Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 63 cofnodion | Tudalen 2 o 7

Gwobr arall i Sgiliaith

25/07/2014
Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Gwobr arall i Sgiliaith


Liz Saville, Angharad Roberts ac Awen Schiavone

Mae Sgiliaith yn falch iawn o gyhoeddi ennill gwobr am adnodd digidol mewn gwobrau cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Gwobr Cynnwys Digidol Gwreiddiol mewn Addysg Bellach yw teitl y wobr, ac fe’i cyflwynwyd mewn seremoni wobrwyo yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd. Roedd Digwyddiad a Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2014 yn rhedeg am yr ail dro eleni, gydag wyth o wobrau amrywiol am ddefnydd arloesol o dechnoleg ddigidol mewn addysg.

Ym mis Medi 2013 gofynnodd Hunaniaith (Menter Iaith, Cyngor Gwynedd) i Sgiliaith (sy’n adran o fewn Grŵp Llandrillo Menai) greu adnodd i’w gyflwyno i bobl ifainc fyddai’n codi eu hymwyby ...

darllenwch mwy

"Bu’n sioe a hanner, ond nid ydym am ...

25/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Arian a Busnes, Bwyd, Celfyddydau, Cystadlaethau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Hamdden, Iaith, Newyddion

"Bu’n sioe a hanner, ond nid ydym am laesu dwylo"


Y Sioe Fawr 2014

Roedd Sioe Frenhinol Cymru eleni yn achlysur a hanner fel yr oedd pawb wedi’i ragweld.
 
Gyda mwy o bobl sy’n talu’n dod drwy’r giatiau, mwy o aelodau i’r gymdeithas, mwy o geir yn defnyddio’r meysydd parcio am ddim, mwy nag erioed o dda byw’n cystadlu, cynnydd yn nifer y stondinau masnach a rhaglen gystadlaethau hynod o lwyddiannus, mae sioe’r wythnos hon wedi rhagori ar bob disgwyl.
 
Yn siarad ar ddiwrnod olaf y sioe, dywedodd Mr David Lewis, Cadeirydd Cyngor CAFC nad oedd yn 40 mlynedd ei gysylltiad â’r gymdeithas erioed wedi gweld y fath gasgliad o dda byw eithriadol â’r rheini a oedd yn cael eu dangos ...

darllenwch mwy

Ymgyrch Cefnogwch eich Stryd Fawr

24/07/2014
Categori: Arian a Busnes, Newyddion

Beth sy’n gwneud eich stryd fawr chi yn lle mor wych? Yr hydref hwn, bydd Llywodraeth Cymru’n lansio ymgyrch ‘Cefnogwch eich Stryd Fawr’.
 
Mae’r ymgyrch yn elfen bwysig o’r Fframwaith ‘Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’, a’i nod yw annog pobl a’u cymunedau i ddefnyddio eu stryd fawr leol.
 
Bydd wythnos yr ymgyrch yn dechrau ar 20 Medi ac rydym yn cydweithio â phartneriaid ar draws Cymru i ddatblygu digwyddiadau a gweithgareddau.
 
Bydd cymunedau lleol yn hanfodol i lwyddiant yr ymgyrch.  Fel rhan o hyn, rydym yn cynnal cystadleuaeth i blant rhwng 8 ac 11 oed (blynyddoedd 3-6) yr ysgolion lleol i&rsq ...

darllenwch mwy

S4C yn arwyddo cytundeb hanesyddol gy...

23/07/2014
Categori: Arian a Busnes, Iaith, Newyddion

Mae S4C wedi arwyddo Cytundeb o Fwriad i gydweithio ar amrywiaeth o gynyrchiadau gyda sianel JTV yn Ne Corea.
 
Dyma’r tro cyntaf i’r darlledwr S4C a’r cwmni cynhyrchu o Gaernarfon, Awen Media a Rondo Media, gydweithio mewn partneriaeth gyda darlledwr o Dde Corea.
 
Bydd y cynhyrchwyr o Gymru yn dechrau ffilmio tair rhaglen ddogfen yn Ne Corea ym mis Medi.
 
Mae’r cydweithio wedi dod yn bosibl drwy gydweithrediad a thrafodaethau gyda’r cwmni The Bridge, cwmni annibynnol ac arloesol sy’n pontio cynhyrchwyr ym Mhrydain gyda chwmnïau yn Asia.
 
Bydd un rhaglen ddogfen yn olrhain hanes y cenhadwr Robert Jermain Thomas yn ne Cor ...

darllenwch mwy

Labelu Cymraeg yn denu’r prynwyr

23/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Ar-lein, Arian a Busnes, Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith

Labelu Cymraeg yn denu’r prynwyr, medd ymchwiliad Sioe Frenhinol
 
Mae ymchwil a ddadorchuddwyd yn y Sioe Frenhinol eleni wedi datgelu fod labelu dwyieithog Cymraeg a Saesneg ar gynnyrch yn medru profi i fod yn hw bi fusnes, a denu cynulleidfa ehangach. Wrth gyhoeddi’r newyddion, bu i Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, nodi y byddai’r ymchwil “galonogol” hyn yn cynnig mwy o hyder i gynhyrchwyr Cymreig. “Rydym wedi canfod fod defnyddio y Iaith Gymraeg o amgylch brand yn helpu greu hunaniaeth a phroffil unigryw. Wrth weld enw Cymraeg ar gynnyrch rydych yn gwybod ei fod yn dod o Gymru, gan gael ei gynhyrchu yn lleol, gan wasanaethu’r gymdeithas&rd ...

darllenwch mwy

£570,000 i ailddatblygu’r Bandstand a...

23/07/2014
Categori: Arian a Busnes, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Cystadlaethau, Hamdden, Newyddion

£570,000 i ailddatblygu’r Bandstand ar y Promenâd


Bandstand Aberystwyth


Promenâd Aberystwyth yn “sbardun ar gyfer twf lleol”

Roedd y Gweinidog Tai ac Adfywio Carl Sargeant yn Aberystwyth heddiw i weld sut mae gwaith adfywio yno yn helpu’r Promenâd i fod yn llwyddiant.
Yn ddiweddar, ariannodd Llywodraeth Cymru waith i adfywio’r ardal yn dilyn stormydd, yn ogystal â buddsoddi yng ngwedd a gwneuthuriad yr adeiladau. Yn ystod ei ymweliad, cyhoeddodd y Gweinidog gyllid pellach o £570,000 i ailddatblygu’r Bandstand ar y Promenâd.

 
Dywedodd y Gweinidog:
 
“Mae’n amlwg bod Bandstand eiconig Aberystwyth yn gyfleuster sy’n annwyl i’r trigolion lleol, ac rwy’n ...

darllenwch mwy

Haf sy’n llawn newid ar gyfer materio...

22/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Haf sy’n llawn newid ar gyfer materion gwledig


Jill Evans ASE

 gan Jill Evans ASE
 
Wrth i ni fynychu’r Sioe yr wythnos hon, bydd nifer o bobl yn myfyrio ar haf sy’n llawn newid ar gyfer materion gwledig yng Nghymru.
 
Gydag ymadawiad annisgwyl y Gweinidog Adnoddau Naturiol yn ddiweddar, a’r modd yr ail-ddosbarthwyd swyddi gweinidogol, peth anodd fydd hi unwaith eto, i ragweld pwy fydd yn gyfrifol am benderfyniadau amaethyddol a gweldig pwysig – yn enwedig heb fod gyda ni weinidog penodol yn eistedd wrth y bwrdd mawr.
 
Mae hi felly’n siom na fydd y Dirprwy Weinidog felly yn rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor yn y Sioe Fawr yr wythnos hon, er fy mod yn sicr y bydd yn amlinellu ei syniadau cyn hi ...

darllenwch mwy

Dechreuad prysur i sioe a hanner

22/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Mae diwrnod cyntaf prysur wedi gosod y cywair ar gyfer yr hyn y rhagwelir y bydd hi’n Sioe Frenhinol a hanner.
 
Gyda’r ymweliad cyntaf erioed gan Brif Weinidog yn y swydd, dechreuodd y diwrnod trwy groesawu urddasogion a phobl bwysig iawn i faes y sioe o bob cwr i’r wlad. Ochr yn ochr â Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, ymunwyd â David Cameron gan Elizabeth Truss, Ysgrifennydd Gwladol, Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Edwina Hart, John Griffiths, Rebecca Evans a llawer o gymeriadau gwleidyddol eraill.
 
Gyda diolch y dywedodd Cyfarwyddwr Anrhydeddus y sioe, Mr Harry Fetherstonhaugh: “Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr fod y Prif ...

darllenwch mwy

David Cameron yn ymweld â Sioe Frenhi...

22/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Fe wnaeth y Gwir Anrhydeddus David Cameron AS hedfan i mewn i Lanelwedd ddoe (dydd Llun 21 Gorffennaf) i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru am y bore.
 
Fel y Prif Weinidog Prydeinig cyntaf yn y swydd i ymweld â’r sioe, cafodd Mr Cameron ei groesawu gan Gyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe, Mr Harry Fetherstonhaugh a phwysigion eraill cyn cael ei dywys ar daith o amgylch maes y sioe.
 
Galwodd Mr Cameron yn gyntaf yn adeilad Llywodraeth Cymru i gwrdd â’r Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru ac yna ymunwyd ag ef gan Stephen Crabb AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, cyn mynd yn eu blaenau i ymweld ag atyniadau’r sioe a stopio am sgwrs gyda&rs ...

darllenwch mwy

Y Cynulliad Cenedlaethol yn arwain y ...

21/07/2014
Categori: Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith, Newyddion

Gall fod yn un o'r newidiadau mwyaf i'r rhyngrwyd yng Nghymru ers lansio'r we fyd-eang ym 1989.
 
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arwain y ffordd yn y chwyldro hwnnw, drwy gytuno i fod yn un o'r rhai cyntaf i ddefnyddio'r enwau parth .Cymru / .Wales.
 
Bydd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymuno ag Ieuan Evans o gwmni cofrestru enwau parth y DU, sef Nominet, a Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, i gyhoeddi'r sefydliadau cyntaf a fydd yn defnyddio'r enwau parth ar faes y Sioe Frenhinol ar 21 Gorffennaf.
 
Dywedodd y Fonesig Rosemary, "Bydd yr enwau parth newydd hyn yn caniatáu i sefydliadau, busnesau ac unigolion ledled Cymru hyrwyddo ...

darllenwch mwy