Cyflwyno deiseb dros addysg Gymraeg i Gyngor Caerdydd

23/07/2015

Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Bydd grŵp Gweithredu dros Rieni Ysgol Gymraeg Nant Caerau yn cyflwyno deiseb i Gyngor Caerdydd heddiw.

 

Mae 185 o gefnogwyr wedi llofnodi’r ddeiseb, sy’n galw am well buddsoddiad mewn Addysg Gymraeg a chynnydd yn nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yn ardaloedd Trelai a Chaerau i ddiwallu’r galw cynyddol. Bydd y Cynghorydd Peter Bradbury, sy’n cynrychioli ward Trelái, yn derbyn y ddeiseb ar ran y rhieni ac yn ei chyflwyno i’r cyngor.

 

Sefydlwyd y grŵp i ymgyrchu am well adnoddau a chyfleusterau yn Ysgol Gymraeg Nant Caerau, sef yr unig ysgol gynradd Gymraeg sy’n gwasanaethu’r ardal.

 

Yn ôl Cyfrifiad 2011 roedd gan Caerau a Threlái boblogaeth gyfunol o 14,603 ac eto dim ond 30 o leoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yno.

 

Chwarae teg

 

Dywedodd Sonia Holmes ar ran grŵp Gweithredu dros Rieni Ysgol Gymraeg Nant Caerau fod y ddeiseb yn gam at sicrhau tegwch, "Mae’r ddeiseb hon yn gam pellach yn ein hymgyrch i sicrhau chwarae teg i addysg Gymraeg yn Nhrelái a Chaerau. Mae'r sefyllfa bresennol sy'n wynebu'r ysgol yn dangos yn glir fod y Cyngor wedi methu ymateb yn ddigon rhagweithiol i'r galw cynyddol am addysg Gymraeg yn ein hardal. Rydym yn gobeithio y byddant yn gwrando ar ein pryderon ac yn gweithredu ar fyrder.”