Wedi darganfod 4 cofnodion | Tudalen 1 o 1
S4C wedi glanio ar wasanaeth YouView
31/01/2014
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Newyddion
Mae S4C nawr ar gael ar YouView; gwasanaeth teledu ar alw.
O heddiw ymlaen (30/01/2014), bydd holl gynnwys Sianel genedlaethol Cymru ar gael ar YouView, gan ganiatáu i gwsmeriaid ar draws y DU wylio rhaglenni S4C ar-alw am hyd at 35 diwrnod ar ôl y darllediad gwreiddiol.
Mae YouView yn wasanaeth teledu ar-alw gyda dros 70 o sianeli teledu a radio digidol byw sydd ar gael am ddim. Mae'n cyfuno gwasanaethau gwylio nôl fel BBC iPlayer, ITV Player, 4oD a Demand 5 yn ogystal â llyfrgell o raglenni teledu, ffilmiau a radio sydd ar gael i'w gwylio ar-alw.
Mae cwsmeriaid YouView yng Nghymru eisoes yn gallu gwylio rhaglenni S4C yn fyw, ond o heddiw ...
Swyddi'n mynd yn Media Wales
29/01/2014
Categori: Ar-lein, Newyddion
Mae'r grŵp papur newydd mwyaf yng Nghymru wedi cyhoeddi y bydd yn cau tair cangen, fydd yn arwain at bum swydd yn cael eu colli.
Cafodd staff Media Wales glywed heddiw y bydd y swyddfeydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Phontypridd yn cau.
Mae'r swyddfeydd yn cael eu defnyddio gan newyddiadurwyr sy'n gweithio ar bapurau lleol fel y Glamorgan Gazette, Merthyr Express, Pontypridd Observer, Rhondda Leader a'r Cynon Valley Leader.
Yn ôl Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ), swyddi marchnata a gweinyddol fydd yn mynd yn hytrach na rhai newyddiadurol.
Bydd y newyddiadurwyr yn cael cynnig symud i Gaerdydd neu weithio o'u cartrefi.
Dyw ...
Cytundeb canolog i Warburton
25/01/2014
Categori: Chwaraeon

Warburton yw'r cyntaf i arwyddo cytundeb canolog - bydd yn cael chwarae i'r Gleision heb i'r rhanbar
Sam Warburton yw'r chwaraewr cyntaf o Gymru i arwyddo cytundeb canolog newydd gydag Undeb Rygbi Cymru.
Fe fydd Warburton yn parhau i chwarae i'r Gleision o dan amodau'r cytundeb newydd sy'n torri tir newydd i rygbi Cymru mewn cyfnod cythryblus i'r gamp.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru bod y cytundeb yn lansiad o drefniant newydd i gadw chwaraewyr allweddol yn chwarae gyda rhanbarthau Cymru
Yn ôl y trefniant fe fydd Warburton yn cael ei rhyddhau i chwarae i'r Gleision pan nad yw ar ddyletswydd gyda Chymru, a hynny heb gost o gwbl i'r Gleision.
Mae'r cytundeb hefyd yn sicrhau y bydd ar gael i'r tîm cenedlaethol, ond nid yw'n sicrhau lle yn y tîm ...
Llond Llwyaid o Serch ar Wyliau’r Saint
23/01/2014
Categori: Celfyddydau
Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wedi comisiynu crefftwr lleol i atgynhyrchu enghreifftiau o lwyau caru o’r casgliad cenedlaethol fydd ar werth yn eu siop ar gyfer Dyddiau Santes Dwynwen a Ffolant.
Mae’n debygol i’r llwy garu ddatblygu o’r llwy gawl. Lluniwyd llwyau caru’n fwy gofalus, ac fe’u rhoddwyd yn anrhegion fel arwydd o serch y cerfiwr. Rhaid bod yn fedrus i wneud llwyau caru – nid yn unig oherwydd y patrymau a’r manylion cymhleth, ond gan fod rhaid eu gwneud o un darn o bren. Mae’n grefftwaith pur gan na ddefnyddir glud na hoelion.
Mae casgliad mawr o lwyau caru o bob lliw a llun yn Sain Ffagan. Mae&r ...