Wedi darganfod 43 cofnodion | Tudalen 1 o 5
Edrych yn ôl ar 2014
01/01/2015
Categori: Chwaraeon, Iaith, Llenyddiaeth
Dyma flwyddyn y stormydd, a blwyddyn ble y profodd Gymru un o'r gemau cymanwlad mwyaf llwyddiannus erioed, tra pleidleisiodd pobl yr Alban yn erbyn annibyniaeth ac fe gollwyd un o gewri'r genedl.
Dechreuodd 2014 gydag un o'r stormydd gwaethaf erioed, ac fe brofodd Aberystwyth donnau anferth yn taro'r prom, gan achosi dinistr sylweddol. Profodd y tonnau yn drech â'r band stand enwog a gafodd ei ddinistrio'n llwyr. Yn ôl ystadegau’r Swyddfa Dywydd, dyma oedd y gaeaf gwlypaf yng Nghymru ers bron i 250 mlynedd.
Cafodd tîm rygbi Cymru bencampwriaeth Chwe Gwlad siomedig ble y daethant yn drydydd, gyda buddugoliaethau yn erbyn Ffrainc, yr Alban a'r Eidal on ...
Galwad ar recriwtio cyn-weithwyr medd...
29/12/2014
Categori: Gwleidyddiaeth, Iechyd
Mae Plaid Cymru wedi galw ar recriwtio gweithwyr sydd â hyfforddiant meddygol ac sydd wedi colli eu swyddi yn y lluoedd arfog i reng flaen GIG Cymru.
Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones mai colli cyfle fyddai peidio â denu gwasanaeth y gweithwyr meddygol proffesiynol sydd wedi derbyn yr hyfforddiant gorau ac sydd â record o arwain dan amgylchiadau anodd.
Canfu cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth diweddar gan Blaid Cymru fod pedwar ugain o weithwyr meddygol milwrol wedi colli eu swyddi yn dilyn toriadau llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ers 2010. Mae’r ffigwr hwn yn debyg o godi wedi i filwyr y DG adael Afghanistan.
Dywedodd Gwein ...
Eira ar Ŵyl San Steffan yn ôl y Swydd...
26/12/2014
Categori: Newyddion
Ni welwyd Nadolig gwyn eleni, ond mae posib y gwelwn drwch o eira mewn rhannau o Gymru ar Ŵyl San Steffan.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, disgwylir i eira, eirlaw a glaw ledu dros Gymru i gyd yfory, gan glirio dros nos. Mae yna rybudd melyn ar gyfer y gogledd, y canolbarth, a rhannau o'r de ddwyrain drwy'r dydd, lle y rhagwelir y bydd eira yn disgyn.
Mae yna ansicrwydd am faint o eira a ddaw, ond mae'n bosib y cawn hyd at 10 centimedr yn y mannau hynny, gyda pheryg o rywfaint yn disgyn ar dir isel. Wrth i'r eira glirio gyda'r nos, mae disgwyl iddi rewi'n galed. Mae'r swyddfa dywydd yn eich rhybuddio i gymryd gofal os byddwch yn bwriadu teithio yfory.
Mentrwch allan dros y Nadolig i roi h...
24/12/2014
Categori: Hamdden, Iechyd
Gall cerdded ar Lwybr Arfordir Cymru wneud mwy na’ch adfywio neu gynnig rhywle gwych ichi fynd am dro – oherwydd mae adroddiad newydd yn dangos y gall helpu pobl i fyw’n hŷn.
Gyda mwy na 23,000 o gerddwyr ar gyfartaledd yn defnyddio’r llwybr bob wythnos, mae’r adroddiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi darganfod y gall yr hyn sy’n gyfwerth â saith o fywydau gael eu hachub bob blwyddyn.
Mae’r buddion iechyd yn sgil gweithgarwch corfforol yn werth £18.3m y flwyddyn; felly nid yn unig mae cerdded Llwybr yr Arfordir yn dda i chi, ond mae hefyd yn dda i Gymru i gyd.
Meddai Sue Rice, Rheolwr Prosiect Llwybr Arfor ...
Pa un yw eich hoff gân Nadolig?
23/12/2014
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth
I ddathlu'r Nadolig, rydym yn Lleol.Cymru wedi dethol rhai o ganeuon Cymraeg mwyaf cofiadwy'r Nadolig a rhai efallai sydd ddim mor gofiadwy! Mae gan Gymru draddodiad hir o ganeuon Nadoligaidd yn olrhain i'r traddodiad canu Plygain yn y ddeunawfed ganrif. Un o'r caneuon plygain cofiadwy yw Ar gyfer Heddiw'r Bore faban bach, gyda llawer o gymunedau yn parhau i gynnal gwasanaethau Plygain ledled Cymru.
Ond bellach, mae gennym hefyd glasuron modern wedi'u creu gan artistiaid blaenllaw yn amrywio o Meic Stevens i Garyl Parri Jones. Pa un yw eich hoff gân chi?
Dyma restr o 10 uchaf Lleol.cymru:
1. Dyma ni yn rhif 1 - y dewin o Solfach, Meic S ...
Detholiad o Goed Nadolig
21/12/2014
Categori: Hamdden
Daeth y traddodiad o addurno coeden Nadolig i Brydain trwy'r Tywysog Albert oedd yn ŵr i frenhines Fictoria. Roedd Albert yn hanu o'r Almaen ac yn perthyn i deulu brenhinol Saxe-Coburg sydd â chysylltiadau clos gyda theulu Windsor. Roedd y traddodiad o osod coeden Nadolig yn yr Almaen yn arfer poblogaidd yng ngogledd y wlad lle roedd yn gysylltiedig gyda arferion protestanaidd.
Ym Mhrydain, cofleidiodd y dosbarth canol yr arferiad yn oes Fictoria ac fe ddaeth yn draddodiad tu hwnt o boblogaidd. Erbyn heddiw, mae'r goeden yn ganolog i ddathliadau llawer o deuluoedd dros y byd, yn cynnwys Cymru. A dyma ni isod gynnig anrhydeddus sawl aelwyd yng Nghymru o ...
Ffotograffwyr y dyfodol yn cael eu gw...
18/12/2014
Categori: Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Hamdden
Daeth chwech o bobl ifanc i'r brig o blith 200 o geisiadau trwy Gymru ar ôl llwyddo i grisialu’r enghreifftiau gorau o amgylchedd Cymru drwy'r lens.
Cafodd yr enillwyr werth £450 o dalebau siopau’r stryd fawr. Testun y gystadleuaeth oedd dangos eu ffrindiau yn mwynhau’r amgylchedd naturiol ar gyfer cystadleuaeth ffotograffiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.
Yn y categori cyntaf, i blant 11 oed neu iau, Jacob Pearce, 10 oed, o Ysgol Gynradd y Santes Fair a Sant Padrig, Maesteg, Pen-y-bont Ar Ogwr, a gipiodd y wobr gyntaf gyda’r llun llawn awyrgylch hwn o farcud yn cael ei hedfan ar draeth â chymylau yn gefndir. Roedd y beirniaid ...
Prifysgolion Cymru yn rhagori
18/12/2014
Categori: Addysg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion
Cafodd rhestr anrhydeddus o'r prifysgolion sy'n rhagori mewn ymchwil eu cyhoeddi heddiw gyda Phrifysgol Caerdydd yn dod i'r brig ymhlith prifysgolion Cymru.
Daeth Prifysgol Caerdydd yn bumed ar y rhestr trwy Brydain sy'n cydnabod rhagoriaeth ar raddfa ryngwladol mewn meysydd ymchwil.
Croesawodd yr Athro Amanda Coffey ran Prifysgol Caerdydd y cyhoeddiad: "Rydym wrth ein boddau fod ein hymchwil wedi dod mor uchel ar y rhestr. Rydym yn hynod falch am y gydnabyddiaeth o safon mewn meysydd ymchwil."
Ychwanegodd, "O blith uchafbwyntiau'r ymchwil yw'r modd yr ydym wedi datblygu rhaglen wrth ysmygu ar gyfer ysgolion ym Mhrydain er mwyn taclo'r cynnydd mewn ysmygwyr y ...
Ail ddarlledu'r Tebot Piws i gofio Sb...
17/12/2014
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Newyddion
Bydd S4C yn darlledu rhaglen am y grŵp pop eiconig, y Tebot Piws yn deyrnged i Alun ‘Sbardun’ Huws fu farw yn gynharach yr wythnos hon. Dyma fand sydd wedi dal dychymyg pobl Cymru dros y blynyddoedd, lle roedd Sbardun yn rhan annatod o'r hwyl.
Ac wrth wneud y cyhoeddiad, fe ddywedodd Dafydd Rhys ar ran S4C bod Cymru wedi colli gŵr a fu’n gawr yn y byd adloniant a theledu yng Nghymru dros y pum degawd diwethaf.
Roedd Alun ‘Sbardun’ Huws yn un o aelodau gwreiddiol y grŵp pop wnaeth gymaint o argraff ar y byd cerddorol Cymraeg yn y 1960u a 1970au. Bu’r gŵr o Benrhyndeudraeth, Gwynedd hefyd yn gynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilm.
Fe f ...
Sêl bendith brenhinol i bwerau trethi...
17/12/2014
Categori: Gwleidyddiaeth, Newyddion
Croesawodd Prif Weinidog Carwyn Jones y cydsyniad brenhinol a roddwyd heddiw sy'n rhoi sêl bendith ar ddatganoli pwerau ariannol newydd i'r Cynulliad Cenedlaethol. Am y tro cyntaf ers yr oesoedd canol, bydd gan Gymru drefn ar wahân ym maes treth.
Bydd Deddf Cymru 2014 fel y gelwid yn cynnig pwerau ariannol newydd i Gymru drwy ganiatáu'r Cynulliad Cenedlaethol i ddatblygu trethi Cymreig i gymryd lle treth dir, y dreth stamp a threth tirlenwi'r Deyrnas Uniedig.
Bydd y ddeddf yn caniatáu i Lywodraeth Cymru fenthyg hyd at £500 miliwn i’w fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf, a benthyg hyd at £500 miliwn arall i ymdrin â ...