Arddangosfa Menywod, Rhyfel a Heddwch yn Storiel, Bangor

01/04/2019

Categori: Addysg, Celfyddydau, Gwleidyddiaeth, Iechyd, Newyddion

Bydd yr arddangosfa ‘Menywod, Rhyfel a Heddwch', sydd yn gasgliad o waith gan y ffoto-newyddiadurwraig enwog Lee Karen Stow ar y cyd gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru i’w weld yn Storiel, Bangor tan y 27 o Ebrill.

Mae’r arddangosfa yn archwilio effaith rhyfel ar fywydau merched yng Nghymru ac ar draws y byd, gyda’r darluniau yn adrodd straeon personol iawn ac yn dangos sut mae merched wedi ysbrydoli'r ymchwil am heddwch yn y 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Ymhlith y portreadau trawiadol mae Ifanwy Williams, 97 oed o Borthmadog sydd yn un o sefydlwyr Heddwch Nain/Mam-gu, ac sydd wedi bod yn ymgyrchydd drwy ei hoes dros heddwch gyda Cymdeithas y Cymod, a sefydlwyd ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Ynghyd a’r portreadau mae yna ddogfen unigryw o archif Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn Nheml Heddwch ac Iechyd Cymru, sef 'Apêl y Merched i America' o 1923. Arwyddwyd y ddeiseb yma gan 390,296 o ferched ar draws Cymru ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, ac fe’i cyflwynwyd i Calvin Coolidge, sef Arlywydd yr UDA ar y pryd.

 

Byd heb ryfel

 

Fel rhan o’r arddangosfa mae yna gyfle i ymwelwyr arwyddo deiseb newydd am fyd heb ryfel, a grëwyd gan Heddwch Nain, gyda’r bwriad o’i gyflwyno i’r Cenhedloedd Unedig yn 2023-4 - 100 mlynedd ar ôl y ddeiseb wreiddiol.

 

Mae Storiel ar agor Mawrth - Sadwrn – 11am – 5pm.