Cyfle olaf i brynu tocynnau bargen Eisteddfod Conwy
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llenyddiaeth, Newyddion

Ychydig ddyddiau’n unig sydd ar ôl i brynu tocynnau bargen gynnar ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy eleni, gyda’r cynnig yn dod i ben am hanner nos nos Sul yma.
Mae’r trefnwyr yn awyddus i gynifer o ymwelwyr â phosibl fanteisio ar y cyfle i brynu tocynnau rhatach, ac mae’r cynllun wedi bod yn boblogaidd unwaith eto eleni. Gyda’r amserlenni i gyd wedi’u cyhoeddi erbyn hyn a’r wybodaeth ar gael ar-lein, y gobaith yw bod nifer fawr yn mynd ati i archebu tocynnau cyn y dyddiad cau.
Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, “Mae’r cynllun Bargen Gynnar yn cynnig arbedion gwirioneddol, ac rydym yn awyddus i gynifer o bobl â phosibl i fanteisio ar y cynnig hwn er mwyn archebu tocynnau rhatach i’r Eisteddfod yn Sir Conwy eleni.
“Mae’r gwaith ar y Maes eisoes wedi cychwyn, a thros yr wythnosau nesaf, bydd newidiadau mawr ar y caeau wrth i adeiladau’r Eisteddfod ymddangos. Ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at groesawu pawb atom o 3-10 Awst.
Cannoedd o weithgareddau
“Mae cannoedd o weithgareddau wedi’u trefnu ar hyd a lled y Maes yn ystod yr wythnos, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n mynd ati i brynu tocynnau bargen gynnar cyn nos Sul er mwyn cael bod yn rhan o bopeth am bris gostyngol.”
Mae’r amserlenni i gyd ar gael ar-lein, ac mae’r Rhaglen Swyddogol ar gael i’w rhag-archebu ar-lein, gyda chopïau ar gael i’w prynu yng Ngŵyl Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ddydd Sadwrn ac yna mewn siopau lleol ar draws Cymru o ddechrau’r wythnos ymlaen.