ERROR: http://lleol.cymru/blog/detail.php

Query: UPDATE Report_Post SET report_amount = report_amount + 1 WHERE post_id = 2768 AND report_type = 1 AND DATE_FORMAT(date, '%Y-%m-%d') = DATE_FORMAT(NOW(), '%Y-%m-%d')

 Errno: 1213
 Error: Deadlock found when trying to get lock; try restarting transaction
_SERVER data
    REMOTE_ADDR : 3.228.220.31
    REMOTE_PORT : 18706
SCRIPT_FILENAME : /kunden/homepages/10/d114928358/htdocs/oldhtdocs/wsb3726335107/blog/detail.php
 REQUEST_METHOD : GET
   QUERY_STRING : blog=canolfan-gerdd-william-mathias-yn-rhoi-atgofion-ar-gn
    REQUEST_URI : /blog/canolfan-gerdd-william-mathias-yn-rhoi-atgofion-ar-gn.html

Canolfan Gerdd William Mathias yn rhoi Atgofion ar Gân

23/10/2017

Categori: Addysg, Cerddoriaeth, Iechyd, Newyddion

Ers mis Tachwedd 2016, mae Canolfan Gerdd William Mathias wedi bod yn cynnal sesiynau cerddorol gyda thrigolion hŷn mewn rhai o bentrefi a threfi Gwynedd.

Gwahoddwyd plant o’r ysgolion cynradd lleol Gellilydan a’r Bala i gymryd rhan mewn sesiynau Camau Cerdd gyda Marie-Claire Howorth cyn ymuno i gyd-ganu a mwynhau gweithgareddau cerddorol gyda’r bobl hŷn.

 

Ers y comisiwn gan Uned Celfyddydol Cymunedol Cyngor Gwynedd mae’r sesiynau wedi helpu dod a phobl at ei gilydd i hel atgofion a mwynhau cerddoriaeth, yn ogystal â chodi hyder a chynnig cyfle i gyfarfod pobl newydd.

 

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd y sesiynau yn ymestyn i ardaloedd Bethesda a Deiniolen diwedd mis Hydref. Mae’r sesiynau’n agored i unrhyw drigolion hŷn ddod draw am baned a chân ac i gwrdd â phobl newydd. Bydd sesiynau Bethesda yn dechrau ar Hydref 27, 10:30 – 11:30 yn Neuadd Ogwen, ac yna bob yn ail wythnos wedi hynny. Yn yr un modd, bydd sesiynau Deiniolen yn dechrau ar Hydref 27, 14:00 – 15:00 yn Nhŷ Elidir. Bydd paned ar gael ar ddiwedd pob sesiwn a bydd plant o’r ysgolion lleol yn ymuno Gwanwyn 2018. 

 

Ffilm

 

Gwyliwch y ffilm yma am hanes y gweithgareddau diweddar yn y Bala a Gellilydan. Bydd yna groeso cynnes i unrhyw aelod hŷn o'r gymuned i ymuno â'r sesiynau dydd Gwener.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru