Cyfle i gefnogwyr pêl-droed i ddysgu ymadroddion Cymraeg

02/06/2017

Categori: Chwaraeon, Iaith, Newyddion

Bydd cyfle i gefnogwyr o Sbaen a’r Eidal sy’n ymweld â Chaerdydd ar gyfer Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr i ddysgu ymadroddion Cymraeg.

Bydd Canolfan Ddiwylliannol Cymraeg y ddinas, yr Hen Lyfrgell, yn helpu cefnogwyr Real Madrid a Juventus i ddysgu ymadroddion pêl-droed syml yn Gymraeg.

 

Wrth i’r gyffro gynyddu cyn y gêm fawr ddydd Sadwrn, bydd yr actor Guto Wynne Davies yn rhoi gwersi am ddim ar y stryd yn iaith y nefoedd tra’n gwisgo lliwiau pêl-droed Cymru.

 

Bydd yn dysgu ymadroddion pêl-droed defnyddiol i'r Madridistas a’r Juventini cyn y gêm gan gynnwys “Mae Bale ar y bêl!” a “Mae Buffon ar dân!

 

Bydd y sesiynau yn digwydd bob awr rhwng 1000 a 1600 y tu allan i’r Hen Lyfrgell ar yr Ais, gyda phob gwers ar ffurf perfformiad yn para tuag ugain munud.

 

Siarad am bêl-droed yn y Gymraeg

 

Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr Menter Caerdydd, y sefydliad sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn y brifddinas: “Mae pêl-droed Ewrop wedi bod yn allweddol yn rhoi ein cenedl a’n dwy iaith genedlaethol ar lwyfan Ewropeaidd. Gan fod Caerdydd nawr yn rhoi croeso i gêm mor fawr gobeithiwn y gall ein ffrindiau o Sbaen, yr Eidal a mannau eraill weld pa mor falch ydym o’r iaith Gymraeg a chymryd y cyfle hwn i ddysgu sut mae siarad am bêl-droed yn y Gymraeg.”

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd “eu bod wrth eu bodd gyda’r sylw y mae’r ddinas yn ei dderbyn y penwythnos hwn a bod gweld gwireddu prifddinas gwbl ddwyieithog yn nod y mae’r Cyngor yn gweithio’n strategol tuag ati trwy gydweithio â nifer o bartneriaid a grwpiau yn y ddinas gan gynnwys Menter Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd”.

 

I’r rhai fydd ag awydd blasu mwy nag ymadroddion pêl-droed yn unig bydd Adran y Gymraeg Prifysgol Caerdydd hefyd yn cynnal sesiynau blasu’r iaith i ymwelwyr a chefnogwyr yn yr Hen Lyfrgell heddiw (Ddydd Gwener) a dydd Sadwrn. 

 

Cynhelir y sesiynau yna dan arweiniad y tiwtor Ashleigh Hurford am 11am-12pm ac eto am 1.30pm-2.30pm #CaerdyddDdwyieithog #BillingualCardiff

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru