Wedi darganfod 5 cofnodion | Tudalen 1 o 1
WOMEX 13 – Galw gwirfoddolwyr!
19/09/2013
Categori: Cerddoriaeth
WOMEX 13 yw 19eg cynhyrchiad yr arddangosfa gerddoriaeth byd flynyddol ac fe’i cynhelir rhwng dydd Mercher 23 a dydd Sul 27 Hydref 2013 mewn tri lleoliad yng Nghaerdydd: Arena Motorpoint yng nghanol y ddinas, Canolfan Mileniwm Cymru a Roald Dahl Plas yng Nghaerdydd.
Mae WOMEX yn ŵyl arddangos cerddoriaeth byd ryngwladol gydnabyddedig a mawreddog. Mae’n cynnwys 60 cyngerdd a fydd yn agored i’r cyhoedd, gyda thros 300 o artistiaid, ffair fasnach lle ceir arddangosiadau gan oddeutu 650 o gwmnïau o fwy na 90 o wledydd a thua 60 o siaradwyr mewn cynhadledd ryngwladol. Mae’r digwyddiad yn cynnig sesiynau mentora, gwobrau blyn ...
Diwrnod Shwmae Su'mae?
17/09/2013
Categori: Iaith
Hydref 15, 2013 fydd y tro cyntaf inni ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae? gan ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg.
Bydd Diwrnod Shwmae Su’mae? yn gyfle inni atgyfnerthu a dathlu'r Gymraeg a'r ffyrdd y byddwn ni’n cyfarch ein gilydd yn Gymraeg yn ein cymunedau. Bydd hefyd yn gyfle i gefnogi ac annog ymdrechion pawb sydd wrthi yn dysgu Cymraeg ledled Cymru.
Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb a gallwn ni i gyd ddefnyddio’r Gymraeg ymhob man! Yn y siop, y ganolfan hamdden, y gwaith, wrth geisio gwasanaeth Cymraeg yn ein cymuned, gyda ffrindiau.
Am ddathlu'r diwrnod? Rho gynnig arni! Have a go! Cyfle i'ch mudiad, cymuned, cymdeithas nodi'r diwrnod, a chael yc ...
Cyrsiau oedolion at ddant pawb
17/09/2013
Categori: Addysg, Ar-lein, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Hyfforddiant / Cyrsiau, Iaith, Iechyd
Cyrsiau oedolion at ddant pawb
Mae Cyrsiau Oedolion Menter Caerdydd yn cychwyn diwedd mis Medi, ac efallai bod rhywbeth ymysg yr holl gyrsiau fydd o ddiddordeb i chi.
Er bod y Cyngor eisoes yn trefnu cyfres helaeth o wersi i oedolion, mae’r Fenter yn gyfrifol am ddosbarthu llu o ddosbarthiadau gyda’r nos i drigolion Caerdydd drwy’r iaith Gymraeg.
Mae’r cyrsiau yn amrywiol iawn ac mae rhywbeth i bawb, boed chi’n ffanatig ffitrwydd, yn grefftwr o fri, neu’n mwynhau dysgu ieithoedd newydd.
Os ydych chi’n mwynhau cadw’n heini, mae gan Menter Caerdydd nifer o wersi yn cychwyn ym mis Medi gan gynnwys 3 cwrs Pilate ...
Gwesty adnabyddus ar werth
04/09/2013
Categori: Arian a Busnes, Iaith
Mae gwesty adnabyddus yng Ngheredigion ar werth am £2.7 miliwn.
Cafodd Gwesty'r Harbwr yn Aberaeron ei agor fel gwesty 12 mlynedd yn ôl gan ŵr a gwraig oedd â dim profiad blaenorol yn y maes.
Mae Glyn a Menna Heulyn wedi penderfynu gwerthu'r gwesty, sy'n cyflogi 26 o weithwyr, er mwyn canolbwyntio ar fusnes arall yn Aberystwyth.
Agorodd Gwesty'r Harbwr ym Mai 2002.
Dywedodd Menna Heulyn fod y penderfyniad ar y pryd yn golygu newid byd iddi hi a'i gŵr.
Roedd Glyn Heulyn yn gweithio fel ymgynghorydd ariannol yn Aberystwyth, tra bod hi yn gweithio ym myd marchnata, gyda Bwrdd Datblygu Cymru ac S4C.
Roedd y ddau yn wreiddiol ...
Staff Urdd Gobaith Cymru
04/09/2013
Categori: Iaith
Dyma i chi fideo o staff Urdd Gobaith Cymru yn brysur wrth eu gwaith dros yr haf. Mwynhewch!