Wedi darganfod 42 cofnodion | Tudalen 2 o 5
Y Fedal Gyfansoddi 2014
28/05/2014
Categori: Celfyddydau, Eisteddfod yr Urdd, Newyddion
Nid oedd teilyngdod yn seremoni’r Fedal Gyfansoddi ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Meirionnydd heddiw. Beirniad y gystadleuaeth oedd Guto Puw a’r dasg oedd cyfansoddi darn o gerddoriaeth mewn unrhyw gyfrwng gyda gwaith celf John Meirion Morris yn sbardun i’r gwaith.
Meddai’r beirniad, Guto Puw: “Mae’n siom nad oes teilyngdod eleni yng nghystadleuaeth y Fedal Gyfansoddi yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Meirionnydd, 2014. Er y siom, cymeraf gysur yn y ffaith bod safon y gystadleuaeth hon yn cael ei chynnal a hyderaf y bydd ein cyfansoddwyr ifanc yn ystyried y gwerth a’r fantais o gystadlu mewn Eisteddfodau i’r dyfodol.
...
Ysgoloriaeth Gelf yn agor y drws i wa...
28/05/2014
Categori: Celfyddydau, Eisteddfod yr Urdd, Newyddion
Mirain Fflur o Nefyn yn Llŷn, ond sydd bellach yn astudio Celf Gain ym Mhrifysgol Caeredin, yw enillydd Ysgoloriaeth Gelf Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014. Mae’r Ysgoloriaeth yn cael ei gwobrwyo i unigolyn, rhwng 18 a 25 oed, sy’n dangos y casgliad o waith mwyaf addawol.
Mae Mirain yn nesáu at ei blwyddyn olaf yng Nghaeredin ac ar ôl iddi gyflwyno’i gwaith arddangosfa ar gyfer ei gradd y flwyddyn nesaf, ei gobaith yw astudio gradd MA mewn pwnc arbenigol. Un o’i diddordebau mawr yn y maes yw therapi celf a’r ffordd y mae’n helpu amrywiaeth o bobl mewn sefyllfaoedd gwahanol. Ei gobaith yn y tymor hir yw cyfrannu’n ô ...
Luned Bedwyr, Pwllheli’n cipio’r Feda...
28/05/2014
Categori: Celfyddydau, Eisteddfod yr Urdd, Newyddion

Enillydd Enillydd Y Fedal Gelf eleni yn Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd.Y Fedal Gelf eleni yn Eistedd
Luned Bedwyr, 17, o Bwllheli, Gwynedd yw enillydd Y Fedal Gelf eleni yn Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd. Mae Luned yn astudio Lefel AS yng Ngholeg Meirion Dwyfor Pwllheli, ac er iddi ei hanrhydeddu â gwobr gelf yn yr Eisteddfod heddiw, dwed mai ei phrif ddiddordeb yw cerddoriaeth!
Derbyniodd Luned y wobr am ei gwaith yn canolbwyntio ar y thema ‘teulu’. Fe’i hysgogwyd i feddwl am y cyfansoddiad o waith wedi colli ei Nain llynedd. Mae’r gwaith yn ddarnau o fywyd llonydd, gyda chlustog, ffrog, cloc wedi ei greu o gardfwrdd a phedwar darn wedi eu fframio. Mae’r cyfan yn golygu rhywbeth arbennig i aelodau o’i theulu. Mae dau o’r darluniau me ...
Meirionnydd yn agor y drws i Gymry be...
28/05/2014
Categori: Celfyddydau, Eisteddfod yr Urdd
Capsiwn: Catrin Finch a Luke McCall rhai o sêr Cyngerdd Agoriadol Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014
Heddiw, dydd Llun 26 Mai bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Meirionnydd 2014, un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop sy’n denu tua 100,000 o ymwelwyr, yn agor ei drysau ar gaeau stad Rhiwlas, Y Bala, Gwynedd.
Bydd dros 15,000 o blant a phobl ifanc yn cystadlu yn ystod yr wythnos mewn cystadlaethau megis canu, llefaru, actio a dawnsio. Rhain yw’r gorau o oddeutu 48,000 o gystadleuwyr ledled Cymru sydd wedi ennill eu lle yn y genedlaethol yn dilyn Eisteddfodau Cylch a Sir.
Neithiwr yn y pafiliwn cynhaliwyd cyngerdd mawreddog, gydag Ifan Jones Evans a Ni ...
Gŵyl gerddorol y Bae- yn rhad ac am d...
23/05/2014
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith
Da ni’n gobeithio bydd yr haul yn gwneud ymddangosiad dros yr wythnos nesa oherwydd cynhelir gŵyl cerddoriaeth gyntaf Mermaid Quay o’r 24ain o Fai – 1af o Fehefin.
Mae’r ŵyl yn gymysgedd o gerddoriaeth (popeth o deyrnged Lady Gaga i opera i fandiau roc), gweithdai i blant (e.e drymiau Affricanaidd a chelf a chrefft) a bydd hyd yn oed robot yn bresennol!
Mae’r trefnwyr yn Halogen UK yn gobeithio rhoi “blas o haf” i bawb sy’n teithio i’r Bae, trwy arddangos a dathlu faint o dalent sydd ar gael yng Nghaerdydd.
Yn ogystal â phopeth arall, fydd yna helfa drysor i ennill gwobr gwerth £25 o Cadwalader&rsquo ...
Wythnos Diogelwch Bwyd - Peidiwch â g...
23/05/2014
Categori: Iechyd
Bydd Wythnos Diogelwch Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd eleni (16 – 22 Mehefin) yn canolbwyntio ar addysg am wenwyn Campylobacter gyda’r neges ‘Peidiwch â golchi cyw iâr amrwd’.
Campylobacter yw’r achos mwyaf cyffredin o wenwyn bwyd yn y Deyrnas Unedig (DU), gyda mwy yn dioddef o’i herwydd nac E.Coli, Listeria a Salmonela gyda’i gilydd. Llynedd yn y DU, bu’n rhaid i 22,000 o bobl fynd i’r ysbyty a bu farw 100 o bobl o ganlyniad i wenwyn bwyd Campylobacter.
Mae’n hawdd lledaenu Campylobacter a dim ond ychydig bach o facteria sydd ei angen i’ch gwneud yn sâl. Gallai hyn ddod o gyw iâr amr ...
Swinton: ymddygiad y cwmni yn haeddu ...
23/05/2014
Categori: Iaith
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i ddyfarniad Comisiynydd y Gymraeg bod y cwmni yswiriant Swinton wedi bod yn atal staff a chwsmeriaid rhag siarad Cymraeg.
Dyma'r tro cyntaf i'r Comisiynydd ddefnyddio ei phwerau newydd o dan Fesur y Gymraeg (2011) a sefydlodd rhyddid cyfreithiol i unigolion allu siarad Cymraeg ymysg ei gilydd.
Dywedodd Jamie Bevan, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae’n gwbl annerbyniol bod cwmnïau yn torri’r gyfraith yn y fath modd. Mae'r dyfarniad yn tanlinellu bod problemau erchyll yn y sector breifat o ran atal staff rhag siarad Cymraeg gyda chwsmeriaid. Un o’r pethau rydyn ni wedi galw ar i’r Comis ...
Craig Bellamy yn ymddeol
22/05/2014
Categori: Chwaraeon
Mae'r pêl-droediwr Craig Bellamy wedi ymddeol o chwarae pêl-droed yn 34 oed.
Dywedodd ddydd Iau nad oedd ei gorff "yn medru ymdopi rhagor".
Dechreuodd ei yrfa broffesiynol yn Norwich pan wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Arsenal yn 1997.
Sgoriodd 13 gôl y tymor hwnnw, gan sefydlu ei hun fel un o chwaraewyr pwysicaf y clwb.
Wedi cyfnod byr yn Coventry, lle cafodd nifer o anafiadau, symudodd i Newcastle, lle'r oedd o mewn partneriaeth gydag un o oreuon y Magpies, Alan Shearer.
Enillodd wobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn yn 2001 cyn ennill tlws y Scottish Cup gyda Celtic yn 2005.
Cafodd hefyd gyfnodau yn Blackburn Rovers, ...
Cyhoeddi rhestr bandiau Maes B
22/05/2014
Categori: Cerddoriaeth
Mae Maes B wedi cyhoeddi’r artistiaid fydd yn perfformio yng ngŵyl gerddorol fwyaf Cymru yn Llanelli eleni.
Ymysg yr uchafbwyntiau fydd Yws Gwynedd – band newydd cyn-ganwr Frizbee -, Swnami, Yr Eira, Cowbois Rhos Botwnnog ac enillwyr Brwydr y Bandiau ar raglen C2, Y Trwbz.
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch post@lleol.net
Mae llyfryn Tafwyl nawr ar-lein! Cyme...
22/05/2014
Categori: Addysg, Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Cystadlaethau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion
Am wythnos gyfan bydd rhaglen o weithgareddau amrywiol yn digwydd ar draws y ddinas. Mae rhywbeth i bawb gyda digwyddiadau yn amrwyio o noson gomedi i gerddoriaeth byw, o deithiau hanes i weithgareddau i blant meithrin.
Mi fydd prif ddigwyddiad Tafwyl, Ffair Tafwyl, yn cael ei gynnal yng Nghastell Caerdydd ar y 12fed o Orffennaf, ac wythnos Tafwyl yn rhedeg o’r 11eg-18fed o Orffennaf mewn lleoliadau amrywiol o amgylch Caerdydd.
Cymerwch olwg ar llyfryn Tafwyl 2014!
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch post@lleol.net