Bronwen Lewis yn llofnodi cytundeb record chwe mlynedd

23/05/2013

Categori: Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion

Bronwen Lewis

Mae Bronwen Lewis wedi Trydar fod hi wedi arwyddo cytundeb record chwe mlynedd. Bydd mwy o wybodaeth yn ymddangos yma cyn bo hir.

 

Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan o fywyd y ferch 19 oed, sy'n astudio cwrs sylfaenol yng Ngholeg Celf Sant Martin yn Llundain, ers blynyddoedd.

 

Fe ddechreuodd hi ddysgu'r piano yn nhŷ ei nain pan oedd hi'n bump oed.

 

Isod gwelwch Bronwen yn perfformio yn Gymraeg ar The Voice yn gynharach eleni lle ni chafodd hi ei ddewis gan y beirniaid.