Wedi darganfod 9 cofnodion | Tudalen 1 o 1
Label Recordiau Sain ar werth
20/12/2012
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Newyddion
Mae label Recordiau Sain - a sefydlwyd yn 1969 - yn cael ei roi ar werth.
Dywedodd cyfarwyddwyr y cwmni fod yr amser i werthu wedi dod gan eu bod yn heneiddio.
Nid yw'r cwmni, sy'n cyflogi 24 o bobl - wedi cyhoeddi'r pris gwerthu, ond credir fod ôl-gatalog y cwmni yn werth swm sylweddol iawn.
Y nod yw ei werthu fel busnes hyfyw fel y gall y busnes barhau i fasnachu.
Sefydlwyd Sain yng Nghaerdydd cyn symud i Benygroes ac yna Llandwrog ger Caernarfon yn y 1970au.
Record gynta'r cwmni oedd un gan un o'r cyfarwyddwyr gwreiddiol, Huw Jones, sef 'Dŵr'.
Ers hynny maen nhw wedi recordio cannoedd o artistiaid o bob math o gerddoriaeth, gan gynnwys Bryn Terfel, Catatonia, Gerai ...
Entrepreneuriaid Ifanc yn cael y cyfl...
20/12/2012
Categori: Newyddion
Cynhaliodd Cynllun Mentro Datblygu Gwledig Sir Gâr ddigwyddiad am ddim ar 1 Rhagfyr i arddangos sêr busnes y dyfodol yn yr Hen Ysgol ym Methlehem.
Roedd ‘Bethlehem Wedi’r Hwyr’ yn cynnwys arddangosfeydd, adloniant a marchnad Nadolig â gwaith a chynnyrch gan entrepreneuriaid ifanc Sir Gaerfyrddin wledig.
Cafodd y rhai a fu’n bresennol wledd o berfformiadau byw gan Iona Thomas, cantores a fu’n cefnogi Gary Barlow yn ddiweddar, Frank Thomas sy’n artist y gair llafar o Langadog, y grŵp Aunty Depressants o Lanymddyfri a Rhys Herridge, sydd wedi perfformio yn y West end.
Cafwyd hefyd dwy sioe ffasiwn gan ...
Llywodraeth i brynu Maes Awyr Caerdydd?
18/12/2012
Categori: Newyddion
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn ystyried prynu Maes Awyr Caerdydd.
Yn ôl y Prif Weinidog, Carwyn Jones, maent "wedi dod i gytundeb diwydrwydd dyladwy" gyda TBI, perchnogion y maes awyr, sy'n golygu eu bod yn gorfod gwneud gwaith ymchwil i gefndir ariannol y cwmni.
Byddai'r pryniant yn ddibynnol ar gwblhau ystyriaethau ariannol, cyfreithiol a sicrhau gwerth am arian.
Cadarnhaodd y llywodraeth y bydden nhw'n parhau â'r pryniant petai nhw'n hapus â'r ystyriaethau hyn.
Byddai'r safle yn cael ei reoli ar sail fasnachol gan gwmni ar ran y llywodraeth.
'Heriau'
Yn ystod y 12 mis a aeth heibio, rwyf wedi pwysleisio ...
dotCYM yn dirwyn i ben
14/12/2012
Categori: Ar-lein, Newyddion
Mae dotCYM wrthi’n mynd drwy’r broses o ddatymgorffori. Pledleiswyd yn y Cyfarfod Blynyddol i gau’r cwmni gan nad oes diben i’r cwmni barhau ar ôl i Llywodraeth Cymru roi perchnogaeth o enw a brand y Cymry ar-lein i gwmni preifat o Loegr nad yw’n atebol i’r Cymry.
Fwy nag unwaith rhybuddiom Ieuan Wyn Jones, y cyn-Wenidog gyda chyfrifoldeb am barth lefel-uchaf i Gymru, y byddai gweision sifil Cymru a’r Blaid Lafur yn rhoi’r parth i Nominet yr eiliad y byddai’n colli ei swydd os na fyddai’n sicrhau taw corff Cymreig sy’n atebol i’r Cymry fyddai’n gyfrifol am y parth.
“Wedi pedair mlynedd o Blaid C ...
Gruff Rhys a'r Niwl yn canu Ni Yw y B...
12/12/2012
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth
Gruff Rhys a'r Niwl yn canu Ni Yw y Byd yng Ngwyl Hanner Cant.
*Hosan Santa* - Gwobr rhif 17: Print acrylic Gruff Rhys yn canu Ni Yw y Byd yng Ngwyl Hanner Cant. Rhoddir gan Celfcalon - yma
Comisiynydd y Gymraeg yn cydnabod her...
11/12/2012
Categori: Newyddion
Addysg, tai a gwaith yw’r tri ffactor y mae angen mynd i’r afael â nhw ar fyrder meddai Comisiynydd y Gymraeg.
Mewn ymateb i ystadegau Cyfrifiad 2011 a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws:
“Yn naturiol, rwyf yn siomedig gyda’r ffigyrau hyn, a’r gostyngiad a welwyd yn y niferoedd a’r canrannau drwyddi draw. Er bod disgwyl y byddai’r map ieithyddol wedi newid ers 2001, mae’n wir dweud bod ystadegau a gyhoeddwyd heddiw yn ysgytwad. Efallai bod yna berygl wedi bod i bawb fynd i ryw gyfforddusrwydd artiffisial ddeng mlynedd yn ôl, gan gredu bod tro ar fyd, a bod twf mewn rhai ardaloedd yn gwneud ...
Cyfrifiad 2011 - ‘argyfwng y Gymraeg’
11/12/2012
Categori: Newyddion
‘Mae’r Gymraeg mewn argyfwng’, dyna ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ystadegau Cyfrifiad 2011 a gafodd eu rhyddhau heddiw (Dydd Mawrth, Rhagfyr 11).
Yn ôl y Cyfrifiad, yn 2011 roedd 562,000 (19.01%) o bobl yng Nghymru dros 3 oed yn siarad Cymraeg o’i gymharu â 582,368 (20.76%) yn 2001, gostyngiad o 2.75%. Yn strategaeth iaith Llywodraeth Cymru yn ôl yn 2003, mi oedd targed i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg o 5% i 26%. Fe gwympodd y canran o siaradwyr yn holl siroedd y gorllewin, gyda’r gostyngiad mwyaf yn Sir Gaerfyrddin, ond mi welwyd cynnydd bach yng Nghaerdydd, Rhondda Cynon Taf a Sir Fynwy.
Dywedodd y Gymdeithas y byddan ...
Cyfle i ennill hyd at £1,000
06/12/2012
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Mae 'Sion a Siân' yn chwilio am gyplau i ymddangos yn y gyfres newydd ar S4C!
Cyfle i ennill hyd at £1,000!
Does dim rhaid i chi fod yn briod, a gallwch fod yn gwpl o'r un rhyw.
Dyddiadau ffilmio - Chwefror 23 a 24 a Mawrth 23 a 24, 2013
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni nawr: events@mrproducer.co.uk 029 2091 6667
Tedi bêr Cymraeg cyntaf erioed!
05/12/2012
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Mae’r tedi bêr Cymraeg cyntaf erioed sy’n siarad gyda llais plentyn wedi cyrraedd y siopau.
Cwmni tegannau addysgiadol BabogBaby o Galway yng ngweriniaeth Iwerddon sydd wedi datblygu’r tegan wedi iddyn nhw lunio tedis Gaeleg a Gwyddeleg eu hiaith.
Mae’r arth yn costio £25.00 ac ar gael yn siop Inc. Mae’n siarad gyda llasi Mali Thomas o’r Bont-faen ac mae wedi’i dargedu at blant ifanc rhwng chwe mis a phum mlwydd oed.
Fel ei gefndryd Gaeleg a Gwyddeleg gall yr arth Gymraeg gyfri i 10 ac enwi siapiau a lliwiau. Mae ganddo eirfa eang - 33 gair i fod yn fanwl gywir!
Mae’r tedi Gwyddeleg, a lansiwyd di ...