Canolfan ymwelwyr newydd yn dda i'r economi leol, yn ôl arbenigwr
Categori: Addysg, Arian a Busnes, Newyddion

Bydd prosiect gwerth £5.9m i ddatblygu cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr yng Nghastell Harlech yn golygu "llu o fuddion economaidd yn y dyfodol" i fusnesau lleol, yn ôl arbenigwr sy'n cynrychioli masnachwyr gogledd Cymru.
Mae'r gwaith adeiladu ar y Castell wedi gweddnewid hen westy ger y castell yn fflatiau moethus, canolfan ymwelwyr fodern newydd, siop, caffi, ac ardal ddehongli a thoiledau, ac mae eisoes wedi creu gwaith i dros ddwsin o gwmnïau yng Ngwynedd, a bydd busnesau lleol yn parhau i elwa o’r prosiect yn y dyfodol.
Penodwyd cyflenwyr lleol i redeg y caffi newydd ac i osod y fflatiau, a bydd amrywiaeth o gynnyrch lleol ar werth i ymwelwyr yn y siop newydd.
Mae disgwyl i'r buddsoddiad sylweddol yn y cyfleusterau a'r llety i ymwelwyr y Safle Treftadaeth y Byd hwn hybu twristiaeth a chadarnhau statws Harlech fel man gwyliau atyniadol drwy gydol y flwyddyn.
Cafodd y datblygiad ei ariannu gan y Prosiect Twristiaeth Treftadaeth, sy'n werth £19 miliwn sy’n cael ei arwain gan Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, a oedd yn Harlech ddoe i gyfarfod â rhai o’r contractwyr a’r darparwyr gwasanaeth sydd wedi elwa o’r datblygiad eisoes, neu yn elwa ohono yn y dyfodol, "Bydd y buddsoddiad yn Harlech yn rhoi profiad i ymwelwyr a fydd yn cyfateb i statws y castell fel Safle Treftadaeth y Byd, a bydd yn dod â mwy o dwristiaeth a manteision economaidd cysylltiedig i'r ardal."
Parhau i wella
Yn ôl Carwyn Jones, ‘Yn 2014, roedd yr economi dreftadaeth yng Ngwynedd yn cyflogi dros 8,000 o bobl – 15% o'r holl gyflogaeth yn y sir. Mae felly yn hollbwysig ein bod yn parhau i wella beth sydd ar gael o ran twristiaeth treftadaeth, er mwyn denu mwy fyth o ymwelwyr."
Ychwanegodd, ‘Rydw i'n falch o weld bod y prosiect eisoes wedi cael effaith gadarnhaol ar yr economi leol, drwy'r defnydd o gontractwyr lleol, ac y bydd mwy o gyflenwyr a darparwyr gwasanaeth lleol yn elwa o'r manteision yn y dyfodol."
Hybu’r gadwyn gyflenwi
Dywedodd Colin Brew, Cyfarwyddwr Gweithredol Siambr Fasnach Gogledd Cymru, "Mae'r gwaith datblygu yng Nghastell Harlech wedi cael effaith gadarnhaol eisoes, o ran cyfleoedd i fusnesau lleol a hybu'r gadwyn gyflenwi leol."
Gan edrych at y dyfodol," meddai Colin Brew, "bydd y datblygiad yn cynnig llu o fuddion economaidd, gan ddenu mwy o ymwelwyr i'r ardal, a helpu i sefydlu Harlech fel atyniad allweddol i'r rhai sy'n ymweld â gogledd Cymru."
Ychwanegodd, "Dylid canmol Llywodraeth Cymru ar ei phenderfyniad i fwrw ymlaen â'r gwaith datblygu pwysig hwn, a fydd yn parhau i ddod â buddion economaidd cadarn i'r dref a'r ardaloedd cyfagos am flynyddoedd maith."
Mae'r datblygiad yn cynnwys pum fflat moethus newydd a fydd yn cael eu gosod gan Menai Holiday Cottages.
Datblygiad blaengar
Dywedodd Sarah Lloyd, a oedd yn siarad ar ran y cwmni gosod tai: "Mae'r datblygiad blaengar hwn yn sicr yn un i'w ganmol.
Ynghyd â chyfleoedd gwyliau sydd wedi eu targedu at deuluoedd, nawr mae gan Harlech rhywbeth at ddant pawb – o bobl â diddordeb brwd mewn natur sydd am grwydro ar hyd y llwybr arfordirol, i bobl â'u pryd ar gyffro, a fydd yn gallu ymweld â'n hatyniadau newydd, megis y wifren wib hiraf a chyflymaf yn Ewrop."
Canolbwynt i dwristiaid
Ychwanegodd Freya Bentham, sydd wedi ennill y contract i redeg yr ystafelloedd te yn y ganolfan ymwelwyr newydd: "Bydd y ganolfan ymwelwyr newydd yn ganolbwynt i dwristiaid sydd wedi dod i'r ardal ac sydd am wybod beth sydd ar gael iddynt – hyd yn oed yn ystod y gaeaf."
Mae Freya Bentham yn edrych ymlaen i ddenu rhagor o ymwelwyr i Harlech, "Bydd y datblygiad newydd yn denu pob math o ymwelwyr, o deuluoedd i gyplau ifanc, a bydd yn helpu i ledaenu'r neges bod Harlech ar agor drwy gydol y flwyddyn."
Mae gosod pont droed newydd wedi bod yn rhan arall o'r gwaith adeiladu yn y castell. Bydd y bont wedi galluogi ymwelwyr i gael mynediad at y safle drwy'r mynediad hanesyddol gwreiddiol am y tro cyntaf mewn dros 600 mlynedd.
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net