Cyhoeddi nofel newydd gan awdures o Aberystwyth

10/08/2016

Categori: Hamdden, Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion

Cyfeillgarwch tri ffrind a chyfrinach farwol sy’n bygwth rheoli eu bywydau am byth yw testun nofel newydd gan awdures o Aberystwyth.

Mae Pam? gan Dana Edwards yn adrodd hanes Pam, Gwennan a Rhodri wrth iddyn nhw adael coleg a gwneud eu ffordd yn y byd yn ystod y ddegawd gythryblus sy’n arwain at sefydlu Cynulliad Cymru.

 

Ond mae’r tri’n rhannu cyfrinach. Wrth iddyn nhw ddechrau mwynhau eu statws, a’r holl bethau eraill a ddaw yn sgil gyrfaoedd llewyrchus, mae’r hyn a ddigwyddodd yn Aber yn bygwth dinistrio popeth.

 

"Fel sy’n wir am fywyd go iawn, bwrn yw’r gyfrinach iddynt,’ eglurodd yr awdures, Dana Edwards, ‘Mae’r ofn tragwyddol yna y bydd y gwirionedd rywsut rywfodd yn dod i’r amlwg. Yn fy mhrofiad i rhyw bethau digon salw yw cyfrinachau, gwybodaeth i’w gwato, rhywbeth y mae gan rywun gywilydd ohono. Ac fel yna mae hi i’r tri chymeriad yn y nofel hon.

 

‘Wrth iddyn nhw adael coleg a chychwyn ar eu gyrfaoedd mae’n mynd yn fwyfwy hanfodol i gadw’r gyfrinach. Yn gynyddol mae ganddynt fwy i’w golli ac mae’r pwysau i gelu’r gwir yn eu gyrru i wneud rhai pethau byrbwyll.’

 

Yn gefndir i hyn oll mae cyffro gwleidyddol a chymdeithasol degawd ola’r 20fed ganrif, wrth i Pam fynd o fod yn gyw-gyflwynydd ar Radio Ceredigion i gynrychioli’r sir yn y Cynulliad.

 

‘Rwy’n credu taw’r ddegawd a arweiniodd at sefydlu’r Cynulliad yng Nghaerdydd oedd y cyfnod mwya cyffrous i mi – hyd yma ta beth!’ meddai Dana. ‘Ro’n i’n awyddus i gael y cyfle i ail-fyw’r cyffro drwy ysgrifennu stori yn seiliedig ar yr hanes hwnnw. Ond cefnlen yn unig yw’r cyfnod wrth gwrs.’

 

Mae’r nofel eisoes wedi cael ei chanmol am ei gafaelgarwch gan yr adolygydd Catrin Beard a ddywedodd, "Bydd y stori’n eich cadw chi’n darllen tan yr oriau mân."

 

Gwaith yr Artist Meirion Jones

 

A hithau’n wreiddiol o sir Gâr mae Dana Edwards yn byw yn Aberystwyth. Mae clawr trawiadol y nofel yn ddarlun o’r prom gan yr artist Meirion Jones.

 

"Rwy wrth fy modd yn Aber," meddai. "Fel cynifer o rai eraill fe ddes i yma’n fyfyriwr, a dros ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach rwy dal yma! Mae yma ysbrydoliaeth di-ben-draw. Mae yma bobol ddifyr ac mae sgyrsiau am lên a llyfrau a gwleidyddiaeth i’w clywed yng nghaffis amrywiol y dre."

 

"Ond nid pobl sy’n ysbrydoli bob tro – mae’r môr yn ei wylltineb yn rhoi rhyw egni i rywun, ac weithiau rwy’n medru sianelu’r egni hwnnw er mwyn ysgrifennu," ychwanegodd.

 

Dyma ei hail nofel, yn dilyn llwyddiant The Other Half yn Saesneg. Cafodd yr awdures ganmoliaeth gan ddarllenwyr am ei gallu i ysgrifennu stori afaelgar, i bortreadu bywyd Cymreig ac i achosi i’r darllenydd bendilio rhwng chwerthin a chrio.

 

"Fe wnes i fwynhau ysgrifennu fy nofel gyntaf, The Other Half, yn fawr iawn. Crëwyd hi yn Saesneg yn sgil mynychu dosbarth ysgrifennu a oedd yn digwydd bod yn yr iaith honno,’ meddai Dana, "Ond Cymraeg yw fy mamiaith ac ro’n i’n awyddus i weld sut fyddwn i’n ymdopi ag ysgrifennu yn fy iaith bob dydd."

 

Mwynhau ysgrifennu

 

Mae Dana Edwards yn adnabyddus yn ei hardal ac yn gweithio fel ymchwilydd ar raglenni dogfen i Gwmni Unigryw. Mae’n gyfarwydd â’r byd marchnata ar ôl gweithio fel Swyddog Marchnata i Gwmni Theatr Arad Goch ac fel Swyddog Marchnata i Ffagl Gobaith, ac mae’n mwynhau ysgrifennu erioed.

 

Fel yr eglurodd Dana, "Rwy’n lico clywed iaith goeth ac odl a chynghanedd – ro’n i wrth fy modd yn adrodd pan o’n i’n ifanc, yn dwli dysgu cerddi a dweud y geiriau drosodd a throsodd,"

 

Ychwanegodd, "Mae ysgrifennu wedi bod yn rhan anhepgor o nifer o fy swyddi i – ond ysgrifennu i bwrpas gwahanol iawn oedd hynny wrth gwrs, sef gwerthu cynyrchiadau ar ran cwmni Theatr Arad Goch a Ffagl Gobaith. Ond ysgrifennu i ddiddanu mae nofelydd yn y bôn, ac ar hyn o bryd rwy wrth fy modd yn cael cyfle i wneud hynny."

 

Mae Pam? yn Llyfr y Mis Cyngor Llyfrau Cymru ar gyfer Awst.

 

Bydd y nofel yn cael ei lansio yn swyddogol mewn noson arbennig yng Nghanolfan y Morlan yn Aberystwyth am 7.30 o’r gloch, nos Fercher y 24ain o Awst yng nghwmni Elin Jones AC a Catrin Beard.