Cyfrol newydd yn cofnodi tywydd mawr mewn lluniau

05/12/2016

Categori: Amgylchedd, Llenyddiaeth, Newyddion

A yw effeithiau cynhesu byd-eang i’w gweld yng Nghymru? Dyna gwestiwn sydd y tu cefn i’r gyfrol newydd Tywydd Mawr a gyhoeddir yr wythnos hon.

I chwilio am yr ateb, fe aeth y ffotograffydd Iestyn Hughes ati i bori drwy lu o  archifau am dystiolaeth o effaith y tywydd dros y canrifoedd.

 

Gyda hinsawdd y byd yn newid fesul blwyddyn, mae’r gyfrol yn dangos lluniau o effaith hynny ar fynyddoedd yr Alpau a rhewlif yn crebachu yng Nghanada, ond golygfeydd dramatig o Gymru benbaladr a welir yma’n bennaf – eira 1947 ac 1978, sychder haf 1976 a llifogydd 2004, yn ogystal â stormydd 2013/14 ar hyd arfordir gorllewin Cymru.

 

Cyfrol gynhwysfawr sy’n cynnwys ymhell dros gant o ffotograffau a darluniau o dywydd eithafol yng Nghymru yw Tywydd Mawr. Ynddi ceir trysorfa o wybodaeth, atgofion, darluniau, llên gwerin a gwyddoniaeth am y tywydd a’r hinsawdd.

 

‘Fe’m hysgogwyd i baratoi’r gyfrol fach hon yn dilyn stormydd 2013/14. Roeddwn wedi amau bod rhywbeth mawr ar droed o fis Hydref ymlaen, ac fe fues i’n weddol ddiwyd wedyn yn cofnodi effaith y tonnau mawr a’r llifogydd ar hyd yr arfordir o gwmpas Aberystwyth gyda fy nghamera,’ eglurodd Iestyn Hughes.

 

‘Gofynnwyd i mi gyfrannu rhai o’r lluniau a fideo, nid yn unig i’r cyfryngau newyddion, ond hefyd at ffilm fer ar yr amgylchedd, ac fe ysgogodd hynny a holl brofiad erchyll y gaeaf i mi feddwl yn fwy dwys am newid hinsawdd, ac am y tywydd a fu,’ ychwanegodd. ‘Ydi’r tywydd anwadal diweddar wedi dod yn sgil newid hinsawdd, neu, o’i osod mewn cyd-destun hwy na chof un genhedlaeth, a yw’n rhan o batrwm naturiol tymor hir?’

 

Cofnodion o’r tywydd 

 

Daw’r lluniau sydd yn y gyfrol o wahanol ffynonellau, yn eu plith gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n cynnwys y ffotograff cyntaf erioed o ddyn eira a dynnwyd tua 1854, ac un o bobl yn sglefrio ar afon Teifi yn 1891. Yn ogystal â ffotograffau, cynhwysir paentiadau hefyd, megis rhai gan Breugel, Aneurin Jones a Kyffin Williams.

 

"I ni’r Cymry, fel i weddill pobl ynysoedd Prydain, mae’r tywydd yn rhan fawr iawn o’n bywydau. Pan ddaw hi’n dywydd mawr, mae ein hymatebion cymdeithasol a diwylliannol yn uniongyrchol, greddfol a chreadigol dros ben," meddai Dr Hywel Griffiths, sydd wedi ysgrifennu cyflwyniad i’r gyfrol, ac sy’n ddarlithydd yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth. 

 

"Yn farddoniaeth neu chwedlau, darluniau neu ffotograffau, mae rhywbeth am y tywydd sy’n ysbrydoli. Yn y blynyddoedd diwethaf mae nifer o enghreifftiau o dywydd eithafol, yn enwedig stormydd a llifogydd, wedi taro Cymru." meddai Dr Griffiths.

 

"Mae’r gyfrol hon yn gymwynas fawr i’r drafodaeth gyhoeddus ar dywydd a hinsawdd gan ei bod yn dangos tystiolaeth hanesyddol a diwylliannol ein bod ni fel unigolion a chymunedau wedi profi, ac wedi ymdopi â’r digwyddiadau eithafol yma o’r blaen," ychwanegodd. ‘Pan fyddwn ni, a brofodd stormydd 2013/2014, wedi hen fynd o’r tir a’n hatgofion gyda ni, bydd y lluniau arbennig yma, yn gelf ac yn gofnod, yn parhau."

 

35 mlynedd yn y Llyfrgell Genedlaethol

 

Yn wreiddiol o ardal Llaniestyn, sir Fôn, fe drodd Iestyn yn Gardi dŵad, gan dreulio 35 mlynedd yn gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol. Gadawodd y sefydliad yn 2011 er mwyn dilyn llwybrau newydd mwy creadigol. Mae wedi cyfrannu’n helaeth at lyfrau gan sawl gwasg ers hynny, un ai fel ymchwilydd lluniau, neu fel ffotograffydd. Tywydd Mawr yw’r pedwerydd llyfr i ddwyn ei enw fel awdur, ac mae’n gyfrol sy’n cyfuno’i ddiddordeb mewn lluniau archif a’i ddawn fel ffotograffydd.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru