Cyhoeddi anrhydeddau'r Orsedd

Mae Gorsedd y Beirdd wedi cyhoeddi heddiw enwau a fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni. 

Daw’r enwebiadau i’r Wisg Las am eu cyfraniad ym myd yGyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.  Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau.  

 

Mae'r enwau cyfarwydd a fydd yn cael eu hurddo eleni yn amrywio o is-hyfforddwr tîm pêl-droed Cymru a brodor o Ynys Môn, Osian Roberts am ei gyfraniad i ymgyrch Cymru yn Ewro 2016 i’r ymgyrchydd yn erbyn canser, Irfon Williams sydd wedi brwydro yn ddiflino dros wella adnoddau meddygol i daclo'r afiechyd yn y Gogledd.   

 

Dyma'r enwau cyfarwydd sydd wedi'u hurddo o blith y Wisg Las a'r Werdd eleni: 

 

 

Y Wisg Las 

 

Ian Gwyn Hughes 

 

Bu Ian Gwyn Hughes, Caerdydd, yn ohebydd chwaraeon gyda’r BBC yng Nghymru am flynyddoedd.  Ond daeth i sylw’r rhan fwyaf o bobl y llynedd yn rhinwedd ei waith fel Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Pêl Droed Cymru yn ystod pencampwriaeth yr Ewros.  Mae wedi sicrhau lle canolog i’r Gymraeg yng ngwaith y Gymdeithas, gan ddangos balchder y tîm a’r swyddogion yn yr iaith.  Rhoddodd hyn lwyfan rhyngwladol i’r iaith yn ystod y gystadleuaeth, a thrwy hynny crëwyd teimlad o berchnogaeth o’r iaith yn ogystal â’r tîm.  Yn ogystal, bu’n flaengar yn hyrwyddo pêl droed mewn cymunedau Cymreig a Chymraeg ar draws y wlad. 

 

Nia Roberts 

 

Fel merch o Fôn yr adnabyddir y cyflwynydd Nia Roberts, Y Bontfaen, a hithau’n ferch i’r diweddar actor ac athro, JO Roberts.  Mae’n un o wynebau mwyaf cyfarwydd S4C ac yn un o leisiau poblogaidd Radio Cymru, gyda phrofiad helaeth o gyflwyno digwyddiadau byw a chelfyddydol o bob math, gan gynnwys y darlledu o’r Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd a Chôr Cymru.  Hi hefyd yw cyflwynydd rhaglen gelfyddydol wythnosol Radio Cymru, Stiwdio.  Derbyniodd Gymrodoriaeth er anrhydedd am ei chyfraniad i faes darlledu gan Brifysgol Bangor llynedd. 

 

Osian Roberts 

 

Gyda’i wreiddiau’n ddwfn ym Modffordd, Ynys Môn, pêl droed fu bywyd Osian Roberts ers pan yn fachgen ysgol, gan lwyddo ar y lefel uchaf o’r cychwyn. Yn dilyn cyfnod yn UDA, dychwelodd i Gymru i weithio ym myd pêl droed, ac ers rhai blynyddoedd bellach, mae’n rhan greiddiol o dîm hyfforddi Cymru.  Roedd ei brofiad a’i arbenigedd yn ganolog i lwyddiant mawr y tîm yng nghystadleuaeth yr Ewros y llynedd, pan lwyddodd y bechgyn i gyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth.  Bu’n rhan allweddol o’r gwaith o sicrhau bod y Gymraeg i’w gweld a’i chlywed yn ystod y gystadleuaeth, gan godi proffil yr iaith yn rhyngwladol ar draws y byd.  Yn ogystal â’r anrhydedd hwn, Osian Roberts yw Llywydd yr Ŵyl yn yr Eisteddfod eleni. 

 

 

 Irfon Williams 

 

Yn ystod ei gyfnod yn gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd, dangosodd Irfon Williams, Bangor, ymroddiad ac angerdd yn ei waith, gan dderbyn Gwobr Nyrs Plant y Flwyddyn yng Nghymru yn 2012.  Yn 2014 cafodd wybod ei fod yn dioddef o gancr, a chan weld effaith cemotherapi ar rai merched, aeth ati i sefydlu elusen ‘Tîm Irfon’ i godi arian i Apêl Awyr Las er mwyn talu am wigiau, triniaethau amgen a chefnogaeth iechyd meddwl i gleifion a’u teuluoedd.  Ef hefyd oedd yn gyfrifol am yr ymgyrch Hawl i Fyw a sicrhaodd fod unigolion sydd yn dioddef o gancr yn cael yr un cyfleoedd am driniaeth yng Nghymru â chleifion mewn rhannau eraill o’r DU.  Dyma ddyn mewn miliwn, ac mae’i ymgyrchu wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau ac urddas cleifion yng Nghymru. 

 

George North

 

Efallai iddo gael ei eni yn King’s Lynn, ond magwyd George North, Northampton, yng ngogledd Môn gan dderbyn ei addysg yn Ysgol Bodedern, dafliad carreg o Faes yr Eisteddfod eleni. Mae’n un o chwaraewyr rygbi mwyaf disglair ei genhedlaeth, gan gychwyn ar ei daith i garfan y Llewod yng Nghlwb Rygbi Llangefni, cyn symud i Goleg Llanymddyfri ac yna’r Scarlets, cyn ennill ei gap cyntaf dros Gymru pan yn ddim ond deunaw oed. Mae’n un o asgellwyr mwyaf rhagorol rygbi rhyngwladol, yn arwr i filoedd, ac er ei fod yn chwarae yn Northampton, mae’n parhau’n ffyddlon i’w hen sir ac i’r Gymraeg.

 

 

 

Y Wisg Werdd 

 

Linda Brown 

 

Gellid dadlau bod enw Linda Brown, Gerlan, Bethesda, yn gyfystyr â byd y ddrama yng Nghymru gan iddi fod yn ganolog i fyd y theatr Gymraeg ers dros ddeugain mlynedd.  Yn fwyaf adnabyddus am ei gwaith gyda Theatr Bara Caws o’r cychwyn, mae wedi llwyddo i greu perthynas cwbl unigryw gyda chymunedau ym mhob rhan o’r wlad, gan ddenu llu o bobl i brofi theatr Gymraeg ar lawr gwlad.  Yn ddi-os, mae Linda’n un o gonglfeini ei chymuned leol yng Ngerlan a Bethesda, gan eistedd ar fyrddau niferus a llu o bwyllgorau.  Mae ei chyfraniad cymunedol a chenedlaethol wedi bod yn amhrisiadwy a theg yw dweud ei bod hi’n sefydliad yn ei hun! 

 

Iwan Guy 

 

Mae Iwan Guy, Y Bontfaen, yn adnabyddus fel canwr, arweinydd ac athro.  Yn gyn-enillydd cenedlaethol, bu’n gweithio fel canwr opera proffesiynol am flynyddoedd, gan berfformio gydag amryw o gwmnïau opera.  Yn dilyn damwain, aeth ati i hyfforddi fel athro cynradd, a bu’n ddylanwadol iawn fel athro ac yna bennaeth yn y sector gynradd yn ardal y de ddwyrain cyn mynd i weithio fel cyfarwyddwr undeb penaethiaid NAHT Cymru.  Parhaodd ei ddiddordeb ym myd cerddoriaeth a bu’n gyfrifol am sefydlu ac arwain nifer o gorau ynghyd â Chymdeithas Gorawl Y Bontfaen.   

 

 

 Ieuan Jones 

 

Yn wreiddiol o Feifod, mae’r telynor amlwg, Ieuan Jones, Llundain, yn enw adnabyddus mewn nifer fawr o wledydd ar draws y byd, gyda chynulleidfaoedd yn Sbaen yn ei adnabod fel ‘Esplendoroso Jones’ oherwydd ei ddawn arbennig.  Yn Athro Telyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain ac yn aelod rheolaidd o banelau cystadlaethau rhyngwladol ym mhob rhan o’r byd, mae’n llysgennad ardderchog i Gymru.  Mae wedi glynu’n dynn wrth ei wreiddiau gan ddychwelyd i fro ei febyd yn rheolaidd i hyfforddi a chefnogi ieuenctid yr ardal. 

 

Richard ac Wyn Jones 

 

Mae Richard ac Wyn Jones, Aberteifi, yn adnabyddus fel sylfaenwyr label annibynnol Fflach, sydd wedi bod yn rhan allweddol o’r sîn gerddorol Gymraeg ers degawdau erbyn hyn.  Gyda’r sîn yn datblygu, sefydlwyd is-labeli er mwyn canolbwyntio ar gynnwys mwy arbenigol, Rasp, yn gyfrwng i annog a chyhoeddi artistiaid newydd arbrofol a Fflach:tradd yn adlewyrchu deunydd gan gorau, bandiau pres yn ogystal ag artistiaid gwerin.  Mae ganddynt stiwdio recordio bwrpasol yn Aberteifi, sy’n cyfrannu at economi, diwylliant ac achosion da yn eu cymuned a thu hwnt.  Yn aelodau o’r band ‘Ail Symudiad’ eu hunain, mae’r brodyr hefyd yn gerddorion llwyddiannus a phoblogaidd, gyda’u caneuon yn parhau i gael eu clywed ar y radio’n rheolaidd.   

 

Wynford Ellis Owen 

 

 

I genedlaethau o Gymry, mae Wynford Ellis Owen, Creigiau, Caerdydd, yn adnabyddus fel Syr Wynff o’r gyfres enwog ‘Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan’, ac i eraill, Donald, y gweinidog o gyfres ‘Porc Peis’ ydyw.  Ond i gannoedd o unigolion sy’n ddibynnol ar gyffuriau neu ddiod yn ardal Caerdydd, ef yw’r gŵr sy’n gyfrifol eu triniaeth, fel Prif Weithredwr yr elusen ‘Stafell Fyw’.  Aeth ati i ennill cymhwysedd academaidd yn y maes cyn sefydlu ac agor y ganolfan, sy’n ffynnu, ac mae’n fwriad ehangu’r prosiect ymhellach a sefydlu ‘Stafelloedd Byw’ eraill yng ngorllewin a gogledd Cymru.  Mae’r ganolfan yng Nghaerdydd wedi trawsnewid bywydau, a dyma oedd ei bwriad, yn dilyn ei brofiad ef ei hun.   

 

 

Rhian Roberts 

 

Mae Rhian Roberts, Bangor, wedi addysgu ac ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc ers blynyddoedd yn sgil ei gweledigaeth hi a’i gŵr, Cefin Roberts, wrth sefydlu Ysgol Glanaethwy dros chwarter canrif yn ôl.  Fel cyfarwyddwr cerdd côr iau’r ysgol, mae Rhian wedi creu profiadau ac atgofion arbennig ar gyfer llu o bobl ifanc, gan eu harwain i fuddugoliaethau cenedlaethol a rhyngwladol, ynghyd â rhoi cyfle i’r criw ifanc deithio’r byd yn perfformio.  Erbyn heddiw, mae’r ysgol yn uchel ei pharch ar draws y byd, gyda’r enw’n gyfystyr â safon a dawn.  Yn ogystal â hyfforddi a chyfarwyddo, Rhian hefyd sy’n bennaf gyfrifol am weinyddu a threfnu pob elfen o waith yr ysgol brysur ym Mangor. 

 

Jeremy Turner 

 

Mae Jeremy Turner, Aberystwyth, yn fwyaf adnabyddus fel Cyfarwyddwr Cwmni Theatr Arad Goch, gyda thros 20,000 o blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru yn mwynhau perfformiadau’r cwmni’n flynyddol ym mhob rhan o Gymru.  Yn ogystal â hyn, mae’n ddarlithydd gwadd mewn prifysgolion yng Nghymru, a’i arbenigedd ym maes y theatr wedi’i gydnabod ar lefel ryngwladol, gyda chyfleoedd i ddarlithio a chyflwyno mewn seminarau dros y byd yn flynyddol.  Mae’i waith wedi’i berfformio mewn gwledydd ym mhob rhan o’r byd dros y blynyddoedd.  Mae hefyd yn gyflenwr hyfforddiant proffesiynol ar gyfer awdurdodau addysg a mudiadau cenedlaethol.