Cyhuddo Cyngor Gwynedd o fygwth cynghorwyr i beidio trafod polisi cynllunio

08/07/2019

Categori: Amgylchedd, Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo arweinyddiaeth cyngor Gwynedd o ‘fygwth’ cynghorwyr er mwyn osgoi trafodaeth ar ei gynlluniau i atal asesiadau effaith iaith ar y rhan helaeth o geisiadau cynllunio.

Fis diwethaf, rhybuddiodd bargyfreithiwr sy'n arbenigo ym maes cynllunio y byddai'r fod y cyngor yn agored i risgiau cyfreithiol pe bai'n cymeradwyo canllawiau cynllunio arfaethedig a fyddai'n groes i ddeddfwriaeth gynllunio a basiwyd yn y Senedd yng Nghaerdydd yn 2015. 

 

Mae pwyllgor o gynghorwyr o Wynedd ac Ynys Môn wrthi'n ystyried canllawiau cynllunio atodol, a fyddai, ymysg materion eraill, yn golygu atgyfnerthu polisi anghyfreithlon yn y Cynllun Datblygu Lleol sy'n golygu mai ar gyfer canran fach iawn o geisiadau cynllunio y mynnir asesiad llawn o effaith y datblygiad ar yr iaith Gymraeg. Roedd polisi Cyngor Gwynedd yn arfer mynnu asesiad effaith iaith llawn ar gyfer pob cais i adeiladu pump neu'n fwy o dai.

 

Cwpl o wythnosau yn ôl, anfonodd Cymdeithas yr Iaith wahoddiad at gynghorwyr lleol i sgwrs yr wythnos yma gyda’r bargyfreithiwr Gwion Lewis i drafod y cwestiynau cyfreithiol am y canllawiau.

 

Ond, mewn neges at holl gynghorwyr y sir ddiwedd wythnos ddiwethaf, dywed pennaeth gwasanaethau cyfreithiol Cyngor Gwynedd:"Rwy'n ymwybodol eich bod hefyd  bosib wedi derbyn gwahoddiad i fynychu sesiwn gan Gymdeithas yr Iaith lle fydd Mr Gwion Lewis yn eich " briffio" ar y sefyllfa gyfreithiol ynglŷn â'r materion uchod. Wrth gwrs nid lle Mr Gwion Lewis na Chymdeithas yr iaith yw darparu arweiniad cyfreithiol i Gyngor Gwynedd na'i aelodau. Yn fy marn i mae hyn yn creu sefyllfa o wrthdrawiad buddiannau a risgiau gan gymryd mai'r bwriad yw ceisio tanseilio barn gyfreithiol y Cyngor, barn mae'n rhaid i chi ystyried  wrth weithredu eich swyddogaethau."   

 

Mae’r rhybudd yn defnyddio’r un ieithwedd â chod ymddygiad cynghorwyr sir Gwynedd sy’n datgan: “rhaid i aelodau ... [c]ymryd camau i ddatrys unrhyw wrthdaro mewn modd sy'n diogelu buddiannau'r cyhoedd.”  

 

Dywedodd Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith: “Mae’n hollol glir beth yw pwrpas neges y swyddog: codi ofn ar gynghorwyr er mwyn cau lawr trafodaeth gyhoeddus ar faterion polisi sy’n bwysig iawn i’r Gymraeg. Effaith y canllawiau arfaethedig fyddai atal cynghorwyr rhag comisiynu asesiadau effaith iaith ar geisiadau cynllunio unigol yn y rhan helaeth o achosion. Oherwydd y gyfundrefn arfaethedig hon, fe fyddai’r ceisiadau cynllunio yn cael eu cyflwyno heb asesiadau effaith iaith ohonynt, ac felly ni fyddai modd i gynghorwyr gael sail tystiolaeth i fedru gwrthod neu gymeradwyo cynlluniau ar sail eu heffaith ar y Gymraeg. Rydyn ni’n ymgyrchu i geisio newid y polisi hwn fyddai’n niweidiol i’r iaith. 

 

“Mae’n rhaid dweud fy mod i’n pryderu’n fawr iawn am gyflwr democratiaeth yng Ngwynedd. Pa ddemocrat fyddai’n meddwl ei fod yn iawn i fygwth cynghorwyr yn y fath modd? Oni ddylai’r cyngor fod yn annog trafodaeth agored am y materion hyn? Mae cwestiynau mawr i’w gofyn am pam mae’r swyddog wedi anfon y neges hon a phwy sydd wedi ei gyfarwyddo.

 

Gofyn am ddeialog

 

Ychwanegodd Menna Machreth, “I gyd rydyn ni’n ceisio ei wneud yw gwella polisi’r cyngor pan ddaw hi at ystyriaeth y Gymraeg o fewn y system gynllunio. Mae darparu gwybodaeth yn rhan bwysig o hynny. Mae’n iach bod trin a thrafod a gwahaniaeth farn - dyna yw craidd ddemocratiaeth. Dydyn ni ddim yn mynd â’r cyngor i’r llys, a dydyn ni ddim eisiau gwneud hynny. Rydyn ni eisiau deialog: rydyn wedi gofyn am gyfarfod gyda’r aelod cabinet yng Ngwynedd i drafod hyn, ond mae fe wedi gwrthod cwrdd tair gwaith. Dydyn ni ddim yn deall pam nad yw’r cyngor eisiau trafodaeth agored: mae’n ymddygiad annemocrataidd.”