Wedi darganfod 696 cofnodion | Tudalen 3 o 70
Annog rhieni i ddarllen gyda'u plant ...
16/12/2015
Categori: Addysg, Iaith, Newyddion
Mae’r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi bod yn annog pobl led-led Cymru i neilltuo ychydig amser y Nadolig hwn i ddarllen gyda’u plant.
Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref yn ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru. Mae’n targedu rhieni, neiniau a theidiau, a gofalwyr, gan eu hannog i gymryd rhan yn addysg y plentyn drwy ddangos sut mae’r pethau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.
Dywedodd y Gweinidog fod y Nadolig yn amser delfrydol i dreulio amser gyda’u plant, “Mae’r Nadolig yn amser perffaith i deuluoedd ac anwyliaid dreulio amser gwerthfawr gyda’i gilydd. Fel tad prysur, fi yw’r cyntaf i gyfaddef y ...
Croesawu penderfyniad i wrthod cais i...
15/12/2015
Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu penderfyniad pwyllgor cynllunio i wrthod cais i adeiladu dros 300 o dai yn ardal Bangor yng Ngwynedd.
Roedd swyddogion Cyngor Gwynedd wedi argymell y dylid codi dros 300 o dai yn ardal Penrhosgarnedd ger Bangor. Fe roedd hynny wedi codi gwrychyn mudiadau a chynghorwyr lleol ond fe roedd y Cyngor yn dadlau fod angen y tai i sicrhau tai fforddiadwy.
Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd rhanbarth lleol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, «Rydyn ni'n croesawu penderfyniad y cynghorwyr. Mae cyfraith am statws y Gymraeg yn y system gynllunio ar fin newid. Mae hynny'n cynnig cyfle arbennig i gynghorwyr gwrthod y cais os ...
Colli pwysau gyda Hywel Gwynfryn
15/12/2015
Categori: Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Newyddion
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn gwahodd pobl i ymuno yn Her Hywel, a cholli pwysau gyda Hywel Gwynfryn i godi arian tuag at Gronfa Leol Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn!
Mae croeso i unrhyw un sy’n awyddus i golli pwysau i ymuno yn yr her – does dim rhaid byw yn Ynys Môn – a bydd Hywel Gwynfryn – yr hogyn o Langefni – yn arwain yr ymgyrch wrth iddo yntau fynd ati i golli pwysau ar ddechrau’r flwyddyn.
Meddai Hywel, “Mae llawer ohonom ni’n ei gorwneud hi dros y ‘Dolig, ac yna’n difaru ar ddechrau mis Ionawr. Ond peth anodd yw cadw at ddeiet wrth fynd ati i golli pwysau ar eich pen eich hun.& ...
Leanne Wood yn croesawu cytundeb yng ...
14/12/2015
Categori: Addysg, Amgylchedd, Iaith, Newyddion
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi croesawu’r ffaith fod bron i 200 o wledydd wedi llwyddo i ddod i gytundeb yn y gynhadledd Newid Hinsawdd – COP21 – ym Mharis, ond mae wedi rhybuddio bod yn rhaid i lywodraethau weithredu ei ddarpariaethau yn syth.
Dywedodd Leanne Wood, “Rwy’n croesawu’r ffaith fod bron i ddau gant o wladwriaethau wedi llwyddo i ddod i gytundeb ar fater sydd fel arfer yn anodd dod i gonsensws byd-eang arno. Mae Plaid Cymru hefyd yn cydnabod fod ymrwymiad i ymdrechu i gyfyngu tymheredd y byd yn fwy fyth i 1.5C fel cam arwyddocaol. Rhaid i weithredu hyn fod yn fater o frys i bob llywodraeth, gan gynnwys ein hun ni."
...
Anrheg Nadolig cynnar i bobl pentref ...
14/12/2015
Categori: Ar-lein, Iaith, Newyddion
Mae anrheg Nadolig cynnar wedi dod i bobl Nasareth. Gall y cartref cyntaf yn y pentref yng nghefn gwlad Gwynedd archebu band eang cyflym iawn fydd yn cyrraedd cyflymder o hyd at 330Mbps – gan eu gwneud yn rhai o’r adeiladau sydd wedi’u cysylltu orau ym Mhrydain.
Bydd y cyflymder cyflym iawn yn galluogi pobl i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn well. Er enghraifft, gall pawb yn y cartref wneud eu pethau eu hunain ar-lein, pawb ar yr un pryd, boed yn ffrydio ffilmiau manylder uwch, lawrlwytho cerddoriaeth, chwarae gemau, astudio neu gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.
Gwnaethpwyd hyn yn bosib drwy ddefnyddio technoleg o’r enw cys ...
Cân yn cael ei rhyddhau i godi arian ...
14/12/2015
Categori: Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion
Mae cân sydd wedi'i pherfformio gan y tenor Wynne Evans a chôr o weithwyr o wahanol gwmnïau ledled Cymru, yn cael ei rhyddhau fel sengl elusennol S4C yr wythnos yma.
Fe fydd 'Cân Heb ei Chanu' - cân gafodd ei hysgrifennu gan y cyfansoddwr adnabyddus Robat Arwyn, a'r geiriau gan Hywel Gwynfryn - yn cael ei ryddhau heddiw i godi arian i'r elusen gancr Tenovus.
Fe fydd y sengl ar gael i'w phrynu oddi ar siop iTunes am 79 ceiniog, ac siopau Amazon a Google Plus am 99 ceiniog.
Yn perfformio gydag Wynne mae côr o weithwyr o dri chwmni adnabyddus yng Nghymru, sydd wedi'u ffurfio yn arbennig ar gyfer canu mewn cyfres newydd o Wynne ar Wai ...
Cau Ysgol Cynfelyn yn benderfyniad di...
11/12/2015
Categori: Addysg, Iaith, Newyddion
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi mynegi tristwch yn dilyn y penderfyniad gan Gyngor Ceredigion i gau Ysgol Llangynfelyn.
Roedd y cyngor yn argymell cau ddwy ysgol: Cwmpadarn am fod tair ysgol gynradd arall yn yr ardal lle mae nifer y disgyblion yn disgyn, a Llangynfelyn am fod llai na 30 o ddisgyblion yn yr ysgol. Ond fe roedd rhieni’n gwrthwynebu'r cynlluniau.
Dywedodd Bethan Williams, Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith. “Rydyn ni'n rhannu tristwch rhieni, plant a chymuned Llangynfelyn ac yn llawn edmygedd o'u dyfalbarhad wrth ymgyrchu. Mae pwyslais y cyngor ar 'lefydd gwag' mewn ysgolion ac ar gost o hyd - yn hytrach na gwerth yr ysgol i'r gymuned, ryd ...
Chwilio am enwebiadau i Ddysgwr y Flw...
11/12/2015
Categori: Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Iaith, Newyddion
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn chwilio am enwebiadau ar gyfer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i unrhyw un dros 18 oed sydd wedi dysgu Cymraeg yn eithaf rhugl. Gall unigolyn ymgeisio’i hun, neu gall teulu, ffrind, cydymaith - unrhyw un - fynd ati i enwebu rhywun sydd wedi gwneud eu gorau gyda’r Gymraeg.
Mae llawer o bobl yn mynd ati i ddysgu Cymraeg er mwyn ei siarad gyda ffrindiau a theulu. Mae eraill yn dysgu’r iaith er mwyn ei siarad yn y gwaith, a nifer yn awyddus i’w defnyddio yn y gymuned leol. Ac mae rhai pobl yn dysgu Cymraeg gan eu bod yn chwilio am h ...
Enwau amlycaf Cymru yn perfformio can...
11/12/2015
Categori: Cerddoriaeth, Hamdden, Iaith, Newyddion
Mewn rhifyn arbennig o'r Stiwdio Gefn ar S4C, bydd rhai o enwau amlycaf cerddoriaeth Cymru yn perfformio detholiad o ganeuon cyfarwydd y cerddor a'r cyfansoddwr, Alun 'Sbardun' Huws.
Yn y rhaglen, Y Stiwdio Gefn: Sbardun, nos Sadwrn yma, bydd Lisa Gwilym yn bwrw golwg yn ôl dros yrfa'r gitarydd o Benrhyndeudraeth a'r dylanwad a gafodd ar gerddorion ar hyd a lled Cymru, gyda chyfraniadau gan Bryn Fôn, Brigyn ac eraill.
Meddai Lisa Gwilym, "Yn amlwg, roedd Sbardun yn aelod o fandiau adnabyddus fel Tebot Piws, Ac Eraill a Mynediad am Ddim, ond beth oedd yn ddiddorol i fi oedd gweld yr ystod eang o gerddorion oedd o wedi ysgrifennu caneuon iddyn nhw, fel Bryn F&ocir ...
Mudiad addysg yn croesawu argymhellio...
10/12/2015
Categori: Addysg, Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion
Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi croesawu adroddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad ar Gynlluniau y Gymraeg mewn Addysg a gyhoeddwyd heddiw.
Dywedodd Lynne Davies, Cadeirydd Cenedlaethol Rhieni Dros Addysg Gymraeg, “Mae’r adroddiad yn crynhoi prif bryderon y Mudiad ac yn adnabod nifer o’r prif wendidau yn y gyfundrefn bresennol. Mae pob un o’r argymhellion yn gadarnhaol ac i’w croesawu’n fawr. Rydym yn ddiolchgar i’r Pwyllgor am roi ystyriaeth o ddifrif i dystiolaeth rhanddeiliaid yn y maes ac adlewyrchu hynny’n llawn yn yr adroddiad."
Mae Mudiad o’r farn nad yw trefn bresennol hyrwyddo a chefno ...