Wedi darganfod 15 cofnodion | Tudalen 1 o 2
Ryseitiau ar gyfer y Nadolig - Y twrc...
05/12/2014
Categori: Bwyd
Y twrci rhost perffaith
Digon i 8-10
Cynhwysion
1 twrci yn pwyso 10-12lb
6L o ddwr
150g halen mor
1 oren, wedi’i dorri’n gwarteri
12 clôf
2 seren anise
1 darn o sinsir ffres
110g mêl clir
2 llond llaw o teim ffres
1 winwns, wedi’i dorri’n gwarteri
125g menyn heb ei halltu
6 deilen llawryf
Dull
Golchwch y twrci tu fewn a thu allan a’i bwyso cyn ei rhoi i fwced neu gynhwysydd digon mawr i’w ddal gyda 6 litr o ddwr.
Twymwch 2 litr o’r dwr ynghyd â’r speisys, mêl, halen a 4 deilen llawryf tan bod yr halen a’r mêl wedi toddi. Gadewch i oeri cyn ...
Ryseitiau ar gyfer y Nadolig - Gwin P...
05/12/2014
Categori: Bwyd
Gwin Poeth Sbeislyd
Cynhwysion
700ml o ddŵr
110g siwgr brown
1 potel o win coch
1 oren
1 lemwn
1 llawryf
6 cardamom wedi’u malu
6 clôf
1 seren anise
1 ffon sinamon
Dull
Rhowch y dŵr a’r siwgr mewn sosban mawr a toddwch y siwgr dros wres cymhedrol. Clymwch y cardamom, clôfs, seren anise a’r llawryf mewn mwslin ac ychwanegwch i’r dwr gyda’r ffon sinamon a gadewch i fwydo am 10 munud.
Tynnwch y croen oddi ar y ffrwythau gan osgoi y gwyn ac ychwanegwch i’r dŵr. Arllwyswch y gwin a gadewch i dwymo yn raddol, heb ferwi, am tua 40 munud.
Torrwch y ffrwythau yn ddarnau ac ychw ...
Ryseitiau ar gyfer y Nadolig - Mins p...
05/12/2014
Categori: Bwyd
Mins peis Penderyn gyda macarwn
Dyma un o’n hoff ryseitiau ar gyfer ‘mins peis’ sydd hyd yn oed yn fwy blasus gyda briwgig cartref! Cadwch lygaid wrth eu coginio i sicrhau bod y crwst wedi’i goginio a’r top heb frownio ormod. Yr her fydd dim ond bwyta un ar y tro!!
Gweini 12
8owns/225g crwst brau
8owns/225g briwfwyd da
2 owns hulif/50ml wisgi Penderyn Single Malt
Croen ½ oren
2 gwyn wy
3owns/175g siwgwr man
4owns/100g cnau almwnd wedi’u malu
Tun cacennau 12 twll wedi’i iro
Dull
Rholiwch y crwst a thorrwch 12 siap crwn gyda thorrwr crwst 3”/7.5cm . Defnyddiwch y darnau i leinio’r tun cacen ...
Ryseitiau ar gyfer y Nadolig - Stwffi...
05/12/2014
Categori: Bwyd
Stwffin cnau castan a pherlysiau
Digon i lenwi gwydd mawr neu dwrci cymedrol
Cynhwysion
1 winwnsyn mawr
100g o fenyn heb ei halltu
Halen a phupur
100g cig moch wedi’i fygu neu pancetta
1 clwstr o berllys, wedi’u dorri
1 clwstr o saig, wedi’u dorri
250g briwsion bara
1 wy mawr
150g cnau castan, wedi’i coginio a thorri’n darnau bach
Croen 1 oren wedi’i gratio
Dull
Torrwch y winwns yn fân iawn a choginiwch yn y menyn am 15 munud dros wres cymhedrol. Ychwanegwch y cig moch a choginiwch am 10 munud cyn rhoi’r gymysgedd mewn bowlen gyda’r perllys, saig a’r briwsion a’i gymygsu’n ...
Ryseitiau ar gyfer y Nadolig - Pice l...
05/12/2014
Categori: Bwyd
Pice llugaeron a siocled gwyn
Twist ar y rysait traddodiadol yw hwn a gallwch ddefnyddio cynhwysion eraill fel cnau coco a jam yn y canol, siolced tywyll ac oren, cnau pistachio a lemon ayyb. Mae’r opsiynau yn hirfaeth!
Cynhwysion
225g blawd codi
Pinsiad o halen
110g menyn
50g siwgr gwyn mân
50g llugaeron sych
75g siocled gwyn wedi dorri’n fân
1 wy mawr wedi’i guro
Ychydig o laeth os oes angen i gymysgu
Dull
Hidlwch y blawd a’r halen i bowlen gymysgu a rhwbiwch y menyn i’r gymysgedd tan ei bod yn edrych fel briwsion bara. Ychwanegwch y siwgr, llugaeron a’r siocled gwyn a chymysgwch i wasgaru’r cynhwys ...
Golwg yn ôl ar 2011 drwy gyfrwng fideo
28/12/2011
Categori: Ar-lein, Chwaraeon, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion
EDRYCH YN ÔL AR 2011 - Golwg yn ôl ar 2011 drwy gyfrwng fideo
Rhai o'r digwyddiadau pwysig neu ddiddorol gafodd eu hadrodd yn ystod 2011 ar wefan BBC Cymru drwy gyfrwng fideo.
IONAWR
Aeth Craig Duggan i Feirionnydd i glywed mwy
Parhau yn fregus mae rhagolygon economaidd ac felly cynyddu mae pris aur ar farchnadoedd y byd.
Yng Nghymru mae panio am aur wedi bod yn digwydd ers canrifoedd mewn rhai ardaloedd.
Ond ar hyn o bryd nid yw panio yn cael ei ganiatáu yn un o'n ardaloedd aur enwoca' - ardal Dolgellau - oherwydd pryder am yr effaith ar yr amgylchedd.
...
Wedi cael digon o fwyta twrci? Beth a...
28/12/2011
Categori: Bwyd
Diolch i Sioned Mills - Sgwennu Llefenni am y Blog yma:
Unwaith eto, dwi heb fod yn blogio ers sbel, ymddiheuriade! Ond, mae’r dyddiadur bwyd dal yma er mod i ddim ddigon dewr i gyhoeddi llawer, fel esiampl mae na drychineb pobi go iawn yn dod yn y post nesa!
Dyma nhw y burgers cartref, post anhymorol arnai ofn, ond blasus tu hwnt. Sori o flaen llaw i’r llysieuwyr sy’n darllen, sgipiwch y post yma.
Heno benderfynon ni hitio’r eidion cyn y wledd Nadolig. Mae hyn i gyd wedi imi wedi cael blas go iawn ar burgers di’w coginio yn eitha amrwd yn Gourmet Burger Kitchen yn y brifddinas (mae na ddau gangen!). Mae’r rhai yn GBK yn d ...
'Carreg filltir' i gyhoeddwyr
27/12/2011
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Newyddion
Am y tro cyntaf mae modd darllen detholiad o lyfrau Cymraeg ar declyn y Kindle.
Mae'r Lolfa wedi cyhoeddi naw o nofelau poblogaidd Cymraeg yn e-lyfrau ar wefan Amazon.
Yn gynharach yn y flwyddyn dywedodd y cyhoeddwyr eu bod yn rhwystredig am nad oedd Amazon yn "gallu cyhoeddi llyfrau Cymraeg" ar y Kindle.
Roedd y wasg wedi gofyn am gyhoeddi llyfrau yn y dull hwn ers 2010 ond mae gwaith technegol yn golygu y gall Amazon gyhoeddi e-lyfrau Cymraeg. '
Yn bell'
"Yn sgil galw nifer o gwsmeriaid dros y flwyddyn rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o'n nofelau poblogaidd ar y Kindle eleni," meddai Garmon Gruffudd o'r Lolfa.
"Gobeithio y bydd hyn yn gyfle i ...
Tybed os mai yn fan hyn y mae Sion Co...
22/12/2011
Categori: Newyddion
Tybed os mai yn fan hyn y mae Sion Corn yn byw? Dyma dy Gareth Edwards sydd yn drydanwr yn ardal y Bala. Os ydych chi yn y cyffunia rhywbryd, mae werth ei weld, ac mae hefyd yn hel tuag at elusenau gwahannol.
Rhaglenni dros y Nadolig ar S4C
21/12/2011
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Rhagflas rhai o raglenni'r Dolig ar S4C, gan gynnwys Noson Lawen Ieuenctid, Pobol y Cwm, Sioe Dolig Tudur Owen, Dim Byd, Cariad@Iaith:Love4Language, Dudley: Pryd o Ser, Jonathan, Seren Nadolig Rhos, Mel a Nia, Rhydian, Only Men Aloud a mwy.
Gwefan S4C