Cyflwyno cadair a choron Prifwyl Ynys Môn

Neithiwr cyflwynwyd Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn seremoni arbennig yn Llangefni.

Lluniwyd y Goron gan y gof arian, John Price, cyn-athro crefft a gwneuthurwr nifer o goronau eisteddfodol cain, ac mae wedi llwyddo i wau ynghyd Merched y Wawr a lleoliad yr Eisteddfod eleni, Ynys Môn, mewn ffordd grefftus a gofalus.

 

Cyflwynir y Goron am bryddest ddigynghanedd heb fod yn fwy na 250 o linellau dan y teitl Trwy Ddrych. Y beirniaid yw M Wynn Thomas, Glenys Mair Roberts a Gwynne Williams.

 

Mae band y Goron yn cynrychioli Pont Menai, y strwythur eiconig sy’n cysylltu Môn â gweddill Cymru. Ond mae hefyd yn cynrychioli’r cysyniad o bontio yn ei ystyr ehangach - y pontio rhwng cymunedau, a’r ffaith bod yr Eisteddfod yn pontio rhwng y Cymry Cymraeg o bob rhan o’r wlad, rhwng y Cymry a Chymry di-gymraeg, a rhwng y Cymry a dysgwyr.

 

Crisialu Ynys Môn

 

Ceir ffresgo bychan ym mhob bwa, gyda’r rhain i gyd yn cynrychioli gwahanol elfennau. Yn un ohonynt, gwelir y genhinen pedr, sy’n cynrychioli Merched y Wawr, y noddwyr a mudiad sydd wedi rhoi cymaint i ferched Cymru dros hanner canrif. Mewn ffresgo arall, ceir Dwynwen ac Ynys Llanddwyn, sy’n cynrychioli cysylltiad Môn â’r môr a chrefydd. Ceir dwy delyn deires mewn ffresgo arall, sy’n cynrychioli Telynorion Llannerch-y-medd, gan ddangos y cysylltiad gyda cherddoriaeth dros y blynyddoedd.

 

Mewn ffresgo arall gwelir un o atyniadau mwyaf deniadol yr Ynys, sef Melin Llynnon. Mae’n cynrychioli ‘Môn Mam Cymru’ – yr ynys a oedd yn cynhyrchu bwyd i Gymru gyfan ar un adeg. Gwelir cofeb Jona Jones i Dywysogion Gwynedd – sydd i’w gweld yn Aberffraw, sef safle un o lysoedd y Tywysogion – mewn un bwa. Ac yna, yn y ffresgo olaf, ceir Tlws Pant y Saer, sy’n cynrychioli siambr gladdu enwog o’r cyfnod Neolithig, sy’n agos at bentref Benllech, ac yn symbol o’r ffaith ein bod ni’n dal yma ac yn gofalu am drysorau ein cenedl ganrifoedd yn ddiweddarach.

 

Dywedodd John Price: “Er ‘mod i wedi creu amryw o goronau eisteddfodol dros y blynyddoedd, mae’r wefr o gael eich dewis i ymgymryd â’r gwaith yn dal i fodoli, ac rwyf wrth fy modd yn mynd ati i ddechrau ar y gwaith o feddwl am syniadau cyn creu’r Goron ei hun.

 

“Mae’n bleser mawr cael y gwahoddiad i greu Coron sydd wedi’i noddi gan Ferched y Wawr, mudiad sydd wedi bod yn gonglfaen i’n hiaith a’n diwylliant dros yr hanner canrif ddiwethaf. Ac wrth gwrs, mae cymaint o ysbrydoliaeth yn nhirwedd ac yng nghyfoeth diwylliannol Môn, a gobeithio bod y Goron hon yn adlewyrchiad o gyfraniad Merched y Wawr ac Ynys Môn i ni fel cenedl.”

 

Arwr neu arwres

 

Eleni, cyflwynir y Gadair am awdl ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, heb fod yn hwy na 250 o linellau o dan y teitl Arwr neu Arwres. Yr Arwr oedd teitl yr awdl ganrif yn ôl hefyd, yn Eisteddfod y Gadair Ddu ym Mhenbedw, lle daeth gwaith Ellis Humphrey Evans, Hedd Wyn, i’r brig, ac yntau wedi’i ladd ar faes y gad wythnosau cyn y seremoni. Yn 2017, mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cofio am aberth y bardd ifanc, ynghyd â’r golled o genhedlaeth o fechgyn ifanc i Gymru.

 

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn adnewyddu Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, a chyda’r gwaith bellach yn dod i ben, yr Awdurdod sydd wedi rhoi’r Gadair eleni. Ym mlwyddyn canmlwyddiant y Gadair Ddu, mae’r gadair erbyn hyn wedi’i hadfer i’w gogoniant gwreiddiol, yn barod i gael ei gweld unwaith eto yng nghartref y bardd ifanc yn Nhrawsfynydd.

 

Dolen bwysig 

 

Ac mae dolen bwysig arall rhwng Hedd Wyn a Chadair Eisteddfod Ynys Môn eleni, gan fod Cadair 2017 wedi’i chreu’n rhannol o ynn a derw a lifiwyd o goed a dyfodd ar dir Yr Ysgwrn, coed a fyddai wedi bod yn tyfu yno yn nyddiau Hedd Wyn ei hun. Y crefftwr ifanc, Rhodri Owen, sy’n egluro: “Mae’r syniad o ail-eni a symud ymlaen yn ganolog i gysyniad y Gadair eleni. Ond mae’r ddolen gyda’r gorffennol hefyd yn bwysig, ac felly fe fûm yn ystyried siapiau’r offer ac arfau a fyddai’n cael eu defnyddio’n ddyddiol mewn ardal wledig ganrif yn ôl, gan eu datblygu a’u mewnosod yn y cynllun.

 

“Mae’r ddwy goes ôl yn codi tua’r ‘lloer’ ac ar siâp pladuriaid, a gwaelod y cefn ar siâp dau haearn marcio, a fyddai wedi’u defnyddio i farcio’r tywyrch cyn torri’r mawn ym myd amaeth. Mae’r ddau siâp cefn wrth gefn yn creu un haearn donni, a fyddai’n torri’r dywarchen ar ôl ei marcio, yn pwyntio tua’r is-fyd, gan gynrychioli tywyllwch a marwolaeth, tra bo pen y Gadair a’r Nod Cyfrin yn cynrychioli goleuni a bywyd newydd.

 

“Rydw i hefyd wedi cadw mewn cof y ffaith mai ym Môn y cynhelir yr Eisteddfod eleni, ac wrth gwrs, mae’r cyswllt Celtaidd felly’n amlwg, a’r syniad Celtaidd o ail-eni a symud o’r tywyllwch i’r goleuni sydd i’w weld yng nghynllun y Gadair. Mae egin bywyd yn codi wrth i’r düwch ildio i oleuni a’r gobaith o fywyd newydd, heddychlon mewn oes o ansicrwydd gwleidyddol byd-eang ac argyfwng hunaniaethol y Cymry.

 

“Roedd hi’n bwysig i’r Parc ac i minnau fod y Gadair yn cyfleu ei neges ei hun, ac rwy’n gobeithio fy mod wedi gwireddu hyn, gan roi’r pwyslais ar gamu ymlaen yn hyderus fel cenedl o Gymry i ddyfodol newydd, gwell a heddychlon.”

 

Gwnaethpwyd y Gadair â llaw yng ngweithdy Rhodri Owen yn Ysbyty Ifan.

 

Beirniaid y gystadleuaeth yw Peredur Lynch, Huw Meirion Edwards ac Emyr Lewis.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru