Angen i Brydain a'r Undeb Ewropeaidd osgoi trychineb Brexit heb gytundeb, yn ôl Undeb amaeth
Categori: Amaethyddiaeth, Arian a Busnes, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Gydag ychydig dros chwe wythnos i fynd cyn diwedd cyfnod ymadael yr UE, mae'r FUW wedi annog Prydain a'r Undeb Ewropeaidd i osgoi trychineb o Frexit heb gytundeb, a hynny ar bob cyfrif.
Daw’r alwad ddiwrnod ar ôl i Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig George Eustice gydnabod ar sioe Andrew Marr y BBC y byddai’r sector defaid yn wynebu heriau penodol mewn senarios heb gytundeb oherwydd tariffau o oddeutu 40% ar allforion cig oen i’r UE, ond ceisiodd leddfu’r effeithiau ar gyfer sectorau amaethyddol.
Dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts, “Y gwir amdani yw y byddai methu cytuno ar gytundeb fasnach yn cael effaith drychinebus, a hynny’n gyflym iawn, ar ein sectorau amaethyddol gyda’r sector defaid yn debygol o deimlo’r effaith fwyaf difrifol.
“Byddai hefyd yn achosi aflonyddwch aruthrol i fwyd a chadwyni cyflenwi eraill ac yn achosi anrhefn lwyr yn ein porthladdoedd.”
Dywedodd Mr Roberts y byddai methiant o’r fath hefyd yn cael effeithiau dinistriol ar fusnesau’r UE, a’i bod felly er budd yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig i fynd ati o ddifrif i gytuno ar gytundeb.
Fe wnaeth Mr Roberts hefyd wrthod honiadau gan y Prif Weinidog Boris Johnson y bydd y DU 'yn ffynnu' heb gytundeb fasnach yr Undeb Ewropeaidd.
“Ni allwch wahanu eich hun oddi wrth economi a bloc masnachu mwyaf y byd yn anterth pandemig byd-eang, y dirwasgiad gwaethaf ers canrif ac ar ôl benthyg chwarter triliwn i ymdopi a meddwl y bydd popeth yn mynd yn iawn.
Trychineb
“Nid yn unig y byddai hyn yn drychinebus o niweidiol o safbwynt economaidd, ond ar lefel ymarferol nid yw’r wlad yn barod i ymdopi â llif o nwyddau drwy’n ffiniau a’r holl waith papur a gwiriadau sydd eu hangen ar hyn.”
Dywedodd Mr Roberts, er bod porthladdoedd yr UE sy'n wynebu'r DU wedi ymgymryd â newidiadau sylweddol i baratoi ar gyfer gwahanol senarios Brexit, roedd llawer o borthladdoedd y DU yn dal i fod yn y camau cynnar o gynllunio seilwaith newydd ac ni fyddent yn barod i ymdopi â symud nwyddau tan o leiaf fis Gorffennaf blwyddyn nesaf.
“Hyd yn oed os deuir i gytundeb, rydym yn wynebu costau ychwanegol ac aflonyddwch sylweddol o ganlyniad i rwystrau di-dariff oherwydd penderfyniad Llywodraeth Prydain i adael y Farchnad Sengl a’r undeb tollau.
“Byddai dim cytundeb yn cynyddu’r rhain yn ddifrifol a rhaid ei osgoi ar bob cyfrif,” ychwanegodd.