Beilïaid yn mynd â char ymgyrchydd iaith wedi iddi hi wrthod talu’r ffi drwydded

05/12/2019

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae car dynes o Geredigion wedi cael ei gymryd gan feilïaid wedi iddi wrthod talu dirwy a gafodd am ei rhan yn yr ymgyrch i ennill pwerau darlledu i Gymru.

Cafodd Eiris Llywelyn, sy’n 69 mlwydd oed o Ffostrasol yng Ngheredigion, ei dyfarnu’n euog o wrthod talu ei ffi drwydded deledu a chael cosb llys o £220 ddydd Mercher, 3ydd Ebrill. Hi oedd y trydydd unigolyn i fynd gerbron achos llys am wrthod talu’r ffi drwydded deledu fel rhan o’r ymgyrch i ddatganoli pwerau darlledu i Gymru, ond y cyntaf i ddatgan nad yw’n mynd i dalu cosb ariannol llys.

 

Dywedodd Eiris Llywelyn o’i chartref yn Ffostrasol: “Dwi’n bwriadu parhau i beidio â thalu a dwi’n fodlon wynebu’r canlyniadau. Mae’r beilïaid wedi galw ac wedi mynd â’r car ond dwi ddim yn mynd i ildio. Dwi’n fodlon mynd â’r brotest i’r pen er mwyn tynnu sylw at fater sydd o bwys aruthrol i’n cenedl. Byddai datganoli’r pwerau cyfathrebu a darlledu hyn er lles democratiaeth Cymru, yn ogystal â’r Gymraeg. Mae diffyg cynnwys Cymreig a Chymraeg ar y cyfryngau yn bygwth parhad hunanlywodraeth yng Nghymru, ac mae’n rhaid mynd i’r afael â’r mater.”

 

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod pwerau darlledu i Gymru yn hanfodol er mwyn cynnal democratiaeth Gymreig a’r Gymraeg. Yn ôl arolwg barn, mae llai na hanner poblogaeth Cymru yn gwybod bod y cyfrifoldeb dros iechyd wedi ei ddatganoli i’r Senedd yng Nghaerdydd.

 

Mae dros naw deg o bobol yn gwrthod talu am eu trwyddedau teledu mewn ymdrech i drosglwyddo rheolaeth dros ddarlledu o San Steffan i Gymru.

 

Safiad

 

Ychwanegodd Bethan Ruth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i Eiris am ei safiad. Mae’n frwydr dros ddyfodol ein hiaith a’n cymunedau a dros ddemocratiaeth. Mae democratiaeth yn amhosibl os na fydd rheolaeth dros ddarlledu yng Nghymru yn symud o Lundain i Gaerdydd a’r cyfryngau yn adlewyrchu ein gwerthoedd a’n diwylliant ni a’n bod ni’n gweld y byd drwy ffenestr Gymreig. Mae datganoli’r system ddarlledu'r un mor bwysig â datganoli grym gwleidyddol.

 

“Rydym yn falch i weld mwyfwy o gefnogaeth o du Llywodraeth Cymru ac eraill i’r ymgyrch. Dylai penderfyniadau dros ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud gan bobl Cymru. Rydyn ni wedi cael hen ddigon o’r Llywodraeth yn Llundain nid yn unig yn gwneud toriadau i’r cyfryngau Cymraeg, ond hefyd yn teyrnasu dros system sy’n rhoi cyn lleied o sylw i faterion Cymreig a chyfryngau nad ydynt yn adlewyrchu bywydau pobl yng Nghymru.”

 

Yn ôl arolwg barn gan YouGov a gyhoeddwyd y llynedd, mae 65% o bobl Cymru yn ffafrio datganoli darlledu i'r Senedd yng Nghymru.