Wedi darganfod 10 cofnodion | Tudalen 1 o 1
Y PLAS – fedrwch chi fyw yn 1910?
22/05/2013
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Cyfres deledu newydd sbon ar S4C ym mis Medi 2013…
Mae cynhyrchwyr ‘Coal House’ a ‘Snowdonia 1890’ nawr am roi’r cyfle i CHI deithio yn ôl mewn amser i brofi bywyd unigryw mewn plasty crand Cymreig yn 1910.
Rydym yn chwilio am unigolion a theuluoedd o bob oed i fyw a gweithio mewn Plasty bendigedig am 3 wythnos ym mis Medi eleni. Ai chi fydd y bwtler, y cogydd, y forwyn, teulu’r ffermdy….neu hyd yn oed y Sgweier a’i wraig?! Bydd eich bywyd yn Y Plas yn golygu gwisgo, gweithio, bwyta a chwarae yn union fel yr oedd hi yn 1910, a bydd ein camerau ni yn dilyn bob cam ar gyfer cyfres uchelgeisiol ar S4C yn yr hydref.
...
Lle’r Fenyw
29/04/2013
Categori: Addysg, Arian a Busnes, Hyfforddiant / Cyrsiau, Newyddion
Canfyddiadau allweddol astudiaeth o rolau menywod yng ngweithlu Cymru
Fel rhan o’n gwaith i gefnogi datblygiad effeithiol menywod yn y gweithlu, rydym wedi comisiynu ein gwaith ymchwil mwyaf sylweddol mewn degawd.
Mae’r astudiaeth wedi helpu i nodi’r ffactorau sy’n effeithio ar allu menywod i gael mynediad i’r gweithle, parhau i weithio a symud ymlaen yn eu gyrfa. Mae’r canfyddiadau’n rhoi cyfle i Chwarae Teg, y llywodraeth, diwydiant a’r byd academaidd adolygu arferion cyfredol, datblygu polisïau ac ystyried deddfwriaeth i herio’r rhwystrau hyn er mwyn sicrhau bod menywod yn gallu parhau i ddatblygu a chamu ymlaen ...
Tocynnau Eisteddfod Genedlaethol Cymr...
24/04/2013
Categori: Addysg, Ar-lein, Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Cystadlaethau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Hyfforddiant / Cyrsiau, Iaith, Newyddion
Tocynnau 2013
Tocynnau Maes - Cynigion arbennig!
Gostyngiadau sylweddol ar brisiau tocynnau maes dyddiol os ydych yn prynu cyn 30 Mehefin 2013.
Tocynnau Cyngherddau
Eleni, mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi newid y dyddiad pan fydd tocynnau ar gyfer y Brifwyl yn mynd ar werth, gan lansio’r ymgyrch docynnau ar 24 Ebrill - 100 diwrnod i fynd cyn cychwyn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau.
Cliciwch yma i archebu
Manylion
Tro Sir Ddinbych a’r Cyffiniau yw hi i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2013, felly ymunwch â ni ar gyrion tref Dinbych o 2-10 Awst eleni am wythnos i’w chof ...
Proffil Artist Mirain Fflur
18/04/2013
Categori: Celfyddydau
Proffil Artist
Enw: Mirain FflurArdal: Nefyn / CaeredinAstudio: BA Paentio, Prifysgol Caeredin
Beth wnaeth dy ddenu i Gaeredin?
Bu dipyn o drafod gyda’m tiwtoriaid yng Ngholeg Menai ynghylch pa golegau y dylwn i’w dewis, ac roedd Caeredin yn un o’r awgrymiadau a gefais ganddynt. Breuddwyd yn fy meddwl i, ond breuddwyd sydd wedi cael ei gwireddu erbyn hyn, a dwi mor falch o hynny gan fy mod wrth fy modd yma! Rwyf bellach yn dilyn cwrs paentio. Mae’r cwrs yn dy ddysgu i fod yn artist annibynnol a dwi’n mwynhau hynny. Fel arfer cawn dasgau a briff pum wythnos o hyd a rhwyddhynt i bigo’r thema o dy ben a’th bastwn dy hun. Dwi’n ...
Trefnydd newydd i'r Brifwyl
13/04/2013
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Yng nghyfarfod Cyngor yr Eisteddfod ddydd Sadwrn cyhoeddwyd mai Elen Huws Elis sydd wedi'i phenodi i swydd Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol.
Bydd yn olynu Hywel Wyn Edwards, a fydd yn ymddeol o fewn y misoedd nesaf.
Yn wreiddiol o Dreffynnon, mae Ms Huws Elis yn gweithio fel prif reolwr Adran Gorawl Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham ers wyth mlynedd, yn rheoli pum côr ar hyn o bryd a chyda'r chweched ar fin ei lansio.
Mae ganddi brofiad eang ym myd cerddoriaeth, fel cerddor proffesiynol, rheolwr ac fel asiant.
'Profiad helaeth'
Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol:
"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi peno ...
Mae Digidol 2013 ar y gweill
11/04/2013
Categori: Addysg, Ar-lein, Arian a Busnes, Hyfforddiant / Cyrsiau
Byddwch yn dysgu, yn cael eich ysbrydoli ac yn deall eich dyfodol digidol.
Caiff Digidol 2013 ei drefnu gan Lywodraeth Cymru a’i gynnal yng Ngwesty moethus y Celtic Manor. Dyma ddigwyddiad digidol all helpu’ch busnes.
Cewch wybod beth yw barn arweinwyr y diwydiant am bynciau llosg fel cyfathrebu â’ch cwsmeriaid, technoleg symudol, y cyfryngau cymdeithasol, data mawr a mwy.
Cewch eich ysbrydoligan dueddiadau ‘mawr’, technolegau newydd, arferion gorau a thechnegau ymarferol i ragori mewn oes ddigidol sy’n datblygu’n gyflym.
Byddwch yn meithrin
dealltwriaeth o’ch dyfodol digidol
drwy gwrd ...
Pafiliwn yn cau am gyfnod
10/04/2013
Categori: Arian a Busnes, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion
Mae Pafiliwn Pontrhydfendigaid yn cau am gyfnod oherwydd mae'r cwmni oedd yn ei gynnal, Pafiliwn Cyf, wedi dod i ben.
Y rheswm yw'r hinsawdd economaidd a llai o ddefnydd.
Ond mae cadeirydd y cwmni, John Watkin, wedi dweud na fydd y pafiliwn yn cau'n derfynol.
Dywedodd Elin Jones AC: "Hwn yw'r trydydd sefydliad elusennol i fynd i'r wal yng Ngheredigion ers chwe mis.
'Trist iawn'
"Mae'n drist iawn."
Mae disgwyl i'r Ŵyl Gerdd Dant gael ei chynnal yno ym mis Tachwedd.
Dywedodd Mr Watkin: "Mae'r banc wedi bod yn gwasgu arnon ni i ad-dalu £80,000 ... dy'n ni ddim yn gallu talu dyledion a dy'n ni ddim eisie bod yn yr un picil mewn 18 mi ...
Siop y Pethe yn Aberystwyth: Diwedd '...
05/04/2013
Categori: Addysg, Ar-lein, Celfyddydau, Iaith, Newyddion
Mae perchnogion un o siopau llyfrau amlycaf Cymru wedi penderfynu gwerthu'r busnes ar ôl 45 mlynedd wrth y llyw.
Agorwyd Siop y Pethe gan Gwilym a Megan Tudur ar gornel Sgwâr Glyndŵr yn Aberystwyth ym mis Rhagfyr 1968.
Ond yn awr mae'r pâr priod wedi penderfynu ei fod yn amser iddynt ymddeol gan obeithio y bydd rhywun arall yn cymryd yr awenau i werthu llyfrau, cardiau a CDau.
Mae'r siop ar werth am £445,000 yn ôl Mr Tudur sy'n gobeithio ail-gydio yn ei yrfa ysgrifennu wedi iddo ymddeol.
'Oed yr addewid'
Dywedodd Mr Tudur mai Siop y Pethe oedd y siop Gymraeg modern gyntaf.
"Roedd siopau llyfrau Cymraeg wedi bodoli yn lle ...
Pennod newydd yn hanes y BBC ac S4C
02/04/2013
Categori: Ar-lein, Iaith, Newyddion
Mae S4C bellach yn derbyn y rhan fwyaf o'i chyllid o drwydded y BBC.
Bydd Adran Ddiwylliant Llywodraeth y DU yn cyfrannu £7 miliwn at gostau'r sianel a bydd dros £76 miliwn yn dod trwy'r BBC.
Mae'r cytundeb yn pwysleisio annibyniaeth olygyddol a rheolaethol S4C, ond wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ddydd Mawrth, dywedodd Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC), Iestyn Garlick, bod yna rai pryderon er na fyddai'r gynulleidfa yn debygol o weld gwahaniaeth.
Y prif bryder sydd gennym mi fel TAC ydy'r ffaith fod gan Ymddiriedolaeth y BBC yr hawl i atal arian S4C mewn sefyllfa eithriadol”
Iestyn Garlick Cadeirydd TAC
"Mae e'n ddigon c ...
Hwb i ddarlithwyr ddysgu mewn dosbart...
02/04/2013
Categori: Addysg, Hyfforddiant / Cyrsiau, Iaith, Newyddion
Am y tro cyntaf mae nifer o ddarlithwyr o ogledd Cymru wedi cwblhau modiwl MA mewn Methodoleg Addysgu Dwyieithog.
Mae'n gymhwyster unigryw ar gyfer cynllunio a chyflwyno addysg yn ddwieithog yn y dosbarth.
Darlithwyr addysg bellach yw'r rhai i gwblhau'r cwrs mewn cydweithrediad â Chanolfan Sgiliaith yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli.
Mae'n darparu cefnogaeth ar ddwyieithrwydd a sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg i golegau addysg bellach.
Dywedodd pennaeth Sgiliaith, Angharad Mai Roberts, eu bod yn falch o fod yn gallu cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu cyfleoedd pobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng addysg a hyfford ...