Cyfres nodedig am ryfel Fietnam yn dechrau ar S4C

15/08/2018

Categori: Addysg, Celfyddydau, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Heno, fe fydd cyfres nodedig yn dechrau am ryfel Fietnam ar S4C gyda'r bardd Twm Morys yn lleisio.

Mae Rhyfel Fietnam, cyfres ddogfen Ken Burns a Lynn Novick, a gafodd ei enwebu am bedair gwobr Emmy, yn adrodd stori epig un o'r digwyddiadau mwyaf dadleuol yn hanes yr ugeinfed ganrif. 

 

Am ddeg wythnos cawn dreiddio i achosion, erchyllterau a straeon personol y rhyfel trwy gyfweliadau gyda bron i 80 o dystion o bob ochr i'r gwrthdaro – gan gynnwys Americanwyr wnaeth ymladd ac eraill oedd yn ei wrthwynebu, yn ogystal â milwyr a phobl gyffredin o Dde a Gogledd Fietnam.

 

Fe gymerodd hi ddeng mlynedd i greu'r gyfres ac mae'n cynnwys ffilmiau archif; ffotograffau gan rai o ffotograffwyr newyddiadurol enwoca'r 20fed ganrif, megis y Cymro Philip Jones Griffiths; darllediadau teledu hanesyddol; ffilmiau cartref; a recordiadau sain cyfrinachol o'r tu mewn i weinyddiaethau Arlywyddion Kennedy, Johnson, a Nixon.

 

Cyn o siarad am y rhyfel

 

Mae Bao Ninh, a ymladdodd gyda Byddin Gogledd Fietnam yn ystod y rhyfel, yn un o gyfranwyr y gyfres. Meddai, "Rydym ni gyn-filwyr Fietnam yn gyndyn o siarad am y rhyfel. Mae rhai yn canu am fuddugoliaeth a rhyddid. Ond nid pwy enillodd a phwy gollodd sy'n bwysig. Does neb yn ennill nac yn colli mewn rhyfel; does dim ond dinistr. Dim ond y sawl sydd heb ymladd erioed sy'n dadlau am bwy enillodd a phwy gollodd."

 

Yn ogystal, mae Rhyfel Fietnam yn cynnwys mwy na 120 o ganeuon poblogaidd eiconig sy'n diffinio'r cyfnod, gan gynnwys traciau gan The Beatles; Rolling Stones; Bob Dylan; The Jimi Hendrix Experience; Simon a Garfunkel; Creedence Clearwater Revival ; Otis Redding; Nina Simone a mwy.

 

Yn rhaglen gyntaf y gyfres, dysgwn am y sefyllfa hanesyddol a gwleidyddol wnaeth arwain at y trafferthion cyntaf. Wedi rhyfel creulon a hir, mae chwyldroadwyr dan arweiniad Ho Chi Minh yn rhoi stop ar bron i ganrif o reolaeth gan y Ffrancwyr. Mae'r Rhyfel Oer yn dwysau ac mae Fietnam yn cael ei rhannu'n ddwy yn Genefa. Mae'r Comiwnyddion yn y Gogledd yn gobeithio ail uno'r wlad, tra bod America yn cefnogi trefn newydd Ngo Dinh Diem yn y De. Dyma ddechrau ar gyfnod anodd iawn i'r ddwy wlad.