Awdur yn chwilio am ferched fel rhan o'i chyfrol newydd

13/02/2019

Categori: Celfyddydau, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Mae awdur newydd yn chwilio am enwau genethod gwych a merched medrus fel rhan o’i phrosiect newydd.

Mae Medi Jones-Jackson, sy’n byw yn Bow Street ger Aberystwyth, wedi gweithio ym myd llyfrau plant ac wedi rheoli prosiectau hyrwyddo darllen.

 

Yn mis Mai eleni, bydd cyfrol newydd, ysbrydoledig, yn cael ei chyhoeddi gan y Lolfa – Genod Gwych a Merched Medrus. Bydd y llyfr yma wedi’i anelu at blant 5 i 10 oed ac yn cofnodi hanes 13 o ferched o Gymru o’r byd cerddoriaeth, llên, hanes, seryddiaeth, gwyddoniaeth, celf, chwaraeon ac ati, sydd wedi cyflawni campweithiau yn eu meysydd penodol ac yn arwresau Cymraeg. Bydd Dyfan Williams yn gwneud y gwaith dylunio a Telor Gwyn, yn wreiddiol o ardal Aberystwyth, yn creu lluniau ar gyfer y gyfrol.

 

Fel rhan o’r llyfr, bydd enwau merched medrus a genethod gwych bach Cymru yn ymddangos yn batrwm ar y cloriau mewnol, ac mae’r awdur yn gofyn i bobl anfon enwau ati.

 

Cyfrol wreiddiol am ferched

 

Dywedodd Medi: “Dyma gyfrol gwbl wreiddiol yn y Gymraeg – gan ferch, am ferched ac i ferched bach Cymru heddiw. Bydd y llyfr yn gyflwyniad perffaith i rai o ferched blaenllaw Cymru a wnaeth gyrraedd y brig a newid siâp ein cenedl. Mae’n gyfle i ferched bach Cymru berchnogi’r llyfr trwy gael eu henwau wedi eu hargraffu yn y gyfrol bwysig hon.”

 

Os ydych chi’n adnabod geneth wych neu ferch fedrus rhwng 5 a 10 oed, ac os hoffech chi weld ei henw wedi mewn print yn y llyfr cyffrous, llawn lliw, cysylltwch yn uniongyrchol â Medi drwy e-bostio genodgwych@gmail.com cyn 18fed o Ebrill 2019, gan nodi enw llawn y ferch. Mae lle i nifer cyfyngedig, felly’r cyntaf i’r felin!

 

Dyma gyfrol i ysbrydoli ac i addysgu merched bach Cymru heddiw. Byddwch yn rhan ohoni!