Cyfrifiad 2011 - ‘argyfwng y Gymraeg’

11/12/2012

Categori: Newyddion

Cyfrifiad 2011 - ‘argyfwng y Gymraeg’

‘Mae’r Gymraeg mewn argyfwng’, dyna ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ystadegau Cyfrifiad 2011 a gafodd eu rhyddhau heddiw (Dydd Mawrth, Rhagfyr 11).

Yn ôl y Cyfrifiad, yn 2011 roedd 562,000 (19.01%) o bobl yng Nghymru dros 3 oed yn siarad Cymraeg o’i gymharu â 582,368 (20.76%) yn 2001, gostyngiad o 2.75%. Yn strategaeth iaith Llywodraeth Cymru yn ôl yn 2003, mi oedd targed i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg o 5% i 26%. Fe gwympodd y canran o siaradwyr yn holl siroedd y gorllewin, gyda’r gostyngiad mwyaf yn Sir Gaerfyrddin, ond mi welwyd cynnydd bach yng Nghaerdydd, Rhondda Cynon Taf a Sir Fynwy.

Dywedodd y Gymdeithas y byddan nhw’n lansio ‘maniffesto byw’ wythnos yma mewn ymateb i’r canlyniadau, cyn cynnal rali yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn yma (Rhagfyr 15) i ffocysu ar dynged yr iaith ar lefel gymunedol.
Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd newydd-etholedig Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Mae’r Gymraeg yn wynebu argyfwng. Mae’r newyddion hyn yn adlewyrchu’n wael iawn ar Lywodraeth Cymru a osododd darged i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg o bump y cant dros y degawd. Dros y 10 mlynedd diwethaf, maen nhw wedi methu cefnogi’r Gymraeg yn y ffordd y dylen nhw. Mae’r gostyniad yn holl siroedd y Gorllewin yn fater o bryder dirfawr. Mae pobl Cymru yn gefnogol iawn o’n hiaith unigryw, ond dydy’r Llywodraeth ddim yn gwireddu eu huchelgais.

“Credwn mai dyhead rhan helaeth o bobl Cymru yw gwlad lle gallwn ni i gyd fyw ein bywydau yn Gymraeg; deallwn hefyd mai sicrhau cryfder cymunedau Cymraeg eu hiaith yw'r unig ffordd o wireddu'r weledigaeth honno. Mae angen cyfres o bolisïau clir a dewr gan Lywodraeth Cymru ym mhob maes, ond yn arbennig ym meysydd addysg, cynllunio, tai a’r gweithle er mwyn gwrth-droi’r dirywiad.  Nid oes diben eistedd yn ôl a derbyn hyn: gydag ymgyrchu caled ac ewyllys gwleidyddol, gallwn ni gydweithio a newid ein tynged.”
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal y cyntaf o gyfres o ralïau yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn Rhagfyr 15fed ac yn lansio’r ymgyrch “Dwi eisiau byw yn Gymraeg”, gyda ralïau ym Merthyr Tudful, Aberystwyth a Sir Gaerfyrddin i ddilyn. Ychwanegodd Robin Farrar:

“Mae dyfodol y Gymraeg yn dibynnu ar fodolaeth a chryfder ardaloedd lle mae dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg. Mae’n rhaid mynd i’r afael â nifer o ffactorau ar frys er mwyn gwyrdroi’r dirywiad yn nifer o siroedd lle mae'r Gymraeg wedi bod yn gryf yn draddodiadol, yn enwedig, y patrymau allfudo a mewnfudo, sicrhau swyddi Cymraeg eu hiaith a'r system addysg.”

“Mae Llywodraethau Cymru ers datganoli wedi dangos diffyg ewyllys i gefnogi’r Gymraeg, yn enwedig yng ngoleuni gostyngiad yn y siroedd gorllewinol. Mae angen adfywiad economaidd, cymunedol yn yr ardaloedd traddodiadol Cymraeg os ydyn ni am wrth-droi’r dirywiad a sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r Gymraeg ymhob rhan o Gymru.”

 

 

Ffynhonnell Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

 

Beth yw eich barn chi?