Wedi darganfod 20 cofnodion | Tudalen 1 o 2
Bryn Williams yn agor bwyty yn y gogledd
30/04/2014
Categori: Addysg, Bwyd, Iaith, Newyddion
Mae'r cogydd Bryn Williams, wedi ymrwymo i agor tŷ bwyta a chreu 14 o swyddi ym Mae Colwyn.
Yn gynharach arwyddodd prydles i fod yn rhan o ddatblygiad canolfan chwaraeon dŵr, Porth Eirias.
Cyhoeddodd Bryn Williams, sy'n berchen ar fwyty enwog Odette yn ardal Primrose Hill, Llundain , ei fwriad i agor bwyty ym Mhorth Eirias ym mis Medi 2013.
Roedd y cogydd sy'n dod yn wreiddiol o Ddinbych yn dweud ei fod eisiau dangos ei ddoniau coginio yng ngogledd Cymru.
Dros y misoedd diwethaf roedd rhai yn pryderu na fyddai'r datblygiad yn digwydd o gwbl.
Roedd disgwyl i'r bwyty agor ym mis Tachwedd llynedd.
Ymroddiad
Ond dywedodd llefarydd ar ...
Cyngor Gwynedd: Casglu biniau bob tai...
30/04/2014
Categori: Arian a Busnes, Bwyd, Iechyd, Newyddion
Cyngor Gwynedd yw'r cynta' yng Nghymru i gasglu sbwriel pob tair wythnos
Cyngor Gwynedd fydd y cynta' yng Nghymru i gwtogi ar gasgliadau sbwriel i unwaith pob tair wythnos.
Ar hyn o bryd mae bagiau du yn cael eu casglu ddwywaith y mis, ond fe gymeradwyodd y cabinet y newidiadau mewn cyfarfod ddydd Mawrth.
Bydd y system newydd yn cael ei chyflwyno yn ardal Dwyfor ym mis Hydref, gyda Meirionnydd ac Arfon i ddilyn yn 2015.
Mae disgwyl i'r cynllun arbed £350,000
Trefn tair wythnos
Yn ôl y cyngor, mae'r ffaith eu bod yn casglu biniau ailgylchu a gwastraff bwyd yn wythnosol yn cyfiawnhau cyflwyno trefn tair-wythnos ar gyfer sbwriel. ...
Croesawu adroddiad sgiliau Cymraeg
30/04/2014
Categori: Iaith
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a'r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates, wedi croesawu adroddiad ar anghenion cyflogwyr yng Nghymru o ran sgiliau yn y Gymraeg.
Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n seiliedig ar gasgliadau arolwg a gysylltodd â thros 4,000 o gyflogwyr mewn wyth sector ledled Cymru.
Y sectorau oedd gofal plant, gofal cymdeithasol, y diwydiannau creadigol, y gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, manwerthu, adeiladu, lletygarwch a bwyd-amaeth.
Mae'r casgliadau'n helpu Llywodraeth Cymru i ddeall anghenion cyflogwyr yng Nghymru o ran sgiliau yn y Gymraeg, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
66%
& ...
Glyn Evans wedi marw yn 70
26/04/2014
Categori: Ar-lein, Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion
Mae'r newyddiadurwr a chyn olygydd Y Cymro Glyn Evans wedi marw yn 70 oed, ar ôl salwch byr.
Fe fu Mr Evans yn gweithio i wasanaeth ar-lein y BBC a'r Herald Cymraeg yn ystod gyrfa hir a llwyddiannus.
Er ei fod wedi ymddeol, roedd yn parhau i fod yn weithgar - roedd yn ysgrifennu blog ac yn gyfrifol am gyhoeddi cylchgrawn ar gyfer Cymry ar wasgar yn rhinwedd ei gyfrifoldeb fel golygydd Yr Enfys.
Mae'r newyddiadurwr blaenllaw Gwilym Owen, oedd yn gyfaill i Mr Evans, wedi ei ddisgrifio fel "llenor a newyddiadurwr arbennig o dda".
"Roedd ganddo ddiddordeb mawr yn llenyddiaeth Cymru, roedd o wedi ysgrifennu cyfrol neu ddwy ei hun, ac roedd yn ddychanwr o ...
Cyfleoedd gwych i rai o enillwyr yr E...
26/04/2014
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion
Bydd rhai o enillwyr llwyfan blaenaf yr Eisteddfod yn Sir Gâr eleni’n derbyn cyfleoedd ychwanegol fel rhan o’u gwobrau, wrth i ddiddordeb yn enillwyr y Brifwyl ddatblygu mewn rhannau eraill o’r byd.
Bydd enillydd Gwobr Goffa David Ellis, y Rhuban Glas, yn derbyn gwahoddiad arbennig i berfformio ym Melbourne, Awstralia, fel rhan o ddathliadau Gŵyl Ddewi Eglwys Gymraeg Melbourne, gyda’r eglwys yn darparu llety ac yn talu costau teithio. Mae hyn yn dilyn perfformiad gan enillydd y Rhuban Glas y llynedd, Eleri Edwards yn y Gymanfa Ganu yn gynharach eleni.
Yn ogystal, am yr ail flwyddyn, bydd enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts, Ysgoloriaeth Willi ...
Pwy fydd Miss Cymru 2014?
26/04/2014
Categori: Newyddion
Mi fydd cystadleuaeth Miss Cymru 2014 yn cael ei chynnal yn Theatr y Princess Royal ym Mhort Talbot.
Bydd 46 o ferched yn cystadlu er mwyn ennill y fraint o gael cynrychioli Cymru fel llysgennad.
Gabrielle Shaw o Riwabon ger Wrecsam oedd yn fuddugol y llynedd ac mae wedi bod mewn digwyddiadau elusennol ac yn rhan o seremoni agoriadol Cwpan Heineken yn Toulon.
Mae trefnwyr y gystadleuaeth yn dweud mai'r prif nod yw codi arian at achosion da drwy gyfrwng "prydferthwch gyda phwrpas".
'Codi arian'
Un sy'n edrych ymlaen at gystadlu yw Hanna Gwyn o Fethel ger Caernarfon.
Wrth sgwrsio gyda Dylan Jones fore Gwener, dywedodd: "Hwn ydi'r tro cynta ...
Ymchwil Abertawe yn dangos sut gall d...
26/04/2014
Categori: Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion
Mae diogod, mamaliaid arafa’r byd, sy’n byw yng nghoedwigoedd law America Ladin, yn treulio 90% o’u bywydau wyneb i waered, ond yn ôl ymchwil diweddar, nid yw hynny’n effeithio are eu gallu i anadlu. Mae tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe sy’n gweithio gyda Gwarchodfa Diogod Costa Rica wedi darganfod bod organau diogod wedi’u glynu, sy’n eu rhwystro rhag pwyso ar yr ysgyfaint.
Bydd yr ymchwil, wedi’i gyhoeddi gan y Gymdeithas Frenhinol,yn helpu gwyddonwyr i ddeall y creaduriaid yma’n well.
Mae diogod yn byw yng nghoedwigoedd law de a chanolbarth America. Maent yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn hongian ...
Tocynnau Maes o £10 mewn ymgyrch farg...
16/04/2014
Categori: Newyddion
Mae neges ymgyrch hyrwyddo Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn glir – bachwch fargen gynnar! Gyda 100 diwrnod i fynd ddydd Mercher nesaf (23 Ebrill), bydd tocynnau ar gyfer y Brifwyl eleni yn mynd ar werth, ac mae bargeinion gwirioneddol i’w cael – os y byddwch yn prynu’ch tocynnau mewn da bryd.
Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, sy’n egluro’r cynnig, “Bydd y cwsmeriaid mwyaf trefnus yn gallu bachu bargen gwirioneddol, gyda thocynnau Maes oedolion yn cychwyn o £10, a thocynnau teulu’n cychwyn o £20, felly rydym yn annog pobl i fynd ati i brynu’u tocynnau cyn gynted ag y bo modd – bore Mercher os ...
Amgueddfa Cymru yn treialu rhaglen iB...
16/04/2014
Categori: Addysg
Amgueddfa Cymru yw’r amgueddfa genedlaethol gyntaf yn y byd i dreialu technoleg Bluetooth Ynni Isel Diwylliant a Threftadaeth (Apple iBeacon), mewn partneriaeth â Chasgliad y Werin Cymru ac ap a phlatfform Locly. Mae’r rhaglen yn cael ei threialu yn Amgueddfa Lechi Cymru, un o safleoedd Amgueddfa Cymru, a bydd yn galluogi ymwelwyr i ddarganfod mwy am y casgliadau ar eu dyfeisiau symudol wrth iddynt grwydro’r safle.
Offeryn cyfathrebu yw iBeacon sy’n cysylltu dyfeisiau â’i gilydd ac yn anfon signal gan ddefnyddio Bluetooth Ynni Isel (BLE – Bluetooth Low Energy). System leoli dan do ydyw y mae Apple yn ei galw’n ddosbarth newydd o ...
Menter iaith: dwy'n gadael swyddi
16/04/2014
Categori: Iaith
Mae prif weithredwr a chadeirydd bwrdd rheoli Menter Cwm Gwendraeth Elli wedi gadael eu swyddi.
Cathryn Ings sy' wedi gadael ei swydd fel prif weithredwr a daw hyn ar adeg pan mae'r mudiad, y cyntaf o'i fath yng Nghymru, yn wynebu nifer o newidiadau.
Mae BBC Cymru'n deall iddi adael ei swydd ddydd Iau a hynny oherwydd cytundeb ar y cyd.
Roedd hi'n arfer bod yn olygydd y Carmarthen Journal.
Mae'r Cynghorydd Sir Sian Thomas wedi rhoi'r gorau i'w swydd fel caderiydd y bwrdd rheoli oherwydd anghytundeb â chydaelodau'r bwrdd.
Cyd-ddigwyddiad
Dywedodd y cynghorydd mai cyd-ddigwyddiad yn hytrach na chydamseriad oedd ei phenderfyniad i adae ...