Comisiynydd y Gymraeg yn cydnabod her y Cyfrifiad

11/12/2012

Categori: Newyddion

Comisiynydd y Gymraeg yn cydnabod her y Cyfrifiad

Addysg, tai a gwaith yw’r tri ffactor y mae angen mynd i’r afael â nhw ar fyrder meddai Comisiynydd y Gymraeg. 

 

Mewn ymateb i ystadegau Cyfrifiad 2011 a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws:


“Yn naturiol, rwyf yn siomedig gyda’r ffigyrau hyn, a’r gostyngiad a welwyd yn y niferoedd a’r canrannau drwyddi draw. Er bod disgwyl y byddai’r map ieithyddol wedi newid ers 2001, mae’n wir dweud bod ystadegau a gyhoeddwyd heddiw yn ysgytwad. Efallai bod yna berygl wedi bod i bawb fynd i ryw gyfforddusrwydd artiffisial ddeng mlynedd yn ôl, gan gredu bod tro ar fyd, a bod twf mewn rhai ardaloedd yn gwneud yn iawn am y gostyngiad mewn ardaloedd eraill. Os mai felly oedd hi am y deng mlynedd diwethaf, yna mae’r cloc larwm wedi canu’n uchel iawn bore heddiw, ac mae yna heriau pendant i’w hateb yn y fan hyn, a hynny ar fyrder.


“Fy rôl i fel Comisiynydd y Gymraeg yw rheoleiddio gweithredoedd y Llywodraeth a sefydliadau eraill. Hynny yw, sicrhau bod y problemau a’r rhwystrau sy’n wynebu’r Gymraeg yn cael eu datrys trwy greu a gweithredu polisïau cadarn, fel bod cyfleoedd newydd yn cael eu creu.


“Yn gyntaf oll, mae angen i mi wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn sicrhau bod yna ddarpariaeth addysg briodol ar gyfer y grŵp oedran 3-18 mlwydd oed. Yn gyntaf, creu’r siaradwyr Cymraeg yn y cyfnod sylfaen, ac yna sicrhau na chânt eu colli o’r system addysg ddwyieithog wrth iddynt fynd yn hŷn. Er mwyn sicrhau hyn bydd angen rheoleiddio’r ffordd y mae’r Llywodraeth, awdurdodau lleol a darparwyr addysg bellach ac addysg uwch yn cynllunio ac yn darparu dilyniant ieithyddol trwy’r system addysg. Bydd addysg Gymraeg gadarn, o 3-18 oed, yn creu gweithlu dwyieithog, ac yn rhoi cyd-destun proffesiynol i’r Gymraeg.


 “Mae graddfa’r gostyngiad yn y siaradwyr Cymraeg yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion yn her enfawr. Bellach, ni allwn ddibynnu ar ddefnydd cymunedol yn unig i sicrhau parhad y Gymraeg yn yr ardaloedd hyn, a bydd angen i ni droi at greu cyfundrefn addysg a pholisïau cynllunio sy’n ymateb i’r her. Byddaf yn edrych ar sut bydd Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol yn rhoi trefn addysg drochi gadarn yn ei lle ac yn cydymffurfio â’u cyfrifoldeb cyfreithiol i hybu mynediad at addysg a gweithgareddau Cymraeg yn y bröydd.


“Mae’r farchnad dai, mudoledd a diffyg gwaith yn ffactorau sy’n golygu bod y Gymraeg yn colli ei thir yn y siroedd gorllewinol, gyda’r bobl ifanc lleol yn gadael eu bröydd. Wrth i mi osod safonau statudol ar awdurdodau lleol, bydd gofyn iddynt ystyried effaith ar y Gymraeg ym mhob un penderfyniad polisi y maen nhw yn ei wneud. Nod safonau yw y bydd y bydd penderfyniadau ynghylch codi tai newydd yn ymateb i’r angen lleol, ac y bydd penderfyniadau polisi a’r angen cynyddol am greu gweithlu dwyieithog yn galluogi pobl ifanc i aros yn eu bröydd yn y gorllewin.


“Mae’r ffeithiau yn dangos yr her yn glir iawn, ond mae’n bwysig i ni gofio mai her sydd yma nid anobaith. Er mwyn symud ymlaen o’r fan hyn, mae angen i ni gydweithio â’n gilydd. Bydd angen i ni weithio mewn partneriaeth ar lefel traws-sefydliadol, traws-gymdeithasol, traws-bleidiol, ac fel unigolion, a hynny mewn dull positif. Gyda’n gilydd fe drown statws cyfreithiol y Gymraeg yn statws gwirioneddol y gellir ei gweld, ei chlywed a’i theimlo ym mhob cwr o Gymru.” 

 

Ffynhonnell Comisiynydd y Gymraeg

 

Beth yw eich barn chi?