Comisiynu map ar gyfer Caerdydd Roald Dahl

15/06/2016

Categori: Celfyddydau, Llenyddiaeth, Newyddion

Fel rhan o ddathliadau Roald Dahl 100 Cymru, mae Llenyddiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru wedi comisiynu map sy’n dangos Caerdydd Roald Dahl.

Ganed Roald Dahl yng Nghaerdydd ar 13 Medi 1916. Treuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd cynnar yn Llandaf a mynychodd Ysgol y Gadeirlan Llandaf cyn symud ymlaen i St Peter’s, Weston-Super-Mare. Yn ei hunangofiant cyntaf Boy: Tales of Childhood mae Dahl yn adrodd hanes ei flynyddoedd cynnar ac yn hel atgofion am blentyndod a dreuliwyd ym mhrifddinas Cymru.

 

Wedi’i ddylunio gan Sarah Edmonds, mae’r map yn tynnu sylw at leoliadau cysylltiedig â’r storïwr enwog megis siop losin Mrs Pratchett – lleoliad ‘The Great Mouse Plot’, cartref plentyndod Roald Dahl a’r Eglwys Norwyaidd lle cafodd ei fedyddio.

 

Llawrlwytho

 

Gallwch lawrlwytho copi o fap Caerdydd Roald Dahl o’r wefan newydd sbon Roald Dahl 100 Cymru. Lansiwyd y wefan er mwyn cynnig trosolwg llawn o holl weithgareddau#RoaldDahl100Cymru. Ar y wefan lliwgar hon cewch wybodaeth am ddigwyddiadau yn eich hardal chi, y newyddion diweddaraf am Roald Dahl 100 Cymru, a syniadau am sut y gallwch chi gymryd rhan yn y dathliadau.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru