Ceredigion yn dathlu dyfodiad yr Eisteddfod yn 2020

Bydd cyfle i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod i ardal Ceredigion y flwyddyn nesaf ddiwedd y mis, wrth i gannoedd o drigolion lleol y sir ymuno gyda Gorsedd y Beirdd mewn seremoni arbennig i Gyhoeddi’r Eisteddfod yn Aberteifi.

Yn draddodiadol, mae’n rhaid cynnal y seremoni hon o leiaf blwyddyn a diwrnod cyn i’r Eisteddfod ei hun gychwyn, gyda’r Rhestr Testunau’n cael ei gyhoeddi yn ystod y seremoni, ac yna ar gael i bawb ddechrau ar y gwaith o baratoi ar gyfer yr Eisteddfod a gynhelir ar gyrion tref Tregaron o 1-8 Awst y flwyddyn nesaf.

 

Bydd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Elin Jones, yn cyflwyno’r copi cyntaf o’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd, ac eleni, bydd Archdderwydd newydd yn cymryd ei le ar y Maes Llog, wrth i Myrddin olynu Geraint Llifon yn y gwaith o arwain Gorsedd y Beirdd. 

 

Wrth edrych ymlaen at ei gyfnod wrth y llyw, dywedodd Myrddin, “Rydw i’n edrych ymlaen at gychwyn ar y gwaith fel Archdderwydd yn arw rŵan, ac fe fydd yn fraint cael dechrau’n ‘swyddogol’ wrth i ni gyhoeddi bod Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ar ei ffordd ymhen y flwyddyn.

 

“Mi fydd yn braf iawn cael cyfle i wobrwyo ac anrhydeddu doniau a chymwynaswyr mawr ein diwylliant ni. Mae’r swydd hefyd yn ymwneud â chryfhau, ymestyn ac amddiffyn popeth Cymraeg a Chymreig. Yn y cyfnod hwn mae’n golygu gwrthsefyll y tueddiadau cul, ynysig sy’n dod o gyfeiriad Llundain a chreu cyfeillion newydd i’n diwylliant mewn gwledydd eraill.

 

“Ac mae’n braf nodi bod yr Orsedd yn llwyddo i ddod â phobl a gwahanol ddiwylliannau ynghyd.  Eleni, mae nifer o’r rheini sy’n cael eu hanrhydeddu wedi dysgu Cymraeg, ac mae’r gwaith pwysig maen nhw’n ei wneud ar lawr gwlad yn hollbwysig i ddyfodol yr iaith. 

 

“Braf hefyd oedd gweld bod amryw o’r unigolion eraill a fydd yn ymuno â’r Orsedd eleni yn cenhadu ar ran ein cenedl ym mhob rhan o’r byd, a diolch amdanynt.  Maen nhw’n sicrhau bod llais Cymru i’w glywed ar draws y byd a bod lle i ni yn niwylliant a dyfodol gwledydd eraill.”

 

Ac nid croesawu Archdderwydd newydd fydd yr unig beth gwahanol yng Ngŵyl y Cyhoeddi yn Aberteifi, bydd cyfle i glywed a mwynhau cân newydd sbon wrth i ddau o wynebau mwyaf cyfarwydd tre’r Cardi berfformio fel rhan o’r seremoni. 

 

Ail Symudiad

 

Mae Wyn a Richard Jones o’r grŵp Ail Symudiad wedi creu’r gân yn arbennig i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod i’r sir, a hynny ddwy flynedd ar ôl iddyn nhw gael eu hanrhydeddu gan yr Orsedd yn Eisteddfod Ynys Môn. 

 

Mae’r gân yn ddathliad o’r hyn sydd gan Geredigion i’w chynnig, gan sôn yn arbennig am dirlun hardd y sir ac am yr hyn sydd i’w weld ym mhob cwr o’r ardal, o’r traethau a’r dolffiniaid i’r mynyddoedd a’r meysydd glas. 

 

Bydd cyfrol am ganeuon Richard yn cael ei chyhoeddi ar gyfer Cyhoeddi’r Eisteddfod, ac mae’n sôn am y fraint o gael creu’r gân hon, gan ddweud, “Daeth anrhydedd i fi eleni trwy gael gwahoddiad i ysgrifennu cân ar gyfer Eisteddfod Ceredigion yn Nhregaron, ac wrth gwrs, derbyniais y cynnig!” 

 

Ac fe fydd cyfle i bawb ymuno yn yr anrhydedd hwn yn ystod y seremoni wrth i’r gân gael ei pherfformio’n fyw am y tro cyntaf – a hynny yng Nghylch yr Orsedd.

 

Cawn hefyd fwynhau cyfarchiad damaid yn wahanol yn y seremoni eleni, diolch i Ifan Tregaron, sydd wedi paratoi ‘pryddest’ arbennig i groesawu’r Eisteddfod i’ ardal.  Fydd hon ddim yn dilyn trywydd hynod debyg i gyfarchion y blynyddoedd diwethaf, ond yn sicr, fe fydd yn dangos bod croeso cynnes a llawn hiwmor yn ein disgwyl yng Ngheredigion ymhen y flwyddyn.

 

Cynhelir seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ar gaeau chwarae Ysgol Uwchradd Aberteifi am 11:00 fore Sadwrn 29 Mehefin.  Bydd y seremoni’n dilyn gorymdaith liwgar a fydd yn cychwyn o gaeau’r ysgol am 10:15.  Yn ogystal, bydd plant cynradd y sir yn ymuno ar y Cei yn y dref am 09:45 ar gyfer sesiwn canu a dawnsio gyda Huw ac Elin o raglenni Cyw ar S4C.