Annwn yn rhyddhau sengl newydd i gefnogi achos yr Llydaweg

02/07/2021

Categori: Addysg, Cerddoriaeth, Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Digon yw cân bedair-ieithog diweddaraf ANNWN sef prosiect ar cyd rhwng yr rapiwr adnabyddus Mr Phormula neu Ed Holden a'r gantores a'r gyfansoddwraig amlwg, Lleuwen Steffan.

"Aux élèves des écoles, il  est défendu de parler breton et de cracher à terre" . Dyma un o linellau'r gan ac oedd ar bosteri ar waliau ysgolion Llydaw tan diwedd y 60au.  Yn Gymraeg, mae'n golygu  "i blant yr ysgolion , gwaherddir siarad Llydaweg a phoeri ar lawr." 

 

Mae'r hanes dal yn fyw. Yn ddiweddar, mae addysg Llydaweg wedi ei wneud yn anghyfreithlon yn ol Adran 2 cyfansoddiad Ffrainc. Yn ol y gyfraith hon, mae llythrennau Llydaweg megis ñ a c'h yn troi'n anghyfreithlon hefyd ac enwau  bedydd sy'n cynnwys y llythrennau hyn yn  cael eu addasu ar gyfer dogfennau swyddogol . 

 

Dim hawliau i'r Llydaweg

 

Yn ôl y datganiad gan Pyst, "Does gan blant Llydaw ddim hawl i gael eu addysg drwy gyfrwng y Llydaweg ac nid oes ganddynt hawl i siarad efo eu athrawon yn Llydaweg  chwaith, na siarad Llydaweg amser chwarae efo eu ffrindiau. Mae hyn oherwydd bod adran 2 cyfansoddiad Ffrainc yn mynegi mai Ffrangeg yw unig iaith gweriniaeth Ffrainc."

 

Mae sengl hon yn cael ei rhyddhau heddiw.