Wedi darganfod 59 cofnodion | Tudalen 1 o 6
Dathlu’r stryd fawr mewn ymgyrch gene...
30/04/2015
Categori: Hamdden, Newyddion
Cyhoeddodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths, bod yr ymgyrch genedlaethol i annog pobl i ddefnyddio eu stryd fawr leol yn dychwelyd ym mis Mai.
Bydd yr ymgyrch ‘Cefnogi eich Stryd Fawr’ yn codi proffil yr amrywiaeth eang iawn o siopau a gwasanaethau sydd ar gael ar strydoedd amrywiol a bywiog Cymru. Gyda’r stryd fawr yn wynebu cystadleuaeth gan ganolfannau tu allan i’r dref, mae’r ymgyrch wedi’i hanelu i ddenu pobl yn ol.
Bellach yn ei hail flwyddyn, mae'r ymgyrch yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr y mae'r stryd fawr yn ei wneud i economi Cymru, a'u swyddogaeth hollbwysig ym mywyd y gymuned.
& ...
Enillydd Oscar yn canmol y diwydiant ...
30/04/2015
Categori: Hamdden, Newyddion
Mae Ryszard Lenczewski, Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth ar ffilm a enillodd wobr Oscar eleni, wedi canmol y diwydiant ffilmiau yng Nghymru am hybu ei yrfa.
Ddeunaw mlynedd yn ôl, fe gydweithiodd Ryszard â Peter Edwards, cyfarwyddwr ffilm sy'n hanu o Sir y Fflint, ar y ddrama Pum Cynnig i Gymro. Ac eleni, Ryszard oedd y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth ar gyfer y ffilm 'Ida', a enillodd y wobr am y ffilm dramor orau yng ngwobrau’r Oscars. Dyma'r ffilm Bwylaidd gyntaf i ennill y wobr.
Mae S4C yn ail-ddangos y gyfres fu Ryszard yn ymwneud â hi - Pum Cynnig i Gymro bob nos Sul am 9.00. Caiff yr ail raglen yn y gyfres o bedair ei darlledu ddydd Sul yma, 3 Mai, gyd ...
Gŵyl yn cofio'r dramodydd Wil Sam
30/04/2015
Categori: Celfyddydau, Llenyddiaeth, Newyddion
Bydd Gŵyl Ddrama Wil Sam yn dychwelyd unwaith eto i bentref llenyddol Llanystumdwy ddydd Sadwrn hwn, gyda pherfformiadau gan ddwy gymdeithas ddrama leol.
Eleni, bydd Cymdeithas Ddrama Llanystumdwy a Chymdeithas Ddrama Gymraeg Prifysgol Bangor yn perfformio gwaith Wil Sam ar lwyfan Neuadd Pentref Llanystumdwy.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Ein bwriad o’r dechrau un gyda’r ŵyl hon oedd cydweithio’n agos â thrigolion yr ardal sy’n gartref i’n Canolfan Ysgrifennu, Tŷ Newydd. Mae Wil Sam yn gymeriad a gaiff ei gofio’n annwyl yma’n lleol, ac mae’n fraint gennym sefydlu gŵyl yn ei enw a&rsq ...
Integreiddio'r gwasanaeth iechyd gyda...
29/04/2015
Categori: Iechyd, Newyddion
Mae gan Blaid Cymru gynlluniau i integreiddio'r gwasanaeth iechyd gyda Gofal Cymdeithasol er mwyn atal oedi cyn rhyddhau pobl o’r ysbyty i ofal, yn ôl ymgeisydd y blaid yng Ngheredigion, Mike Parker.
Bydd cynlluniau Plaid Cymru i integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd yn rhyddhau mwy o adnoddau y gellir eu hail-fuddsoddi i wasanaeth iechyd cymunedol fel y gall pobl dderbyn gofal safonol mor agos i’w cartrefi ag sydd modd.
Maent o’r farn y bydd y cynlluniau hyn yn chwalu’r muriau sy’n bodoli rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan leihau rhestri aros ac yn cryfhau’r gwasanaeth iechyd.
Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru y ...
Angen i'r banciau wella eu gwasanaeth...
29/04/2015
Categori: Arian a Busnes, Newyddion
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi adroddiad arolwg statudol i ddefnydd o’r Gymraeg gan fanciau’r stryd fawr, gan ddatgan fod angen iddynt wella eu darpariaeth.
Cynhaliodd y Comisiynydd yr arolwg yn dilyn cynnydd sylweddol yn nifer y cwynion roedd hi’n eu derbyn gan aelodau o’r cyhoedd ynglŷn â diffyg gwasanaethau Cymraeg gan y banciau. Mae’r arolwg yn deillio o’r alwad am dystiolaeth gan aelodau o’r cyhoedd ac o gyfweliadau gydag uwch swyddogion yn y banciau.
Fel yr eglurodd y Comisiynydd, Meri Huws, “Yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf mae’r gwasanaethau Cymraeg fel pe baent wedi eu dirad ...
Iolo yn mynd dros y ffin
29/04/2015
Categori: Hamdden, Newyddion
Bydd y naturiaethwr poblogaidd o Bowys, Iolo Williams, yn mentro i rai o ardaloedd prydferthaf Lloegr yn ei gyfres newydd, Iolo Dros y Ffin, sy'n dechrau ar S4C heno.
Dros y chwe wythnos nesaf, bydd Iolo yn ymweld â lleoliadau amrywiol - Ardal y Llynnoedd, Gwlad yr Haf, Ardal y Peak District, South Downs, Northumbria a Norfolk.
Mae tirwedd a nodweddion yr ardaloedd hyn yn ddeniadol iawn yn ôl Iolo, sy'n credu na ddylen ni anwybyddu cefn gwlad hyfryd y wlad dros y ffin, fel yr eglurodd, "Fel Cymry, rydyn ni'n dueddol o weld Lloegr fel y bwgan mawr, ac yn fygythiad i ni o ran iaith a diwylliant. Ond mae'n bwysig i ni ddangos lleoliadau dros y ffin ar deledu, ...
Pobl Caerdydd yn cyflwyno 'Potter yn ...
28/04/2015
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth
Cyfweliad Gareth Potter ar ran Pobl Caerdydd gyda Geraint Jarman.
Mae'r cerddor a'r bardd yn sôn am dyfu i fyny yn y brifddinas, y capel, dyddiau ysgol a'r dylanwadau cerddorol gan gynnwys y bandiau oedd yn chwarae mewn clybie'r ddinas- a chyfansoddi'r recordiau arloesol cynnar.
Cynhyrchiad gan Pobl Caerdydd
Apêl fawr daeargryn Nepal yn cael ei ...
28/04/2015
Categori: Iechyd, Newyddion
Cafodd apêl fawr gan Bwyllgor Argyfyngau (DEC) ei lansio heddiw er mwyn helpu dioddefwyr y daeargryn dinistriol a ysgwyddodd Nepal ddydd Sadwrn diwethaf, gan ddod a dinistr enfawr i’r wlad.
Bydd Apêl Daeargryn Nepal DEC yn cael ei ddangos ar S4C heno ynghyd a’r BBC, ITV Channel 4, Channel 5 a Sky.
Bydd yr arian a godir yn cefnogi ymdrechion aelodau'r Pwyllgor Argyfyngau i gyrraedd teuluoedd a effeithiwyd gan y daeargryn a oedd yn mesur 7.8 i 'r gorllewin o brifddinas Kathmandu.
Mae nifer y meirw heddiw wedi codi uwchlaw 3,000 ac mae 5.3 miliwn o bobl yn byw mewn ardaloedd a brofodd y daeargryn, gyda’r Prif Weinidog heddiw y ...
Gwobr cyfraniad oes i Dafydd Islwyn
28/04/2015
Categori: Llenyddiaeth, Newyddion
Un o uchafbwyntiau Gwyl Bedwen Lyfrau 2015, a gynhelir yng Nghanolfan Soar, Merthyr ddydd Sadwrn nesaf, fydd cyflwyno Gwobr Cyfraniad Oes i Dafydd Islwyn, gan ei bod yn 35 mlynedd ers iddo gymryd yr awenau fel Ysgrifennydd Barddas, ac am ei gyfraniad diflino at gynnal y diwylliant Cymraeg.
O Fôn y daw Dafydd Islwyn yn wreiddiol, ond ymgartrefodd yng Nghwm Rhymni yn y chwedegau. Bu’n athro yn Ysgol Gynradd Trelewis am bymtheg mlynedd cyn symud i Ysgol Gymraeg Caerffili, lle bu’n ddirprwy bennaeth.
Cafwyd cyfle i dalu teyrnged i Islwyn yn Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010 am ei gyfraniad fel bardd a hefyd am ei gyfraniad fel Cadei ...
Ail gyflwyno Datblygu i genhedlaeth n...
28/04/2015
Categori: Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion
Yn dilyn perfformiad cyntaf ers ugain mlynedd dros y penwythnos gan y grwp eiconig - Datblygu, mae Ankstmusik wedi cyhoeddi fod casgliad 'DATBLYGU 1985-1995' sydd wedi ei ail fastro, ar fin cael ei ail ryddhau.
Dywedodd Emyr Glyn Williams, perchennog y label, ‘Heb os Datblygu oedd y grwp mwyaf dylanwadol yn hanes canu roc tanddaearol Cymraeg ac mae’r casgliad yma yn dangos pam – caneuon unigryw, cerddoriaeth rhagorol, gonestrwydd a chariad law yn llaw a dicter a thristwch.’
Ychwanegodd, ‘Mae’r casgliad yn llawn uchafbwyntiau fel y clasuron pop ‘Y Teimlad’ a recordiwyd gan y Super Furries ar gyfer MWNG, & ...