Ani Glass yn ennill albwm Cymraeg y flwyddyn
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Hamdden, Iaith, Newyddion

Ani Glass sy’n derbyn Tlws Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni am ei halbwm Mirores a gyhoeddwyd ar label NEB.
Cyhoeddwyd hyn mewn rhaglen arbennig ar BBC Radio Cymru dros y penwythnos fel rhan o Eisteddfod AmGen.
Daeth Ani i amlygrwydd am y tro cyntaf ar ddiwedd y 00egau yn aelod o’r grŵp indie pop Pipettes gyda’i chwaer fawr Gwenno Saunders. Yn dilyn cyfnod gyda’r band o Gaerdydd ‘The Lovely Wars’ ymdangosodd fel Ani Glass am y tro cyntaf yn 2015 gan ryddhau EP ‘Ffrwydrad Tawel’ yn 2017 a chychwyn ar siwrne Ani gyda Recordiau Neb.
Mae’r albwm, sydd wedi ei chynhyrchu gan Glass ei hun wedi ei ysbrydoli gan y ddinas sydd wedi bod yn gartref iddi am ran helaeth o’i bywyd, Caerdydd, gyda theitl yr albwm yn cael ei gymryd o gyfuno enw'r arlunydd Miró a'r gair "MIRAS "--Cernyweg am "i edrych "--gyda'r bwriad o awgrymu person yn arsylwi.
Dywedodd Elan Evans, un o’r beirniaid, “Mae Mirores yn gampwaith o'r cychwyn i'r diwedd - mae'n cyfuno synau arbrofol, lyrics clyfar o dan haen drwchus o bop perffaith. Rydw i mor falch mai albwm Ani Glass sydd wedi dod i'r brig eleni, mae'n albwm sy'n mynd â chi ar daith, ac mae'n bleser llwyr i fod ar y daith honno. Roedd safon y gystadleuaeth eleni yn aruthrol o uchel, a phob un albwm ar y rhestr fer yn haeddu bod yna, pob clod i bob un ohonynt, a diolch mawr am y wledd o gerddoriaeth.”
Meddai Guto Brychan, un o drefnwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn ar ran yr Eisteddfod, “Roedd gennym restr fer hynod eclectig eleni, gyda phob math o genres cerddorol yn cael eu cynrychioli. A braf oedd cael cyfle i drafod yr albymau gyda phanel ardderchog, oedd â barn gref am bob un o’r albymau a gyrhaeddodd y rhestr fer.”
Dyma’r chweched tro i’r Eisteddfod gynnig gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn, gyda Mellt, Bendith, Swnami, Gwenno Saunders a’r Gentle Good yn dod i’r brig ers cychwyn y gystadleuaeth yn 2014.
Yr 11 albwm ar y rhestr fer oedd:
· 3 Hwr Doeth - Hip Hip Hwre
· Ani Glass - Mirores
· Carwyn Ellis & Rio 18 - Joia!
· Cynefin - Dilyn Afon
· Georgia Ruth - Mai
· Gruff Rhys - PANG!
· Gwilym Bowen Rhys - Arenig
· Los Blancos - Sbwriel Gwyn
· Llio Rhydderch - Sir Fôn Bach
· Mr - Amen
· Yr Ods - Iaith y Nefoedd
Cyd-weithio
Meddai Gareth Iwan, Pennaeth Cerddoriaeth BBC Radio Cymru, Mae Radio Cymru2 yn hynod falch o fod wedi cyd-weithio hefo Ani, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Owain Roberts o Fand Pres Llareggub i greu fersiynau unigryw o ganeuon o’r albwm buddugol, Mirores. Mae’r trefniannau newydd yn amlygu cryfder y caneuon a llais Ani yn berffaith.”
Dywedodd Ani Saunders, "Roedd yn fraint cael bod ar y rhestr fer ymhlith grŵp o artistiaid mor ffantastig ac felly mae hi bron yn amhosib i mi ddisgrifio'r syndod o glywed y newyddion anhygoel yma! Fi mor ddiolchgar i'r Eisteddfod a Radio Cymru am gydlynu’r wobr hon ynghyd â'r holl ddigwyddiadau sy'n rhan o'r Eisteddfod a’r ŵyl Amgen, a hynny yn ystod cyfnod mor rhyfedd ac ansicr. Ond diolch yn enwedig i bawb sy'n parhau i greu a gweithio'n galed er mwyn cynnal a thyfu diwylliant bywiog ein gwlad fach."
Bydd Ani yn derbyn tlws wedi’i gomisiynu’n arbennig ar gyfer yr achlysur gan Ann Catrin Evans.