Cylchgrawn Tu Chwith ar y thema ‘Digidol’
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Newyddion

Bydd rhifyn #38 o gylchgrawn Tu Chwith, ar y thema ‘Digidol’ yn cael ei gyhoeddi cyn hir. Bydd y rhifyn hwn yn trafod datblygiadau digidol, boed hynny ym myd e-newyddiaduraeth, gemau cyfrifiadurol, celf a llenyddiaeth. Bydd y rhifyn yn camu i fyd y blogio, trydar ac i oes bell, bell yn ôl pan ddaeth y cyfrifiadur i ddisodli’r cwilsyn. Bydd gennym eitem ar Ŵyl Gelf Ddigidol Blinc, sy’n cael ei chynnal yn flynyddol yng Nghonwy, lle mae nifer o artistiaid yn cael eu comisiynu i drawsnewid y dref yn oriel gelf ryngweithiol. Dyma ŵyl sydd gwironeddol werth ymweld â hi.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd golygydd gwadd ar gyfer y rhifyn dilynol, sef Llŷr Gwyn Lewis. Mae Llŷr yn fyfyriwr ôl-radd ym Mhrifysgol, Caerdydd ac yn gobeithio cwblhau ei draethawd doethurol eleni. Ei thema ar gyfer rhifyn #39, rhifyn yr Eisteddfod, yw’r ‘Eisteddfod’. Yn dilyn sefydlu tasglu o ddeuddeg y llynedd i drafod dyfodol y brifwyl, gobaith Llŷr ar gyfer y rhifyn hwn yw casglu ‘gwahanol ymatebion a dehongliadau gan ddarparu llais amgen ynghylch yr Eisteddfod gan y rhai sydd wedi cyfranogi’n uniongyrchol ohoni ac a fydd yn cyfrannu ati am flynyddoedd i ddod.’ Bydd y rhifyn yn cael ei gyhoeddi fis union cyn i’r tasglu adrodd eu canfyddiadau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews ym mis Medi 2013. Mae Llŷr hefyd yn awyddus i gynnwys gweithiau creadigol ar ffurf barddoniaeth, rhyddiaith a chelf, a fydd yn ymateb yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i’r thema.
Os hoffech gyfrannu i rifyn #39, mae croeso i chi gysylltu â Llŷr i drafod eich syniadau ymhellach. Mae modd cysylltu gyda Llŷr yn uniongyrchol: llyrgwyn@gmail.com neu anfon neges i gyfeiriad e-bost y cylchgrawn: tuchwith@googlemail.com
#digidol38 #eisteddfod39