Canolfan Mileniwm Cymru ar Grwydr

16/04/2012

Categori: Celfyddydau

Haf yma bydd y Ganolfan yn teithio ledled Cymru gyda’i chynhyrchiad newydd Ma’ Bili’n Bwrw’r Bronco. Mae hi’n ddrama safle-benodol sy’n dilyn pum crwt ifanc un haf wrth iddyn nhw gicio’u sodlau mewn parc ar stad o dai yng Nghwm Tawe. Mae hi’n 1983 ac mae’r gamp o fwrw bronco - sef sefyll ar swing, ei wthio mor galed â phosib cyn cicio’r sedd dros y bar a neidio’i ffwrdd yr un pryd - yn llenwi bob un amser chwarae. Mae ffaelu yn y dasg yn anfaddeuol i’ch cyfoedion, ac oni bai am un digwyddiad ysgytwol byddai’r haf yma wedi bod fel bob un o’i flaen...


 


 

 

Llun gan Farrows Creative

 

Addasiad Cymraeg Jeremi Cockram o ddrama Grid Iron, Decky Does a Bronco gan y dramodydd Douglas Maxwell yw Ma’ Bili’n Bwrw’r Bronco. Canolfan Mileniwm Cymru sydd yn cynhyrchu’r darn a bydd yn mynd â’r sioe ar daith ledled y wlad i gynulleidfaoedd newydd. Mae’r holl wybodaeth am y daith a’r ddrama i’w gweld yma.

 

Bydd première y cynhyrchiad awyr agored yma ar 31 Gorffennaf yn Y Marl yng Nghaerdydd, aiff ymlaen wedyn i Faes yr Eisteddfod cyn mynd ar daith o amgylch Cymru tan 4 Awst.  Gobeithio y cewch gyfle i weld y profiad theatr unigryw yma.