gwersi Cymraeg yn rhad ac am ddim i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Ychwanegodd Carl Morris: "Rydyn ni hefyd yn meddwl ei fod yn annheg bod y rhan fwyaf o fudwyr yn gorfod talu am wersi Cymraeg tra bod gwersi Saesneg yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim. Mae'r system yn cau pobl mas o'r Gymraeg."

Mae'r mudiad hefyd yn argymell y dylai'r corff hyrwyddo newydd flaenoriaethu prosiectau i hyrwyddo trosglwyddiad iaith yn y teulu, prif-ffrydio addysg Gymraeg a chodi ymwybyddiaeth o hawliau iaith newydd.

 



Wrth siarad am yr angen i'r corff fod yn rhan o ddeddfwriaeth hawliau iaith ehangach, ychwanegodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Fydd na ddim modd i'r corff newydd yma weithio'n effeithiol heb ddeddf gref tu ôl iddo. Dylai sefydlu'r corff newydd fynd llaw yn llaw â chryfhau Mesur y Gymraeg felly. Drwy newid ymddygiad a newidir agweddau; a deddfau sy'n newid ymddygiad. Cefnogi'r ddeddf iaith newydd mae'r Llywodraeth yn ei pharatoi ar hyn o bryd ddylai'r corff hyrwyddo ei wneud. Heb gryfhau'r ddeddfwriaeth, bydd ymdrechion unryw gorff newydd i hyrwyddo'r iaith yn ofer."

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru