Arddangosfa yn dangos effaith damwain niwclear Fukushima

Mae damweiniau yn digwydd ac mae cost amlwg ynni niwclear yn cael ei danlinellu mewn casgliad o ddelweddau a thestun gan yr artist Lis Fields, mewn arddangosfa yn Neuadd Prichard Jones, Niwbwrch, Ynys Môn.

Mae’r arddangosfa, o dan y teitl 'FUKUSHIMA→CYMRU' yn rhoi ymdeimlad trawiadol nid yn unig o’r dinistr, ymadawiad a chost amgylcheddol corfforol, ond hefyd bywydau dros dro y bobl a gafodd eu dadleoli gan yr ymbelydredd sydd wedi llygru eu cartrefi a’u mannau gwaith. 

 

Mae’n cadarnhau ymhellach y cysylltiadau rhwng ymgyrchwyr yng Nghymru a Fukushima, yn unedig mewn awydd i osgoi trychinebau niwclear yn y dyfodol.

 

Wedi ei threfnu gan PAWB, y grŵp ymgyrchu sy’n ceisio atebion amgen i ynni niwclear wrth i Fôn gael ei bygwth gan ddatblygiad niwclear Wylfa B, mae un o gefnogwyr amlycaf y grŵp, Cian Ciaran o’r Super Furry Animals yn cyfrannu gyda darn unigryw, newydd o gerddoriaeth mewn ymateb i arddangosfa Lis. Yn cydweithredu gyda’r cherddor, Meilyr Tomos, aelod o fand cyntaf erioed Ciaran, bydd y ddeuawd yn llanw’r ystafell gyda sain yn gyfeiliant i dafluniad ffilm a grewyd yn arbennig gan y cywaith creadigol, 'ffloc'.

 

Mawrth 2011 oedd hi pan ysgogodd daeargryn a tsunami y drychineb niwclear yng ngorsaf niwclear Fukushima Daiichi yn Siapan. Arweiniodd hyn at lwch ymbelydrol yn llygru o leiaf 8% o arwynebedd tir Siapan ac ymadawiad gorfodol 164,865 o bobl. Mae Gogledd Cymru yn awr yn destun diddordeb Hitachi mewn datblygu ynni niwclear newydd, a hwythau’n methu â gwneud hynny yn Siapan yn sgîl moratoriwm ar ynni niwclear wedi’r drychineb. 

 

Astudio yn Fukushima

 

Daw delweddau Lis Fields o daith astudio o Fukushima yn 2016, wedi ei threfnu gan Groes Werdd y Swistir, yr elusen amgylcheddol ryngwladol a sefydlwyd gan Mikhail Gorbachev. Mae’r enw a roddwyd i’r casgliad ffotograffiaeth, ‘20 milisifert y flwyddyn’, yn cyfeirio at uchafswm y dos o ymbelydredd ïoneiddiol yn dod o orsaf niwclear y gall dinasyddion Fukushima fod yn agored iddo mewn blwyddyn. Yng ngweddill Siapan a gweddill y byd uchafswm y dos heb fod yn alwedigaethol a ganiateir i ddinesydd yw 1 milisifert y flwyddyn, yn unol ag argymhelliad y Comisiwn Rhyngwladol ar Warchodaeth Radiolegol (ICRP).

 

Dywedodd Lis Fields: “Er gwaetha’r ymdrechion mawr i gywiro’r drwg a achoswyd gan Fukushima, datgelodd fy ymweliad ei bod yn drychineb lwyr a pharhaus. Mae cost cynyddol adfer sy’n cynnwys ymdrechion ar raddfa eang i glirio’r llygredd ymbelydrol,yn un o’r pethau yn unig y mae’n rhaid i Siapan reoli a dod i delerau ag ef,eto i gyd does dim modd cyfri’r costau dynol ac amgylcheddol mewn arian.Wedi chwe blynedd mae canlyniadau dwys corfforol, seicolegol,cymdeithasol ac economaidd yn datblygu I lawer o bobl, yn enwedig wrth i bwysau gael ei roi ar bobl yn awr i ddychwelyd i ardaloedd sy’n dal yn llygredig yn ymbelydrol.”

 

Gwarth cenedlaethol

 

Dywedodd Cian Ciaran o’r Super Furry Animals: “Mae peidio â dysgu o Fukushima a damweiniau niwclear niferus eraill o gwmpas y byd a pharhau i ddefnyddio ynni niwclear fel ymyriad rhag cyfleoedd am ddiwydiant iach o ynni adnewyddol mewn ardaloedd arfordirol fel Ynys Môn,yn warth cenedlaethol. Mae ffotograffau Lis yn dod o le lle y credent na allai fyth ddigwydd iddyn nhw ac mae pobl diniwed yno yn wynebu chwarae roulette gyda’u hiechyd, a iechyd eu plant,wrth ddod yn ôl i gartrefi wedi eu llygru. Dylai pob un ohonom ddal i ofyn cwestiynau i’r rhai mewn grym, yn seiliedig ar beth sydd wedi digwydd rhywle arall, i’r rhai sy’n gwarchod ein buddiannau yn awr a phan fydd pethau’n mynd yn groes i’r cynllun ac ar faterion iechyd a chreu gwaith – mae niwclear yn cynnig llai o bopeth.

 

Ychwanegodd Cian Ciaran, “Nid rhodd I Gymru gan San Steffan mo hyn ac mae rheswm pam nad yw gorsaf niwclear newydd yn cael ei chodi yn Dagenham neu Woolwich,mae’n adleisio’r dirmyg a ddangoswyd tuag at y Cymry gyda boddi Capel Celyn yn ôl yn ’65. Mae’r syniad fod niwclear yn wyrdd yn anghywir a byddai unrhyw orsaf niwclear yn dod yn weithredol yn rhy hwyr i wneud gwahaniaeth i unrhyw argyfwng amgylcheddol neu ynni a ddaw, tra bo’r costau cysylltiedig â buddsoddi adnewyddol blaengar yn syrthio.Does dim cyfiawnhad amgylcheddol, economaidd na moesol dros orsaf niwclear newydd unrhyw le yn y byd.”

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru