Cyhoeddi rhifyn Gaeaf O'r Pedwar Gwynt

Mae rhifyn Gaeaf O'r Pedwar Gwynt wedi cael ei gyhoeddi gyda Jerry Hunter, Pwyll ap Sion ag R Gareth Wyn Jones ymhlith yr ysgrifennwyr, gyda llu o bynciau yn cael eu trafod yn cynnwys teyrnged i'r newyddiadurwraig nodedig Jan Morris.

Yn y rhifyn hwn, cyhoeddir ysgrif bersonol brin gan Jerry Hunter. Yn ‘Donald Trump, y CBF a fi’ mae’n rhannu ei brofiadau fel un a fagwyd yn Ohio cyn ymgartrefu yn Arfon 20 mlynedd yn ôl. Trafodir ganddo arwyddocâd y ‘Confederate Battle Flag’ (baner gwrthryfelwyr y de), ac yn ogystal â phenodau pwysig yn hanes yr Unol Daleithiau, cawn ddarllen am benodau arwyddocaol yn hanes ei deulu yntau. 

 

Ar drothwy ein hymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd, mae Pwyll ap Sion yn holi pam mae cynifer o bobl wedi troi at gerddoriaeth Kraftwerk er mwyn chwilio am atebion i gwestiynau dyrys Brexit. Hanes cudd yr EwroGymry sydd dan chwyddwydr M Wynn Thomas – ‘y dolennau cyswllt dychmygus a gwerthfawr rhwng Cymru a gwledydd y Cyfandir’. Dadleua bod gwerth y berthynas ag Ewrop i Gymru yn cael ei gwrthbwyso gan werth Cymru i Ewrop. 

 

O’r Cyfandir i’r byd: sut mae sicrhau bwyd i bawb? Canolbwyntia Carol Bell ein sylw ar fater cynyddol argyfyngus cynhyrchu bwyd: nid problem gwledydd incwm isel yn unig mo newyn beunyddiol – mae’n broblem gynyddol mewn gwledydd incwm uchel yn ogystal, a dadleua y dylai polisi bwyd priodol fod ar frig agenda’r llywodraeth. 

 

Oedi ar gyrion Ewrop, yn Algiers, a wna Siôn Pennar, er mwyn edrych yn ôl ar y presennol o ddyfodol 2082. Mae’n dadansoddi hanes treisgar Algeria annibynnol trwy gyfrwng ei hawduron, ac yn gweld yn eu gwaith yr her galed o drechu deuoliaethau – her gyfarwydd efallai i genhedloedd sydd wedi byw yng nghysgod grymoedd imperialaidd. 

 

Straeon ‘trosedd go iawn’ sydd ar feddwl Casi Dylan. Cwestiyna duedd y genre i ‘gyfalafu trosedd a throseddwyr’ a myfyria ar ei apêl ymhlith menywod yn arbennig. ‘Mae rhyddhad yn dod,’ meddai, ‘o roi ffurf ar yr ofnau afluniaidd o’m mewn.’ 
Mewn ysgrif am atgof plentyndod mae Angharad Price yn pendroni pam fod y gwpan a’r soser ar ei desg, na fydd byth yn eu defnyddio, bob amser yn llawn. Cyhoeddwn hefyd derynged arbennig i Jan Morris ganddi yn y rhifyn hwn. ‘Fe’ch gadawai, waeth pa mor fyr y cyfarfyddiad,’ ysgrifenna, ‘â’r teimlad eich bod yn cyfri.’  
A ninnau ar drothwy’r Nadolig, mae Cynog Dafis yn ailddychmygu Cristnogaeth, ac yn edrych i’r Dwyrain am arweiniad. Ac mae R Gareth Wyn Jones yn trafod amwysedd y natur ddynol gan dynnu ar syniadaeth gyfredol am seicoleg esblygiadol a’n hatgoffa mai ‘heb ei fai, heb ei eni’.  

 

A chylchgrawn Planet yn dathlu ei ben blwydd yn hanner cant eleni, cyhoeddwn gyfweliad â’r sylfaenydd Ned Thomas am ddegawd cynta’r cylchgrawn a chyfnod cythryblus y 70au. ‘Cawsom ein bygwth ag achosion enllib; gofynnwyd mwy nag unwaith i Gyngor Celfyddydau Cymru dynnu’n grant yn ôl,’ dywed, ‘a hynny gan unigolion dylanwadol.’ 

 

Y Sêr a nofio mewn llyn

 

Ymhlith toreth o gyfraniadau eraill, mae’r rhifyn hwn hefyd yn cynnwys cywydd gan Alan Llwyd er cof am y bardd distaw Dewi Stephen Jones; colofn newydd – arloesol yn Gymraeg –  sy’n trafod y sêr; sylwebaeth ddeifiol nodweddiadol Mihangel Morgan yn Gwynt y Dwyrain, lle mae’n trafod cyfrol Glyn Penrhyn Jones, Newyn a Haint yng Nghymru (1962); a lloffion diweddaraf ein llenor, Derfel Clarke. Mae Grug Muse yn nofio yn Llyn Nantlle Uchaf, Samuel Jones yn olrhain gwleidyddiaeth Pwtin i’w gyfnod ‘tu ôl i’r llenni’ yn gweithio i’r KGB yn Dresden, a chawn glywed barn Angharad Penrhyn Jones ar nofel gyntaf ‘ysgytwol’ yr awdures ifanc o Ddyffryn Nantlle, Megan Angharad Hunter.