Wedi darganfod 42 cofnodion | Tudalen 5 o 5
Her Calan Mai i Radio Cymru
01/05/2014
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith
Mae Dyfodol i’r Iaith wedi gosod her i Radio Cymru ar Galan Mai i wella’r gwasanaeth Cymraeg.
Mewn llythyr at Bennaeth Rhaglenni Cymraeg a Golygydd Radio Cymru, Sian Gwynedd a Betsan Powys, mae’r mudiad wedi cyflwyno cyfres o gwestiynau am y gwasanaeth presennol a sut y gellir darparu ar gyfer y dyfodol.
Derbyniodd y mudiad nifer o gwynion a phryderon gan ei haelodau am safon iaith y cyflwynwyr a’r gormodedd o ganeuon Saesneg sydd ar Radio Cymru. Mae Dyfodol, felly, yn holi pryd y bydd ail wasanaeth Cymraeg ar unrhyw gyfrwng i geisio goresgyn y problemau presennol.
Heb enwi unrhyw gyflwynydd unigol, mae Dyfodol i’r Iaith yn holi fel ...
Paratoi'r maes ar gyfer Eisteddfod yr...
01/05/2014
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Cystadlaethau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith, Newyddion
Mae gwaith paratoi'r safle ar gyfer eisteddfod yr urdd Meirionnydd wedi dechrau a'r dywarchen gyntaf wedi ei thorri ar stad y Rhiwlas, Y Bala.
Dyma fydd lleoliad y brifwyl ieuenctid rhwng Mai 26 a Mai 31 ac mae'r caeau yn y broses o gael eu trawsnewid gyda tracfyrddau, ffensys a swyddfeydd wrthi'n cael eu gosod.
Mi fydd yna ambell i newid ar y maes y tro yma gyda'r adeilad ar gyfer gweithgareddau gwyddonol a daearyddiaeth yn dyblu mewn maint. Bydd ardal ar gyfer creu apiau a chodio cyfrifiadurol a llwyfan yn cael ei osod ar gyfer cyflwyniadau.
Y tro yma hefyd mi allith pobl argraffu eu tocynnau eu hunain os ydyn nhw wedi talu amdanyn nhw ymlaen llaw. Bydd system ne ...