Cyhoeddi ymchwil newydd am atgenhedlu eogiaid sydd wedi cael eu ffermio

03/05/2019

Categori: Amaethyddiaeth, Amgylchedd, Newyddion

Mae ymchwil newydd gan academydd o Brifysgol Bangor yn dangos bod eogiaid a ffermir yn llai atyniadol i'r fenyw nag eogiaid gwyllt ac o ganlyniad yn effeithio ar niferoedd yr eogiaid.

Y rheswm am hyn yw bod y bachau sydd o dan eu gên neu 'kype', sy'n nodwedd rywiol eilaidd, yn llai. Gellir cymharu'r nodwedd hon â chyrn carw.

 

Mae'r canfyddiad newydd hwn a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn gwyddoniaeth Royal Society Open Science a adolygir gan gymheiriaid, yn awgrymu bod eogiaid a fegir ar fferm yn llai deniadol yn rhywiol na'u brodyr gwyllt. Er mai dim ond ers y 1970au y maent wedi cael eu magu mewn caethiwed, maent eisoes yn gwyro oddi wrth yr eog gwyllt o fewn dim ond 12 cenhedlaeth.

 

Mae'r canfyddiad yn rhan o broject ymchwil ehangach i'r gwahaniaethau rhwng eog gwyllt, eog a ffermir ac eog croesryw.

 

Fel yr eglurodd William Perry, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor ac awdur arweiniol y papur: “Mae eog yr Iwerydd a ffermir weithiau'n dianc o'r rhwydi ac yn gallu rhyngfridio ag eog gwyllt, gan greu croesrywiau.

 

“I ddechrau, mae'r ffaith bod unrhyw eog sydd wedi dianc yn llai 'deniadol' oherwydd bod eu 'kype' yn llai yn ymddangos fel newyddion da, gan eu bod yn llai tebygol o fridio. Ond nid dyna'r stori gyfan.  Gan nad oes rhaid i bysgod a ffermir gystadlu am gymar, nid oes unrhyw elfen o ddethol rhywiol yn digwydd, sy'n golygu nad yw'r pysgod a ffermir a'r pysgod croesryw wedi'u haddasu'n dda i fridio yn y gwyllt. Felly, lle bynnag bo nifer fawr o eogiaid a ffermir wedi dianc, gan ryngfridio’n anochel gydag eogiaid gwyllt, gall hyn leihau iechyd hirdymor y boblogaeth honno.

 

Mae eogiaid a ffermir neu eogiaid croesryw yn llai tebygol o fridio'n llwyddiannus yn y gwyllt, ac maent hefyd yn llai tebygol o ddychwelyd o'r cefnfor i afonydd dŵr croyw i silio.”

 

“Mae nodi bod y nodwedd rywiol eilaidd hon yn llai amlwg mewn eogiaid a ffermir yn arwydd arall nad yw pysgod a ffermir, fel rhywogaeth ymrannol, yn gallu addasu'n dda, ac yn llai abl i gystadlu nag eogiaid gwyllt. Gall hwn fod yn batrwm sy'n cael ei ailadrodd mewn nifer o rywogaethau dyframaeth eraill.”

 

Effaith

 

Dywedodd yr Athro Gary Carvalho, goruchwyliwr PhD William yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor: “Dyma'r astudiaeth gyntaf i edrych ar effaith magu pysgod a chroesi pysgod ar nodweddion dewis rhywiol mewn eogiaid. Mae ein canfyddiadau'n dangos pan fydd anifeiliaid yn cael eu cadw mewn cyflyrau annaturiol, fel mewn fferm bysgod, gall newid esblygol cyflym ddigwydd. Gall hyn effeithio ar atgenhedlu a goroesi yn y dyfodol, ar ôl dim ond 12 cenhedlaeth. Mae newidiadau o'r fath yn peri pryder arbennig pan fo cannoedd o filoedd o bysgod a ffermir yn gallu dianc i'r gwyllt, ac o bosibl rhyngfridio, gyda pherthnasau gwyllt.

 

Ariennir PhD William gan raglen hyfforddiant Doethurol NERC ENVISION sy'n paratoi'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr amgylcheddol. Mae'n gweithio gyda'r Sefydliad Ymchwil Morol yn Bergen Norwy. Astudiodd William am ei radd gyntaf a gradd Meistr ym Mhrifysgol Bryste a chafodd ei ddenu i Brifysgol Bangor gan y cyfle i weithio gyda'r prif enetegwr pysgod, yr Athro Gary Carvalho.

 

Mae Will, sy'n 24 oed, yn gweithio'n agos gyda Sefydliad Ymchwil Morol Norwy yn gwneud teithiau rheolaidd i Bergen, Hordalandsydd wedi'i gefeillio â'i ddinas enedigol yng Nghaerdydd.