Cyhoeddi Adolygiad Diamond ar ariannu myfyrwyr

27/09/2016

Categori: Addysg

Cyhoeddwyd heddiw adolygiad annibynnol dan arweiniad yr Athro Syr Ian Diamond sy’n anelu i drawsnewid y sustem ariannu myfyrwyr yng Nghymru.

Mae'n awgrymu newid mawr i system sy'n darparu cymorth ariannol ar gyfer costau byw myfyrwyr llawn-amser a rhan-amser drwy gymysgedd o grantiau a benthyciadau, yn hytrach na thalu ffioedd dysgu y myfyrwyr. Byddai'n golygu bod myfyrwyr yn cael swm sydd werth yr un faint â'r Cyflog Byw Cenedlaethol yn ystod y tymor pan fyddant yn astudio.

 

Gallai myfyriwr yng Nghymru gael grant o £7,000 y flwyddyn wrth iddynt astudio, gyda fersiwn pro-rata ar gael i fyfyrwyr rhan-amser. Yr uchafswm a fyddai ar gael bob blwyddyn fyddai £9,113 y flwyddyn ar gyfer y rheini sy'n astudio'n llawn-amser.

 

Mae'r panel yn argymell ffyrdd amgen o ddarparu cymorth ariannol i fyfyrwyr rhan-amser, a phecyn cymorth ar gyfer astudiaethau ôl-radd sy'n helpu myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig. Maent hefyd yn cynnig syniadau newydd ar rannu ymchwil a gwybodaeth a rhaglen i gefnogi myfyrwyr ymchwil.

 

Dyma argymhellion yr Athro Diamond: 

 

  • Creu system newydd a gwell ar gyfer grantiau cynhaliaeth i israddedigion, myfyrwyr ôl-radd a myfyrwyr rhan-amser. Y rheini sydd â'r angen mwyaf fydd yn cael y lefel uchaf o gymorth.


  • Cyflwyno grant cynhaliaeth cyffredinol blynyddol o £1,000 i bob myfyriwr nad yw'n seiliedig ar brawf modd, ochr yn ochr â'r grant ychwanegol ar gyfer costau byw sydd yn seiliedig ar brawf modd. Bydd myfyrwyr rhan-amser yn cael fersiwn wedi'i haddasu o'r cymorth hwn ar sail pro-rata.


  • Dylai'r gyfradd uchaf o'r benthyciad a/neu grant cynhaliaeth ar gyfer myfyrwyr sy'n byw oddi cartref y tu allan i Lundain, fod yr un faint â'r Cyflog Byw Cenedlaethol - sef £8,100 ar gyfer 37.5 awr yr wythnos dros gyfnod o 30 wythnos. Felly, darparu uchafswm grant sydd 25% yn fwy (£10,125) ar gyfer myfyrwyr sy'n byw oddi cartref yn Llundain, a 15% yn fwy (£6,885) ar gyfer myfyrwyr sy'n byw gartref.


  • Talu cymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr bob mis er mwyn iddynt allu cynllunio a chyllidebu'n fwy effeithlon.

 

Lleihau’r bwlch

 

Dywedodd yr Athro Diamond, "Mae’n hollbwysig parhau i fuddsoddi mewn addysgu’r cenedlaethau i ddod a fydd yn llywio’r economi a’r gymdeithas yn y dyfodol."

 

"Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae hyn golygu bod gofyn cael system addysg sy’n lleihau’r bwlch rhwng y cefnog a’r tlawd, ac yn galluogi pobl i gael mynediad at sgiliau lefel uwch sy’n hanfodol i greu’r math o genedl y mae Cymru’n anelu ati."

 

Ychwanegodd, “Dylai’r trefniadau ar gyfer ariannu addysg uwch fod yn bartneriaeth rhwng y gymdeithas ehangach a’r unigolyn. Yn wahanol i Loegr, lle bydd y cymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr yn seiliedig ar fenthyciadau, rydym yn cynnig darparu cymorth cyffredinol sylweddol i fyfyrwyr llawn-amser. Golyga hyn y bydd myfyrwyr Cymru’n wynebu dipyn llai o ddyled ar gyfartaledd na myfyrwyr o Loegr pan fyddant yn gadael y brifysgol.”

 

Dywedodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd dros Addysg: "Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno cynllun blaengar a chynaliadwy ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru.Rydym am sicrhau bod y rheini sy'n dymuno symud ymlaen i brifysgol yn gallu gwneud hynny. Pryder ynghylch methu â thalu costau byw bob dydd, yn hytrach na'r syniad o ad-dalu benthyciadau ar ôl cael swydd, sy'n codi ofn ar nifer o bobl. Mae'r system yn mynd i'r afael â'r broblem hon, ond bydd hefyd yn golygu gwneud penderfyniadau anodd i sicrhau bod y system yn gynaliadwy yn y tymor hir.’

 

Dychwelyd i Gymru

 

Dywedodd Llefarydd yr Wrthblaid ar Addysg, Llyr Gruffydd ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd o gymell myfyrwyr i ddychwelyd i Gymru i weithio ar ôl graddio, fel yr eglurodd, “Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad Diamond o ran rhoi cymhellion i fyfyrwyr aros neu ddychwelyd i Gymru wedi graddio. Yr oedd hyn yn rhan ganolog o bolisi Plaid Cymru yn yr etholiad diwethaf, ac oni fydd hyn yn digwydd, mae perygl i ni fod mewn sefyllfa lle bydd y system o gefnogi myfyrwyr yn methu â gwasanaethu anghenion economi Cymru yn iawn."

 

Ychwanegodd, “Mae prifysgolion, colegau a phrentisiaethau oll yn llwybrau yr un mor werthfawr tuag at waith. Yr her nawr i Lywodraeth Cymru yw nid yn unig cau’r blwch cyllido gyda Lloegr, ond sicrhau hefyd fod cyllid i addysg ôl-16 yn adlewyrchu cydraddoldeb parch rhwng astudiaethau academaidd a galwedigaethol.”

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru