Wedi darganfod 56 cofnodion | Tudalen 1 o 6
Comedïwyr blaenllaw yn codi ymwybyddi...
27/02/2015
Categori: Addysg, Celfyddydau, Hamdden, Iaith
Heno, bydd comedïwyr blaenllaw yn cymryd rhan mewn gig i godi ymwybyddiaeth dros Addysg Gymraeg yn y ddinas.
Bydd y cyflwynydd a’r comedïwr poblogaidd Daniel Glyn a’i gyfeillion yn perfformio yng Nghlwb Lyndon ar Clare Rd, Grangetown, i gellwair a rhannu geiriau ffraeth – a phwy wŷr, tynnu blewyn o drwyn ambell un o’r gwleidyddion lleol! Cefnogir y digwyddiad gan Gylch Meithrin Grangetown a’r Bae, Ysgol Pwll Coch ac Ymgyrch TAG, sydd yn parhau yn eu hymdrechion i sefydlu Ysgol Gynradd Gymraeg ar gyfer Grangetown a Threbiwt.
Yn ymuno â Daniel bydd criw dethol o dalentau’r sin ac mae’n addo bod yn noswaith amlie ...
Mae'r Anifeiliaid Blewog yn eu hôl!
27/02/2015
Categori: Cerddoriaeth, Newyddion
Daeth y newyddion cyffrous fod un o fandiau mwyaf Cymru yn ôl. Mae’r Super Furry Animals yn barod i danio eto, gyda chyfres o gyngherddau wedi’u trefnu ledled Prydain. Bu yna gryn ddirgelwch dros yr wythnos diwethaf, pan ryddhawyd dwy fideo cryptig yn awgrymu fod yr anifeiliaid blewog ar ei ffordd yn ôl.
Bu’r band yn dawel ers 2009, ble y gwelwyd yr aelodau i gyd yn dechrau prosiectau unigol eu hunain. Aeth y prif ganwr Gruff Rhys i ryddhau albymau cysyniadol, Separado ac American Interior, tra yr aeth y gweddill i dorri cwys eu hunain, gyda bandiau eraill fel The Earth.
Fel rhan o’r ailddyfodiad, bydd yr SFA yn ailryddhau ei hunig ...
Gwynedd yn seithfed trwy Brydain gyda...
27/02/2015
Categori: Bwyd, Hamdden, Iechyd, Newyddion
Mae’n olygfa gyfarwydd erbyn hyn i weld arwyddion gwyrdd mewn busnesau sy’n darparu bwyd dros Gymru ond mae Cyngor Gwynedd wedi rhagori yn y maes hwn, gan ddod yn seithfed drwy Brydain gyda effeithiolrwydd sustem hylendid mewn busnesau bwyd.
Cynhaliwyd arolwg ymhlith awdurdodau lleol ledled Prydain gan gylchgrawn defnyddwyr Which yn rhifyn mis Mawrth, yn mesur pa mor dda y mae busnesau yn cydymffurfio gyda gofynion hylendid.
Ers mis Tachwedd 2013, mae ofynnol i fusnesau bwyd yng Nghymru ddangos sgôr bwyd mewn man amlwg yn eu busnes. Yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban nid yw’n ofynnol i ddangos sgôr fwyd. Daeth Cymru yn gyd ...
'Technoleg Anniogel' Wylfa B
26/02/2015
Categori: Gwleidyddiaeth, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion
Mae Cyn-brif Weinidog Siapan Mr Naoto Kan yn ymweld ag Ynys Môn heddiw i rybuddio yn erbyn datblygu’r atomfa newydd Wylfa B ar yr ynys. Mr Kan oedd Prif Weinidog y wlad yn ystod Trychineb Fukushima yn 2011 ac ers iddo ymddiswyddo, bu’n wrthwynebydd mawr i egni Niwcliar.
Fel yr eglurodd, "Achoswyd yr hyn ddigwyddodd yn Fukushima yn 2011 gan fodau dynol, nid trychineb naturiol. Mae'n glir i mi mai’r hyn a achosodd y trychineb hwn oedd ein hymrwymiad i dechnoleg aniogel a drud nad yw'n gydnaws â bywyd ar y blaned hon."
Noddi’r daith gan Green Cross International, mudiad amgylcheddol a ffurfiwyd gan Mikhail Gorbachev sydd a’ ...
Adroddiad Donaldson ddim yn mynd yn d...
26/02/2015
Categori: Addysg, Gwleidyddiaeth, Iaith
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i adolygiad yr Athro Donaldson o'r cwricwlwm, gan ddweud bod cyfrifoldeb ar y Llywodraeth i weithredu er mwyn sicrhau 'addysg Gymraeg i bawb'.
Ym mis Medi 2013, cyhoeddodd yr Athro Sioned Davies adroddiad oedd yn argymell disodli Cymraeg ail Iaith gyda chontinwwm lle byddai pob disgybl yng Nghymru'n derbyn cyfran o'u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd y cyn-athro ac ymgynghorydd addysg Toni Schiavone ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ‘Rydyn ni wedi cael cefnogaeth gref iawn ar lawr gwlad i'n hymgyrch dros addysg Gymraeg i bawb. Ac er bod dyheadau pobl Cymru yn dod drwyddo'n&nbs ...
Adroddiad Donaldson: Dim Gweledigaeth
26/02/2015
Categori: Addysg, Iaith, Newyddion
Er bod Adroddiad Donaldson yn cydnabod cyfraniad addysg Gymraeg, dyw’r adroddiad ddim yn cynnig gweledigaeth am rôl addysg Gymraeg wrth greu gwlad ddwyieithog. Dyna honiad y mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg wrth ymateb i’r adroddiad.
Medd Ceri Owen, Cyfarwyddwr Datblygu RhAG, “Mae gan Lywodraeth Cymru’r nod o greu gwlad ddwyieithog. Mae adroddiad Donaldson fel pe bai’n trafod y Gymraeg yn bwnc, ymysg pynciau eraill. Er ei fod yn cydnabod gwerth ysgolion Cymraeg, ac am eu gweld yn ganolbwynt i hyrwyddo arfer da, dyw’r adroddiad ddim yn cynnig gweledigaeth ar gyfer y twf y mae’n rhaid i ni ei weld mewn addysg Gymraeg.”
&nbs ...
Leanne Wood yn galw am gydraddoldeb g...
25/02/2015
Categori: Gwleidyddiaeth, Newyddion
Mae Plaid Cymru wedi galw ar San Steffan i sicrhau cydraddoldeb i Gymru ar drothwy datganiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb ynghylch datganoli pwerau pellach i Gymru, gyda rhybudd gan Leanne Wood y dylai Cymru gael ei thrin fel partner cyfartal mewn teulu o genhedloedd.
Rhybuddiodd Leanne Wood mai dyma gyfle olaf San Steffan i gyflwyno cydraddoldeb i Gymru ar eu telerau eu hunain, a rhybuddiodd nad oes rheswm pam y byddai’n rhaid i Gymru dderbyn setliad datganoli llai na’r hyn a gynigir i’r Alban a Gogledd Iwerddon.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, “Dyma gyfle olaf San Steffan i gyflwyno cydraddoldeb i Gymru ar eu tele ...
Cyfle i ail-fyw rhaglen am Merêd
25/02/2015
Categori: Iaith, Newyddion
Bydd cyfle i ail-fwynhau rhaglen arbennig a ddarlledwyd y llynedd am y diweddar Dr. Meredydd Evans am 9.30pm heno.
Dyma Gymro o Danygrisiau sydd wedi cyfarfod Marilyn Monroe, a oedd yn gweld Albert Einstein yng nghoridorau prifysgol Princeton, America yn ddyddiol, ac a welodd gasgliad o'i ganeuon ar restr 12 albwm adloniant ysgafn poblogaidd gorau'r flwyddyn y New York Times. A dim ond un haen o hanes bywyd lliwgar Dr Meredydd Evans yw hynny.
Mae’n hel atgofion am ei fywyd; o'i fagwraeth gynnar, i adael Cymru a symud i America gyda'i wraig a'i ferch fach, a'i ymdrechion i warchod y Gymraeg a diwylliant Cymru wedi iddo ddychwelyd. Bydd Merêd, ar nos Sul, 2 Mawrth ...
Athrawon Ffiseg Cymru yn mynd i Cern
25/02/2015
Categori: Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Hamdden, Newyddion
Bydd un ar bymtheg o athrawon ffiseg o ysgolion uwchradd yng Nghymru yn cael trip ysgol gwerth chweil yr wythnos hon pan fyddant yn ymweld ’r Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwcliar neu’r enwog CERN ger Genefa, yn y Swistir.
Fel rhan o ymgyrch Cymwys am Oes: Ffocws ar Wyddoniaeth Llywodraeth Cymru, mae’r athrawon yn cael mynd ar gwrs pwrpasol ac arbenigol, a fydd yn rhoi cyflwyniad iddynt am y ffiseg ronynnol ddiweddaraf.
Bydd y cwrs yn cynnwys darlithoedd, ymweliadau, arddangosfeydd, a gweithdai ymarferol. Y gobaith yw y bydd yr athrawon hyn yn dychwelyd i Gymru ac yn trosglwyddo’r hyn y maent wedi ei ddysgu i’r genhedlaeth nesaf o ffi ...
Cyngor Powys yn llusgo'u traed dros y...
24/02/2015
Categori: Iaith, Newyddion
Yn ôl ymgyrchwyr iaith ym Maldwyn, mae Cyngor Sir Powys yn "llusgo'u traed," ac mae angen sefydlu gweithgor fydd yn mynd i'r afael â dirywiad nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Sir.
Mewn llythyr at Barry Thomas, arweinydd y Cyngor, heddiw, mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn mynegi pryder nad oes cynnydd wedi bod ers iddynt gyfarfod â swyddogion y Cyngor y llynedd. Gan gyfeirio at ganlyniadau cyfrifiad 2011, a ddangosodd bod nifer yr ardaloedd gyda thros 50% yn gallu siarad Cymraeg wedi crebachu o 8 i 3, a bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir 1,800 yn llai dros 10 mlynedd o ganlyniad i batrymau allfudo a mewnfudo, dywed y llythyr:
Gweithredu ar fr ...