Angen mwy o sylw i'r Gymraeg wrth godi tai newydd

20/06/2017

Categori: Amgylchedd, Iaith, Newyddion

Mae’r mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi galw am well sylw i’r Gymraeg wrth benderfynu ar faterion cynllunio wrth godi tai newydd.

Mae’r mudiad yn ymwybodol bod cwmni cartrefi Redrow, sy’n gyfrifol am ddatblygiad Goetre Uchaf, ym Mangor, yn marchnata’r cartrefi newydd yn uniongyrchol at brynwyr tu allan i Gymru. Mae un o’r hysbysebion uniaith Saesneg yn annog “symud i Ogledd Cymru”, gan ganmol adnoddau naturiol yr ardal.

 

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol,“Mae’r strategaeth farchnata hon yn dangos yn glir y farchnad darged ar gyfer datblygiadau o’r math, ac yn cadarnhau ein pryder ynglŷn â chymeradwyaeth diweddar Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ddatblygiad arall o 336 o dai ym Mhen y Ffridd. 

 

Dim fframwaith asesu digonol

 

Ychwanegodd Heini Gruffudd, "Clustnodwyd nifer fechan o dai yng Nghoetre Uchaf fel unedau fforddiadwy, ond heb fframwaith asesu digonol i ystyried yr oblygiadau ieithyddol, esgus yw hyn yn y bôn. Byddwn yn pwyso drachefn am strwythur a methodoleg gadarn a grymus i asesu gwir effaith datblygiadau o’r math ar y Gymraeg.“

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru