Arddangosfa crysau pêl-droed Cymru yn agor fis nesaf

30/10/2019

Categori: Celfyddydau, Chwaraeon, Newyddion

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd yr arddangosfa gyntaf erioed o grysau pêl-droed yn agor yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ar Dachwedd 11eg tan yr 24ain.

Mae’r arddangosfa Celf Crys Cymru, mewn cydweithrediad gyda JD ac adidas, wedi’i guradu gan Neal Heard a Simon Shakeshaft a bydd yn olrhain 60 mlynedd o hanes crysau Cymru gan gynnwys 28 crys wedi’i wisgo gan chwaraewyr mewn gemau, gan gynnwys Len Allchurch, Terry Yorath, Ian Rush a 2 o reolwyr presennol Cymru – Ryan Giggs a Jayne Ludlow.

 

Bydd ymwelwyr yn gallu astudio rhai o grysau enwocaf Cymru a dysgu mwy am hanes y tîm cenedlaethol dros y degawdau.
Bydd yr arddangosfa yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru. Cafodd yr Amgueddfa ei chyhoeddi fel Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019 – y wobr amgueddfa fwyaf mawreddog yn y byd.

 

Dathlu hanes timau cenedlaethol Cymru

 

Dywedodd Jonathan Ford, Prif Weithredwr CBDC: “Rwy’n hynod falch i weld yr arddangosfa hon yn digwydd ac yn dathlu hanes timau cenedlaethol Cymru trwy gelf y crys. Mae’n gyffrous i weld yr arddangosfa yn digwydd yn Sain Ffagans fel rhan o’n partneriaeth gydag Amgueddfa Cymru.”

 

Pennaeth Safle Sain Ffagan Bethan Lewis: “Ni’n edrych ymlaen at gynnal arddangosfa o grysau enwocaf Cymru gyda CBDC. Mae rhai crysau pêl-droed yn rhan bwysig iawn o hanes Cymru ac ni’n gobeithio bydd ymwelwyr i’r amgueddfa yn mwynhau’r arddangosfa liwgar dros y penwythnos.”

 

Mae mynediad i’r amgueddfa yn rhad ac am ddim pob diwrnod rhwng 10:00-17:00.