Wedi darganfod 7 cofnodion | Tudalen 1 o 1
“Gwell Cymraeg slac na Saesneg slic…”...
06/03/2013
Categori: Barn, Iaith
Wrth ymateb i’r hyn a ddatgelodd y Cyfrifiad am sefyllfa’r iaith Gymraeg mae Athro Gwleidyddiaeth Cymru a Chyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, yn tynnu cymhariaeth annisgwyl rhwng gweithredoedd yn Llyn a Belffast.
Mae’n cychwyn efo llinell o farddoniaeth gyfoes, llinell y bydd yn ychwaneguati ar derfyn ei ysgrif.
“Gwell Cymraeg slac na Saesneg slic…”
Mae pellter byd o’r Short Strand i Spar Pwllheli. Eto, er gwaetha’r gagendor sy’n gwahanu’r ddau le, a’r gwahaniaethau amlwg a sylfaenol rhwng y digwyddiadau sydd wedi sicrhau lle iddynt yn y penawdau newyddion ers y flwyddyn newydd, rwyf am fentr ...
Yr Awr Gymraeg
27/02/2013
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Newyddion
Mae’r Awr Gymraeg ar Trydar bob nos Fercher rhwng 8.00 a 9.00 yr hwyr.
Cyfle i fusnesau Cymraeg i hyrwyddo eu hunan, digwyddiadau neu cyfleoedd arbennig. Trydarwch y neges ar Trydar gyda "hashtag" #yagym a mwynhewch gynulleidfa o amgylch Cymru! Mae llawer yn gweld budd arno yn barod!
...does dim rhaid trydar yn Gymraeg!
Cofiwch medrwch chi ddod o hyd i fusnes, digwyddiad, swydd, bargen, eitemau marchnad yn lleol neu yn genedlaethol drwy fynd i'r adrannau perthnasol uwchben.
Os ydych yn gweithio i neu’n cynrychioli busnes, sefydliad, elusen, ysgol, coleg neu brifysgol a’ch bod yn awyddus i hyrwyddo eich gwasanaeth Cymraeg, hysbysebion ...
Diwrnod y Llyfr 2013
27/02/2013
Categori: Addysg, Celfyddydau, Newyddion
Cynhelir Diwrnod y Llyfr 2013 ddydd Iau , 07 Mawrth.
Cefnogaeth Enwogion
Aled Sion Davies, enillydd dwy fedal yn y Gêmau Paralympaidd, a’r nofwraig Olympaidd Georgia Davies, yw wynebau newydd Diwrnod y Llyfr 2013 yng Nghymru.
Yn dilyn eu llwyddiant anhygoel yn eu gwahanol gampau yn 2012, mae’r ddau wedi cytuno i roi cyhoeddusrwydd i’r ymgyrch ddarllen flynyddol bwysig hon yng Nghymru.
Bydd dros 10,000 o bosteri Diwrnod y Llyfr yn dangos delweddau o’r athletwyr yn cael eu dosbarthu trwy Gymru benbaladr yn y cyfnod yn arwain at Ddiwrnod y Llyfr ar 7 Mawrth.
Mwy yma
Yr heddlu am holi dyn yn dilyn mosodi...
25/02/2013
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio wedi i actor gael ei anafu'n ddifrifol wedi rhyddhau llun o ddyn maen nhw'n awyddus i siarad â fo.
Mae Rhys ap William, 37 oed, yn gwella ar ôl ymosodiad y tu allan i dafarn yng Nghaerdydd yn ystod oriau man bore Sul.
Yn ôl yr heddlu, fe gafodd yr actor ei ddarganfod gydag anafiadau difrifol i'w ben y tu allan i dafarn yr Admiral Napier ar Heol Ddwyreiniol Y Bont-faen yn Nhreganna, tua 0.19am.Llun CCTV Mae'r heddlu'n awyddus i siarad gyda'r dyn yma a welwyd ger y dafarn
Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i adroddiadau am y digwyddiad ac yn apelio am dystion.
Maen nhw'n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yng ng ...
Dangos Talent Newydd ar Ddydd Gŵyl Dewi
20/02/2013
Categori: Arian a Busnes, Newyddion
Bydd prosiect Mentro CDG Sir Gâr yn cynnal ‘Ar y Tracs’, cyfres o berfformiadau byw ar drên Rheilffordd Calon Cymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth.
Gan adael o Lanymddyfri, bydd teithwyr yn mwynhau perfformiadau byw gan artistiaid newydd gorau Sir Gâr wledig wrth i’r trên fynd trwy Langadog, Ffairfach, Rhydaman a Llangennech cyn cyrraedd Llanelli.
Bydd y perfformiadau yn cynnwys: setiau acwsteg gan Gillie Rowland a Martin Goddard, barddoniaeth gan Frank Thomas, caneuon gwerin gyda’r Aunty Depressants a set gan y DJ Jason Lye Phillips.
Mae’r holl artistiaid sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad wedi gweithio’n agos gy ...
S4C yn gwahodd syniadau o ran sefydlu...
07/02/2013
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Fel rhan o astudiaeth i'r posibilrwydd o adleoli rhannau o S4C, mae'r darlledwr wedi gwahodd ymateb gan gyrff neu sefydliadau fyddai â diddordeb mewn gweithio gyda S4C i chwilio am leoliadau newydd.Mae modd i unrhyw gorff, sefydliad neu gwmni gyfrannu syniadau sut y gallen nhw gydweithio ag S4C ac eraill i roi cartre’ newydd i rannau o waith y Sianel mewn unrhyw ran o Gymru.Yn ôl Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, Garffild Lloyd Lewis, fe fydd natur yr ymateb yn helpu S4C i i wneud penderfyniadau pwysig ynglyn â’i dyhead i symud rhannau o’r gwaith i rannau eraill o Gymru.Dywedodd Garffild:“Mae’r gwahoddiad yma yn un agored ...
Dysgwr Cymraeg o Lundain yn canu'r an...
02/02/2013
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth
Mae Simon Howard sy’n enedigol o Newcastle wedi bod yn byw yn Llundain am y 13 blynedd diwethaf ac wedi bod yn dysgu Cymraeg yn raddol bach.
Mae ganddo chwaer sydd wedi priodi a Chymro ac o ganlyniad i hyn mae wedi dysgu ambell air Cymraeg a nawr yn galw eu hun yn Gymro.
Dyma fe yn chwarae’r Ukulele ac yn canu’r anthem genedlaethol Cymru.