Cymdeithas yr Iaith yn dechrau boicot o Archfarchnad Morrisons

Ar ddechrau cyfnod siopa prysur y Nadolig, bydd ymgyrchwyr iaith yn dechrau boicot cenedlaethol o siopau Morrisons ar Ragfyr 1af. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar reolwyr Morrisons i gynnig arweiniad a pholisi cenedlaethol sy'n adlewyrchu statws swyddogol y Gymraeg. Maent hefyd yn galw ar garedigion y Gymraeg i ymuno yn y boicot.
Dywedodd Manon Elin, llefarydd Hawliau Cymdeithas yr Iaith, "Rydym yn parhau i drafod gyda Morrisons, ond yn anffodus, hyd yn oed ar ôl blynyddoedd o drafodaethau, does dal dim polisi iaith cenedlaethol ganddyn, - nid ydym yn cytuno mai cyfrifoldeb staff siopau unigol yw penderfynu faint o ddeunyddiau hyrwyddo a chyhoeddiadau Cymraeg sy’n briodol yn y siop. Mae angen i'w prif swyddogion ddangos arweiniad clir.
Maent o'r farn fod yna ddyletswydd ar Morrissons i barchu'r Gymraeg yn ei siopau,
Yn ol Miss Elin, "Er enghraifft, mae arwyddion uniaith Saesneg wedi cymryd lle rhai dwyieithog wrth iddynt ail-frandio eu siopau yng Nghymru. Credwn fod dyletswydd ar Morrisons, fel cwmni sy'n gwneud elw yng Nghymru, i barchu'r Gymraeg. Wrth barhau â’r boicot, rydym yn grediniol bod modd ennill y frwydr bwysig hon, yn arbennig yn ystod cyfnod prysuraf y cwmni yn arwain at y Nadolig. "
Ym mis Awst eleni, cyhoeddodd y mudiad iaith eu galwadau i Morrisons,i sicrhau fod y gofal cwsmer, yr arwyddion a labeli'r cwmni,y n gwbl ddwyieithog led led Cymru,
Ychwanegodd Jamie Bevan, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Mae targedu Morrisons yn gyfiawn nid yn unig o ran diffygion y cwmni ei hun, ond fel enghraifft o'r anghyfiawnder cyffredinol - sef y diffyg parch a sylw mae siopau o'r fath yn dangos i'r iaith. Mae gan ein gwleidyddion yn y Cynulliad rym i ddatrys y diffygion hyn, a galwn arnyn nhw i ychwanegu archfarchnadoedd a siopau'r stryd fawr i'r rhestr o gwmnïau sy'n dod o dan ddeddwriaeth iaith".
Galwodd Jamie ar garedigion yr Iaith i ymuno yn y boicot,
"Rydym yn galw felly ar garedigion y Gymraeg i ymuno yn y boicot cenedlaethol hwn nes bod Morrisons yn cymryd ein hiaith o ddifri.Dyma gyfle euraidd i ni wneud dipyn mwy o'n siopa mewn busnesau lleol."