Clasur a’r cyfoes yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

20/05/2012

Categori: Celfyddydau

Cyfunwch y clasur o ffilm gan Universal Pictures o 1931 gyda Béla Lugosi a pherfformiad byw o’i sgôr i’r ffilm ac fe gewch brofiad newydd o Dracula ar brif lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru ar 27 Mai. Yn ogystal â gweld y ffilm fawreddog ar y llwyfan bydd y Kronos Quartet ac un o gyfansoddwyr mwyaf dylanwadol ein hoes, Philip Glass yn perfformio. Am ragor o fanylion cliciwch yma.

 

Ar 28 Mehefin bydd rhai o gwmnïau mwyaf blaengar y DU yn perfformio yn y Ganolfan, gyda darnau dawns wedi’u hysbrydoli gan Gemau Olympaidd Llundain 2012. Gyda dawnswyr sy’n rhagori yn eu maes, bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, English National Ballet a Scottish Ballet yn cyflwyno’r cynhyrchiad Dance GB, sy’n sicr yn deilwng o’r gemau Olympaidd. Bydd pob un o’r cwmnïau yn perfformio gwaith wedi ei gomisiynu’n arbennig gan dri choreograffydd rhyngwladol, sef Itzik Galili, Christopher Bruce a Martin Lawrence. Mae elfen gref o ddiwylliant i’r gemau Olympaidd hefyd, a dyma i chi enghraifft o athletiaeth wrth wraidd diwylliant. Am ragor o fanylion cliciwch yma.

 


 

Os oes gyda chi newyddion am eich menter, prosiect, busnes, sefydliad neu rywbeth unigol, danfonwch at post@lleol.net ac fe wnawn roi'r neges ar led