Arddangosfa Arwyr yn agor yn y Llyfrgell Genedlaethol

17/03/2017

Categori: Celfyddydau, Newyddion

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn falch o ddathlu’r flwyddyn hon drwy agor arddangosfa newydd Arwyr!

O fory ymlaen, bydd cyfle i ymwelwyr  ddod ‘wyneb yn wyneb’ gydag arwyr Cymru o’r Casgliad Portreadau Cenedlaethol. 

 

Ymhlith yr arddangosfa,  mae portread o Aneirin Bevan gan Andrew Vicari, Gwynfor Evans gan David Griffiths, Ruth Jones gan Malcolm Gwyon ynghyd â holl dîm Pêl Droed Cymru wedi’w beintio gan y Gôl Geidwad Owain Fôn Williams i enwi dim ond ychydig.

 

Anrhydedd

 

Dywedodd Gôl Geidwad Owain Fôn Williams, «Mae yn anrhydedd enfawr i mi gael y cyfle i arddangos fy ngwaith celf fydd yn rhan o arddangosfa 'Arwyr’ yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae gan Gymru gyfoeth o arwyr a allai ddim meddwl am ffordd well na drwy gyfrwng celf o'u cofio a’u anrhydeddu. Dwi yn gobeithio daw arwyr 'together stronger' ac atgofion melys yn ôl i'r cof. Diolch yn fawr iawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth am y cyfle"

 

Mae’r arddangosfa ar agor Dydd Llun – Dydd Sadwrn o 9.30a.m tan 5.00 p.m. 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru