Ansicrwydd Brexit yn peri pryder i'r diwydiant cig yng Nghymru

26/01/2018

Categori: Amgylchedd, Arian a Busnes, Bwyd, Newyddion

Bu Rheolwr Datblygu’r Farchnad yn Hybu Cig Cymru, Rhys Llywelyn, yn defnyddio araith i gynhadledd amaethyddol bwysig i amlinellu’r sialensau y mae Brexit yn ei achosi o ran allforio cig coch.

Dywedodd Rhys Llywelyn wrth rai o arweinwyr y diwydiant yng nghynhadledd Gymreig  CARAS (Council for Awards of Royal Agricultural Societies) yn Aberystwyth ar Ddydd Gwener 26 Ionawr fod yr ansicrwydd dros a fydd ‘Bargen neu Beidio’ – hynny yw, os fydd masnach di-rwystr gydag Ewrop yn parhau ar ôl 2019 – yn gosod her unigryw o ran hyrwyddo cig coch.

 

“Mae allforion yn bwysig iawn i’n diwydiant gan eu bod yn helpu i gynnal prisiau yn y tymor pan fo llawer o gig ar y farchnad. Yn achos cig oen hefyd mae’n cynnig ffordd i gydbwyso’r carcas, gan fod yn well gan gwsmeriaid tramor doriadau gwahanol i bobl Prydain,” esboniodd Rhys.

 

Dywedodd fod masnach dramor wedi cynyddu yn 2017, gyda pherfformiad addawol iawn mewn marchnadoedd fel yr Almaen, ond fod dyfodol y busnes yma yn ddibynnol ar os y bydd Cytundeb Masnach Rydd rhwng Ewrop a Phrydain cyn i Brexit ddigwydd ym mis Mawrth 2019.

 

“Oherwydd yr ansicrwydd mae blaenoriaethu lle i wario adnoddau prin yn sialens i HCC,” meddai Rhys. “Os y bydd Cytundeb Masnach, bydd cynnal ein perthynas gyda manwerthwyr a mewnforwyr bwyd yn Ewrop yn hanfodol. Ond os na fydd bargen, mae’r posibiliad o dollau uchel i allforio i Ewrop o dan reolau WTO yn golygu fod rhaid blaenoriaethu datblygu marchnadoedd newydd hefyd, ac hefyd gwneud y mwya o’r farchnad gartre.”

 

Cymorth at gynllun allforion

 

“Ry’n ni’n ffodus o gael cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ein cynllun datblygu allforion, ond mae’n gyfnod heriol,” ychwanegodd. “Mae nifer o agweddau allan o’n rheolaeth, fel Cytundebau Masnach Rydd, ac hefyd cael mynediad i wledydd lle nad oes gennym yr hawl hyd yn hyn i werthu cig coch, fel Siapan a Saudi Arabia. Ond byddwn yn parhau i weithio ar sawl elfen ar unwaith, gyda chymorth ein ffermwyr a phroseswyr, er mwyn gwneud y mwya o’r cyfleon dros y ddwy flynedd nesaf.”