Cenhedlaeth newydd o dywyswyr yn barod i fynd
Categori: Bwyd, Hamdden, Hyfforddiant / Cyrsiau, Newyddion

Daeth penllanw i dair blynedd o waith caled eleni wrth i 21 o fyfyrwyr dderbyn Bathodyn Glas Tywyswyr Swyddogol Cymru.
Cyflwynwyd y Bathodyn Glas, y wobr uchaf ar gyfer tywyswyr, sy'n cael ei gydnabod ar hyd a lled y byd o fewn y diwydiant twristiaeth gan y Dirprwy Weinidog Twristiaeth, Ken Skates mewn seremoni yn Nhŷ Gregynog ger y Drenewydd.
Fel rhan o’r digwyddiad, cafodd gwefan newydd ei lansio gan Gymdeithas Tywyswyr Cymru a fydd yn fan cychwyn hwylus i ymwelwyr chwilio am dywyswyr safonol ac abl led-led Cymru.
Dechreuodd y cwrs yn 2012 ac mae'r myfyrwyr wedi bod ar 13 o benwythnosau preswyl dros y tair blynedd ddiwethaf. Cynhaliwyd y cyrsiau hyn ar draws Cymru gan gynnwys ymweliadau i safleoedd, siaradwyr gwadd a hyfforddiant yn yr holl sgiliau angenrheidiol yn cynnwys technegau meicroffon, sgiliau rheoli grŵp, ysgrifennu teithlenni a delio gyda phob math o gwsmeriaid dros y byd.
Caffaeliad i'r diwydiant twristiaeth
Dywedodd trefnydd y cwrs, Nia Jones, ar ran Coleg Llandrillo Menai, "Roedd hi'n ddiwrnod arbennig i ni i gyd, gan fod y myfyrwyr wedi gweithio'n hynod o galed dros y tair blynedd ddiwethaf. Roedd y cwrs hwn yn gofyn am ddarllen annibynnol eang a chanfod ffeithiau i sicrhau'r profiad gorau i ymwelwyr, a dw i'n siŵr y bydd yr holl dywyswyr newydd sydd wedi derbyn y Bathodyn Glas yn gaffaeliad i'r sector dwristiaeth yng Nghymru."
Ychwanegodd y Gweinidog ar gyfer Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Ken Skates: "Ro'n i wrth fy modd i gael y cyfle i gyflwyno'r Bathodynnau Glas fel cydnabyddiaeth o'r holl waith caled ac ymroddiad a ddangoswyd gan y tywyswyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyfforddi pobl er mwyn iddynt allu ffynnu o fewn y sector dwristiaeth. Os ydy'r economi ymwelwyr am dyfu, mae buddsoddi yn y bobl sy'n gweithio o fewn y sector yn hanfodol. Pob dymuniad da i'r myfyrwyr wrth adrodd stori Cymru i'n hymwelwyr niferus."
Mae'r hyfforddiant Bathodyn Glas yn bartneriaeth rhwng Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, WOTGA a Llywodraeth Cymru gyda’r cwrs yn cael ei ariannu gan gronfa Ewropeaidd.
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net